Ymchwil

Trawsnewid arferion ymchwil data archaeolegol

Yn Gwella Systemau Sefydliad Gwybodaeth

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
Woman at table looking at genealogical tree

Mae gwaith ymchwil ym maes cyfrifiadura a wnaed ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi edrych ar sut y gall systemau trefnu gwybodaeth helpu i oresgyn y problemau rhyngweithredu semantig o fewn treftadaeth ddigidol. Problemau yw’r rhain sy’n arwain at ddiffyg cysylltiad ystyrlon rhwng setiau data, ac at chwiliadau sy’n anwybyddu deunydd perthnasol neu sy’n dychwelyd cyfatebiadau ffug.  

Yn genedlaethol, arweiniodd y gwaith ymchwil hwn at welliant mawr yn ansawdd gwasanaethau (gwell chwilio a chofnodi data) yn y fersiwn newydd o OASIS (Mynediad Ar-lein i'r Mynegai Ymchwiliadau Archaeolegol), sef y gronfa ddata ar-lein ar gyfer archaeolegwyr ac ymarferwyr treftadaeth yn y Deyrnas Unedig.  

Yn rhyngwladol, cynigiodd PDC eirfa asgwrn cefn ar gyfer seilwaith archaeolegol Ewropeaidd, a datblygodd offer, templedi a chanllawiau mapio ffynonellau agored. Arweiniodd hyn at allu chwilio semantig amlieithog sy’n seiliedig ar gysyniadau, gan roi mynediad i adnoddau nad ydyn nhw ar gael yn Saesneg ar gyfer y prif ganolfannau data archaeolegol Ewropeaidd a’r gymuned archaeolegol ehangach.