Ymchwil

GWELLA DARPARIAETH POLISI CYHOEDDUS TRWY GYMHWYSO TECHNEGAU HYGYRCHEDD SY’N SEILIEDIG AR RWYDWAITH GIS

Mae Ymchwil System Gwybodaeth Ddaearyddol yn Gwella Cynllunio Strategol ar gyfer y Llywodraeth a Chyrff Anllywodraethol.

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
Two patients sit in chairs with their arms supported by pillows while attached to medical machines administering treatment in a hospital ward

Mae offer arloesol a ddatblygwyd gan Brifysgol De Cymru wedi galluogi'r llywodraeth, cyrff chwaraeon cenedlaethol a sefydliadau elusennol i wella eu gwaith cynllunio strategol a helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol yn well.

Ers 2006, mae’r Ganolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) wedi gwneud gwaith ymchwil sy’n edrych ar amrywiadau daearyddol wrth i bobl geisio defnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus a phreifat. Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru, gan ddarparu’r sylfaen dystiolaethol a arweiniodd y broses o ddethol ardaloedd a ddefnyddiwyd i dreialu eu polisi newydd ar gyfer gofal plant

Yn fwy na hynny, ysgogodd hynny werthusiad parhaus o’r defnydd o’r adnoddau hyn ar gyfer cyfrifo sgoriau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn y dyfodol, sy’n cael eu defnyddio i ddyrannu arian i raglenni ledled Cymru. Fe wnaeth y gwaith ymchwil hefyd roi i gyrff chwaraeon cenedlaethol, fel Gymnasteg Cymru, a’r sefydliad elusennol Tenovus Cancer Care, wybodaeth fanylach nag o’r blaen am batrymau hygyrchedd wrth edrych ar ffyrdd o ddarparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.