Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

D28: Hanes

Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.

Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021
an image for the masthead

Mae haneswyr PDC yn ymchwilio i’r byd ers 1450. Maen nhw’n ysgrifennu am yr ynysoedd hyn, cyfandir Ewrop, byd yr Iwerydd, ac agweddau ar hanes byd-eang. 

Ymhlith y meysydd arbenigol mae caethwasiaeth yr Iwerydd; erledigaeth ‘gwrachod’ yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg; hunaniaeth grefyddol yn ystod y Diwygiad; hanes cyrchfannau glan môr; menywod a chymhelliad yn yr ugeinfed ganrif; a’r cysylltiadau rhwng arfau niwclear ac imperialaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd.  

UCHAFBWYNTIAU’R FFRAMWAITH

  • Mae 74% o’r ymchwil ym maes hanes gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
  • Mae 78% o'n hallbynnau gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*), sy'n golygu ein bod yn gyntaf yng Nghymru ar gyfer allbynnau o blith 4 prifysgol – yn seiliedig ar 4*/3*
  • Mae 100% o effaith ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*)
  • Cydradd gyntaf yn y Deyrnas Unedig am effaith o blith 81 o brifysgolion – yn seiliedig ar 4*/3*   

CANLYNIADAU’R UNEDAU ASESU

 
% 4*
% 3*
% < 2*
Cyffredinol
16 58 26
Allbynnau
5.6 72.7 22.2
Effaith
50.0 50.0 0.0
Amgylchedd 
0.0 12.5 87.5

 I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk.