Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd hirsefydlog yng Nghymru
Offeryn Gwydnwch Teuluol yn Cefnogi Iechyd Plant.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
Mae gwydnwch teuluol yn hollbwysig wrth hybu iechyd a datblygiad plant cyn oed ysgol.
Mae gwydnwch teuluol yn hollbwysig wrth hybu iechyd a datblygiad plant cyn oed ysgol. Yn 2014, datblygodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) adnodd asesu yn seiliedig ar dystiolaeth i helpu ymwelwyr iechyd i ganfod y teuluoedd hynny.
Cafodd yr Offeryn ac Adnodd Asesu Gwydnwch Teulu (FRAIT) ei ymgorffori yn rhan o ‘Raglen Plant Iach Cymru’ Llywodraeth Cymru (2016), a chael mandad ym mis Hydref 2017. Mae pob ymwelydd iechyd yng Nghymru (n=1086) yn defnyddio FRAIT wrth ymweld â phob teulu sy’n rhan o’u llwyth achosion (isafswm o 250 o deuluoedd), a hynny ar 7 achlysur, sef dros 1.8 miliwn o gysylltiadau teuluol. Bydd teuluoedd yn elwa o asesiad gan Ymwelydd Iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny’n arwain at ymyriadau amserol sydd wedi’u targedu.
Bellach, ar ôl y pandemig, ystyrir defnyddio FRAIT yn India lle nad oes gan nyrsys cymunedol adnodd safonol i asesu gwydnwch mewn teuluoedd. Mae gan y gwaith ymchwil hwn y potensial i effeithio’n gadarnhaol ar fywydau 158 miliwn o blant dan chwech oed yn India.