Ymchwil

Lleihau niwed ac achub bywydau

Mewn Sefyllfaoedd o Gamddefnyddio Sylweddau

Ymchwil Canlyniadau'r Fframwaith yn 2021
A variety of different pills spilled out on to a table

Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr ar ei uchaf erioed. Mae’r broblem yn arbennig o ddifrifol yng Nghymru lle mae lefelau uwch o amddifadedd wedi cyfrannu at gyfradd marwolaethau sy’n llawer uwch nag yn Lloegr.

Rhwng 2009 a 2020, fel rhan o waith ymchwil ym maes troseddeg i fynd i'r afael â'r heriau hyn dan arweiniad yr Athro Katy Holloway, cynhaliwyd cyfres o brosiectau meintiol rhyng-gysylltiedig sydd wedi helpu i leihau niwed ac achub bywydau mewn sefyllfaoedd o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae’r canfyddiadau wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar gomisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno’r cynllun Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref ledled Cymru (cyffur yw naloxone sy’n gwrthdroi gorddosau heroin) a newidiadau pwysig i’r cyngor oedd wedi bod yn cael ei roi ers tro byd i leihau niwed.   

Mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys bron i 500 o farwolaethau’r flwyddyn ac 15,000 o dderbyniadau i’r ysbyty, yn achos pryder yng Nghymru. Yn sgil hynny, cyflwynodd Llywodraeth Cymru isafbris ar gyfer alcohol yn 2020. 

Helpodd ymchwilwyr PDC wasanaethau hefyd i baratoi at oblygiadau negyddol anfwriadol cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru. Yn eu plith mae timau alcohol a chyffuriau cymunedol statudol yn ardal pob Bwrdd Iechyd, ynghyd â’r pum prif ddarparwr yng Nghymru sy’n rhoi triniaeth am gamddefnyddio sylweddau. Maen nhw’n gweithio hefyd gyda Llywodraeth Cymru ar astudiaeth hydredol i werthuso effaith cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol.