Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol

Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o ddiwydiant a’r byd academaidd i ddarparu gwybodaeth ac effaith o'r radd flaenaf, ac mae gennym berthnasoedd cryf ag amrywiaeth o randdeiliaid a defnyddwyr ymchwil allweddol.

Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles
Exterior close up shot of the Aneurin Bevan building.

Wedi'i ffurfio yn 2003, cenhadaeth yr Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol (UDIDD) yw gweithio mewn partneriaeth i wella ansawdd bywyd ac ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth, i bobl ag anableddau deallusol a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Rydym yn gwneud hyn trwy raglen integredig o ymchwil, addysg ac ymarfer anableddau deallusol sy'n cynnwys ffocws ar ofal diwedd oes, diogelu, ac ymchwil gyfranogol.

Mae aelodau'n adolygwyr arbenigol rheolaidd ar gyfer ystod eang o gyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid a chyrff ariannu.

Ein hamcanion:

  • Datblygu a chynnal rhaglen o ymchwil, addysg a datblygu ymarfer rhyngddisgyblaethol sy'n cael ei chynllunio a'i chyflwyno mewn cydweithrediad â phobl ag anableddau deallusol a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
  • Datblygu a chynnal rhaglen o ymchwil, addysg a datblygu ymarfer rhyngddisgyblaethol sy'n cael ei chynllunio a'i chyflwyno mewn cydweithrediad â darparwyr gwasanaethau.
  • Datblygu capasiti ymchwil sy'n ymwneud ag anableddau deallusol o fewn ac y tu allan i Brifysgol De Cymru.
  • Cynnal enw da cenedlaethol a rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth mewn ymchwil, addysg a datblygu ymarfer anableddau deallusol.

 


PROSIECTAU YMCHWIL

Cyllidwr: NIHR

Cydweithwyr: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caint, Prifysgol Birmingham, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Warwick, Prifysgol Ulster a Phrifysgol Rhydychen.

Briff: Mae'r Athro Cyswllt Richard May (UDIDD) a'i gydweithwyr yn cynnal Hap-dreial cenedlaethol dan Reolaeth, a gyllidir gan yr NIHR, sy'n edrych ar effeithiolrwydd y rhaglen Dulliau Cadarnhaol Cynnar o Gefnogi (E-PAtS). Mae E-PAtS yn rhaglen gymorth i rieni/gofalwyr ar gyfer teuluoedd plant ifanc ag anabledd deallusol.

www.epats-study.com

Cyllidwr: NIHR

Cydweithwyr: Prifysgol Birmingham, Prifysgol Bangor, Ysgol Jigsaw, Prifysgol Ulster a Phrifysgol Caint.

Briff: Mae'r Athro Cyswllt Richard May (UDIDD) wrthi'n arwain prosiect sy'n archwilio Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) i bobl ag anableddau dysgu yn y DU. Nod y prosiect hwn yw casglu gwybodaeth am weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwahanol rolau o fewn PBS, gyda'r bwriad o nodi anghenion darparu gwasanaethau yn y maes.

Cyllidwr: Sefydliad Sharland

Cydweithwyr: Prifysgol Birmingham, Prifysgol Warwick, Prifysgol Ulster, Prifysgol Bangor, Ymgynghorwyr Addysgol Pyramid 

Briff: Mae'r Athro Cyswllt Richard May (UDIDD) yn gweithio gyda thîm o Pyramid Education ar dri phrosiect sy'n ymwneud ag addysgu sgiliau.

•    Mae'r prosiect cyntaf yn canolbwyntio ar ddatblygu a dilysu offeryn cywirdeb gweithrediad ar gyfer y System Gyfathrebu Cyfnewid Lluniau (PECS). Er bod PECS yn cael ei ddefnyddio'n eang iawn, mae'r gweithrediad yn aml yn is-optimaidd fel y dangosir mewn rhai o waith blaenorol ein tîm (gweler https://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/38341815/). Rydym yn obeithiol y bydd y prosiect hwn yn arwain at offeryn a fydd yn dod yn feincnod ar gyfer gweithredu PECS mewn ymarfer clinigol a lleoliadau ymchwil.


