O YMARFER I’R PODIWM
Gwella hyfforddiant, gwasanaethau a pherfformiad gwyddonwyr chwaraeon, hyfforddwyr, addysgwyr, ac athletwyr elitaidd.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-sports-psychology-research-thumbnail.png)
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi datblygu dealltwriaeth newydd o fecanweithiau ac ymyriadau a all wella’r broses o ddarparu gwasanaethau effeithiol yn y byd chwaraeon. Gan weithio gydag asiantaethau’r llywodraeth, cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, a darparwyr addysg, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi llywio gwelliannau yn addysg a pherfformiad hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol, staff cymorth ac athletwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae chwaraeon wedi cael ei alw yn faes lle gall pobl ddysgu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu ym mhob agwedd ar eu bywydau. Fodd bynnag, ychydig rydyn ni’n ei wybod am y ffordd y caiff sgiliau bywyd eu datblygu drwy chwaraeon.
Mae ymchwil mewn ymarfer myfyriol dan arweiniad Brendan Cropley, Athro Hyfforddi Chwaraeon, wedi rhoi sail i raglenni addysg hyfforddwyr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA, ac wedi dylanwadu ar arferion hyfforddi ledled Cymru i wella datblygiad personol chwaraewyr.
Gan weithio’n agos gyda Chymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) ac UK Coaching, mae ymchwil PDC hefyd wedi dylanwadu ar raglenni addysg hyfforddwyr mewn ystod eang o chwaraeon ac wedi bod ar gael i gynulleidfa fyd-eang. Rhwng 2014 a 2020, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar wasanaethau dros 4000 o hyfforddwyr sy’n gweithio yng Nghymru, dros 100 o hyfforddwyr pêl-droed elitaidd sy’n gweithio ledled y byd, a dros 100 o staff cymorth gwyddor chwaraeon.
Y tu hwnt i chwaraeon, defnyddiwyd y gwaith ymchwil hwn i lywio’r gwaith o ddatblygu’r gweithlu e.e. yng Ngholeg y Cymoedd lle cafodd ei ddefnyddio i wella’r modd y darperir gwasanaethau academaidd drwy drawsnewid y broses o ddatblygu’r gweithlu ar gyfer 800 o aelodau o staff.
Mae paratoi hyfforddwyr, staff cymorth ac athletwyr yn seicolegol yn rhagfynegydd cydnabyddedig o berfformiad llwyddiannus mewn digwyddiadau cystadleuol.
Mae gwaith ymchwil cydweithredol mewn seicoleg perfformiad a bioadborth o dan arweiniad David Shearer, Athro Seicoleg Perfformiad Elitaidd, wedi cael ei ddefnyddio gan Chwaraeon Cymru i baratoi dros 100 o athletwyr elitaidd i ddelio â’r pwysau cyn digwyddiadau chwaraeon mawr ar lefel fyd-eang e.e. yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 a’r Arfordir Aur yn 2018, lle cafodd Tîm Cymru ei berfformiad gorau erioed wrth ennill medalau ar lefel ryngwladol.
Mae gwaith ymchwil cydweithredol gyda Nofio Cymru wedi newid diwylliant cystadlu, o lawr gwlad i gystadlaethau rhyngwladol elitaidd, ac wedi dylanwadu ar y broses ddatblygu a pharatoi nofwyr.
CYDWEITHIO AG ATHLETWYR CYMRU
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-sports-psychology-research-thumbnail.png)