•    Mae'r ail brosiect yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb o Fodel Ystafell Ddosbarth Pyramid. Mae'r model hwn yn ddull dosbarth cyfan wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr ag anableddau dysgu sy'n pwysleisio sgiliau cyfathrebu ac addysgu unigol, ar sail tystiolaeth. Rydym yn archwilio derbynioldeb a dichonoldeb y model gyda'r bwriad o gynnal hap-dreial dan reolaeth ar raddfa lawn, i werthuso ei effeithiolrwydd.


•    Yn olaf, mae Dr May a'i gydweithwyr hefyd yn archwilio dichonoldeb a derbynioldeb defnyddio PECS gydag oedolion ag anableddau dysgu.

Mae UDIDD yn cydweithio, ynghyd ag eraill, ar astudiaeth CONNECT, dan arweiniad Prifysgol Birmingham a gyda chyllid y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Nod y prosiect yw gwella ymgysylltiad a chyfranogiad cymunedol ymhlith oedolion ag anableddau dysgu, sy’n aml mewn perygl o ynysigrwydd cymdeithasol. Er bod amrywiol ymyriadau'n bodoli i hyrwyddo cyfranogiad, mae'r cysyniad yn aml wedi'i ddiffinio'n wael, ac mae'n parhau i fod yn aneglur pa ddulliau sy'n effeithiol, i bwy, ac o dan ba amgylchiadau. Mae CONNECT yn defnyddio dulliau adolygu realydd, dulliau gwerthuso realydd, a chyd-gynhyrchu i archwilio'r cwestiynau hyn. Nod yr astudiaeth yw cyd-gynhyrchu fframwaith a chanllawiau ymarferol i gefnogi camau gweithredu a gwerthuso ymyriadau cyfranogiad cymunedol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae'r prosiect yn rhedeg tan fis Mehefin 2027.



Mae Prifysgol De Cymru wedi cael ei hariannu gan Ymchwil Marie Curie i gynnal astudiaeth ymchwil arloesol ar fynediad at ofal diwedd oes i oedolion ag anableddau dysgu. Mae aelodau UDIDD yn arwain yr astudiaeth hon mewn cydweithrediad â Phrifysgol Southampton, Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan. Mae ymchwilwyr ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi i gydweithio yn yr astudiaeth ym Mhrifysgol Kingston. Mae cael y gofal cywir ar ddiwedd oes yn golygu y gall pobl sy'n marw a'r rhai sy'n agos atynt fyw'n dda hyd at y diwedd. Efallai y bydd angen y math hwn o ofal ar lawer o bobl, ond efallai na fydd bob amser yn hawdd sylweddoli bod rhywun ag anabledd dysgu yn marw, yn enwedig os nad oes ganddynt ganser na dementia. Yn yr astudiaeth hon, byddwn yn siarad â gofalwyr teuluol sydd wedi cael profedigaeth a staff cymorth sydd wedi cael profedigaeth, yn ogystal â meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am yr heriau sy’n codi wrth sylweddoli y gallai rhywun ag anabledd dysgu fod yn marw, pan nad oes ganddynt ganser na dementia. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ag anableddau dysgu yn marw o'r ddau salwch hynny, felly mae'n bwysig edrych ar hyn i wella mynediad at ofal diwedd oes i lawer mwy o bobl ag anableddau dysgu. Am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth hon cysylltwch â [email protected].

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gyda Dr. Alexis Jones (FLSE) ac mewn cydweithrediad ag Uwch Seicolegydd Addysg sy'n cefnogi ysgolion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae dosbarth o ddysgwyr yn cael mynediad at ymyriad darllen ar gyfrifiadur gyda'r prif fesurau dibynnol yn newidiadau mewn sgoriau darllen cyn yr ymyriad, yn ogystal ag adborth ar y rhaglen gan y dysgwyr a'r staff addysgu. Mae'r tîm ymchwil hefyd yn gwerthuso addasiadau a wnaed i agweddau ar y rhaglen a'r mesurau dibynnol, fel eu bod yn fwy hygyrch i'r boblogaeth hon.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gyda Dr. Aimee Giles ac mae'n cynnwys cyfweld â gweithwyr proffesiynol o sawl disgyblaeth ar eu profiadau o ddefnyddio dulliau ysgogi (er enghraifft, ciwiau gweledol) wrth addysgu plant ag anableddau dysgu. Hyd yn hyn, cynhaliwyd cyfweliadau gyda therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes dadansoddi ymddygiad. Mae'r themâu a nodwyd o'r cyfweliadau hyn yn cael eu defnyddio i lywio arolwg ar sut mae dulliau ysgogi yn cael eu defnyddio a sut mae gweithwyr proffesiynol yn goresgyn rhwystrau posibl (e.e., dysgwyr yn dod yn ddibynnol ar ysgogiadau, neu gyffredinoli cyfyngedig o sgiliau).

Nod y prosiect hwn yw cynnal dadansoddiad eilaidd o gronfa ddata genedlaethol sy'n seiliedig ar y boblogaeth (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, SAIL), i ddarganfod pa mor gyffredin yw heintiau'r llwybr wrinol (UTI) ac anymataliaeth (wrin, coluddyn, neu'r ddau fath gyda'i gilydd) ymhlith oedolion ag anabledd dysgu, o'u cymharu ag oedolion nad oes ganddynt anableddau dysgu yn y boblogaeth gyffredinol. Gwyddom fod UTI ac anymataliaeth yn gyffredin ymhlith oedolion ag anableddau dysgu, ond nid yw'r nifer wirioneddol o achosion yn hysbys eto. Mae ymchwil ragarweiniol flaenorol wedi dangos bod oedolion ag anableddau dysgu bum gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty am UTI.

Mae'n ymddangos bod modd osgoi'r derbyniadau brys hyn drwy ganfod UTI yn gynt, neu drwy atal UTI. Mae ein hymchwil ddiweddar hefyd wedi dangos bod oedolion ag anableddau dysgu sy'n dioddef anymataliaeth yn profi cyfraddau uchel o UTI, a UTI mynych. Am y rheswm hwn, hoffem hefyd ddarganfod a yw oedolion ag anableddau dysgu sy'n anymataliol yn fwy tebygol o brofi UTI, UTI mynych, a derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer UTI, o'i gymharu ag oedolion ag anableddau dysgu sydd ddim yn anymataliol.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn nodi ffactorau risg cysylltiedig ar gyfer UTI, a ffactorau risg cysylltiedig ar gyfer anymataliaeth ymhlith oedolion ag anableddau dysgu. Mae gan oedolion ag anableddau dysgu batrymau iechyd gwahanol i oedolion nad oes ganddynt anableddau dysgu yn y boblogaeth gyffredinol, felly gall y ffactorau risg hyn fod yn wahanol i ffactorau risg sydd eisoes wedi'u nodi ar gyfer oedolion nad oes ganddynt anableddau dysgu yn y boblogaeth gyffredinol. Mae'r gwaith hwn yn bwysig i bennu cwmpas a hyd a lled problemau UTI ac anymataliaeth ymhlith oedolion ag anableddau dysgu, ac ar gyfer nodi ffactorau risg y gellir eu haddasu a’u trin yn rhwydd o bosibl ar gyfer ymyriadau yn y dyfodol, i leihau neu atal UTI ac anymataliaeth ymhlith oedolion ag anableddau dysgu.

Cyllidwr: NIHR

Staff y Prosiect: Yr Athro Cyswllt Richard May (UDIDD)

Cydweithwyr: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caint, Prifysgol Birmingham, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Warwick, Prifysgol Ulster a Phrifysgol Rhydychen

Mae'r Hap-dreial cenedlaethol hwn dan Reolaeth, a gyllidir gan yr NIHR, yn gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen Dulliau Cadarnhaol Cynnar o Gefnogi (E-PAtS). Mae E-PAtS yn rhaglen gymorth i rieni/gofalwyr a gynlluniwyd ar gyfer teuluoedd plant ifanc ag anableddau deallusol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.epats-study.com.

Cyllidwr: Sefydliad Sharland

Staff y Prosiect: Yr Athro Cyswllt Richard May (UDIDD) Cydweithwyr: Prifysgol Birmingham, Prifysgol Bangor, Ysgol Jigsaw, Prifysgol Ulster a Phrifysgol Caint.

Mae'r Athro Cyswllt Richard May yn UDIDD yn arwain prosiect ar Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) i bobl ag anableddau dysgu yn y DU. Nod yr astudiaeth yw casglu gwybodaeth am weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amrywiol rolau PBS i nodi anghenion darparu gwasanaethau yn y maes hwn.

Staff y Prosiect: Yr Athro Cyswllt Carmel Conn (UDIDD) a chydweithwyr

Mae PDC yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bryste a Thîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru ar brosiect effaith a ariennir gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC. Mae'r prosiect, o'r enw 'Cryfhau'r Weledigaeth: Hyrwyddo Mentrau Addysg Gynhwysol yng Nghymru', yn brosiect 18 mis a'i nod yw datblygu dealltwriaeth gyffredin o sut y dylai system addysg gynhwysol edrych yng Nghymru. Yn benodol, defnyddir trafodaethau grŵp ffocws gydag athrawon a dysgwyr i gasglu eu safbwyntiau ar addysg gynhwysol yng Nghymru a beth sy'n cyfrif fel darpariaeth 'sydd ar gael yn gyffredinol'. Bydd y mewnwelediadau hyn yn llywio briff polisi ar gyfer llunwyr polisi ac yn creu model o addysg gynhwysol yng Nghymru.

Staff y Prosiect: Yr Athro Cyswllt Carmel Conn (UDIDD)

Gan dynnu ar fframwaith 'Sut mae’r broblem yn cael ei chynrychioli' gan Bacchi, mae'r astudiaeth hon yn cwestiynu polisi addysg gynhwysol ar draws pedair gwlad y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r tîm ymchwil, sy'n cynnwys uwch academyddion yn y pum gwlad, yn dadansoddi dogfennaeth bolisi a ddewiswyd ar sail ei pherthnasedd, ei chyfoesedd a'i tharddiad. Mae sut mae 'problem' addysg gynhwysol yn cael ei mynegi a'i phortreadu ar draws y pum gwlad yn destun ymchwiliad o ran cynnwys, pwyslais a thrafodaeth.

Staff y Prosiect: Yr Athro Cyswllt Carmel Conn (UDIDD)

Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r groesffordd polisi-ymarfer, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygiad arferion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ysgolion cynradd yng Nghymru mewn ymateb i ddiwygio addysgol diweddar, trwy ganolbwyntio ar waith y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) a'i gydweithrediad ag eraill. Mae'r astudiaeth yn defnyddio grwpiau ffocws o CADY ledled de Cymru i archwilio eu hymdeimlad o gysylltedd o fewn y system addysg a'r amodau sy'n cefnogi datblygiad arferion addysgol cynhwysol.

Cyllidwr: Wedi'i gomisiynu a'i gyllido gan yr Academi Brydeinig a JISC

Staff y Prosiect: Dr Steve Walden (UDIDD, Prifysgol De Cymru), Samantha Taylor a Rhiannon Currie (TRAC, Prifysgol De Cymru), Dr Owen Barden (Coleg y Drindod Dulyn), yr Athro Liz Tilley (Y Brifysgol Agored), a chydweithwyr o Brifysgol Gwlad yr Iâ

Defnyddiodd y prosiect hwn Gorpws digidol Llyfrgell Treftadaeth Feddygol y DU (UKMHLC) i gynhyrchu gwybodaeth newydd am hanes anableddau dysgu yn y DU. Y nod cyffredinol oedd gwneud cyfraniad pwysig at y maes cynyddol o ymchwil ryngddisgyblaethol a chyfranogol am anableddau dysgu. Defnyddiodd y prosiect fethodoleg ymchwil ansoddol (thematig/deongliadol) bwrpasol wrth fynd i'r afael â'r amcan hwn, gan gyfuno ymchwil archifol â sesiynau ymchwil gyfranogol yn cymharu bywyd Antonia Grandoni, menyw o'r Eidal yn y 19eg Ganrif a oedd yn byw gydag anabledd dysgu, â phrofiad byw cyfranogwyr ymchwil ag anableddau dysgu o Elusen yr Ymennydd a TRAC PDC (Pobl yn Gyntaf) i gynhyrchu gwybodaeth newydd. Cynhaliwyd cyfres o weithdai ffocws lle cyflwynwyd, trafodwyd, dadansoddwyd, dehonglwyd ac ymatebwyd i'r Deunydd archif yn ymwneud â phrofiadau Antonia. Trafodwyd ystod o ddulliau dadansoddol, deongliadol a chreadigol a oedd yn briodol ar gyfer y cyfranogwyr ymchwil gan gynnwys naratifau, dulliau seiliedig ar y celfyddydau gweledol, ac ysgrifennu creadigol, yn ogystal â gwaith darlunwyr graffig proffesiynol.

Cyllidwr: Hyrwyddwyr Arloesedd Creadigol – Rhaglen Datblygu Beilot yn PDC

Cydweithwyr: Pobl yn Gyntaf Cymru (AWPF)

Mae'r Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol (UDIDD) yn cydweithio â Phobl yn Gyntaf Cymru (AWPF) i wella cyfranogiad pobl ag anableddau dysgu o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn Hunan-Eiriolaeth. Nod y fenter hon, a ariennir gan Raglen Datblygu Arloesedd Creadigol Prifysgol De Cymru, yw mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn sy'n hyrwyddo twf economaidd a chydraddoldeb cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r prosiect yn ceisio'n benodol mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysylltu a meithrin mwy o gynhwysiant o fewn AWPF a sefydliadau tebyg. Er bod fframweithiau polisi fel Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol (2022–2023) yn cefnogi'r nodau hyn, mae unigolion sydd o gefndiroedd lleiafrifol ethnig ac sydd ag anableddau dysgu yn aml yn wynebu anfanteision cymhleth. O ganlyniad, mae angen camau gweithredu cynaliadwy, wedi’u targedu, i wireddu'n llawn y canlyniadau a fwriadwyd o bolisïau o'r fath. Mae'r astudiaeth hon yn mabwysiadu dull cyfranogol dau gam, gan ymgorffori gweithdai dan arweiniad y Dechneg Grŵp Enwol (NGT) i nodi heriau allweddol a datblygu atebion ymarferol ar y cyd. Bydd y prosiect yn arwain at fframwaith "Awgrymiadau Gorau" a gynhyrchir ar y cyd i gefnogi ymgysylltiad cynhwysol, cryfhau cysylltiadau cymdeithasol, a gwella mynediad at wasanaethau Hunan-Eiriolaeth ar gyfer pobl amrywiol o ran ethnigrwydd ag Anableddau Dysgu.

Staff y prosiect: Joseph Powell, Edward Oloidi, yr Athro Stuart Todd (UDIDD) a Roiyah Saltus

Mae'r astudiaeth hon yn ceisio gwella dealltwriaeth o brofiadau gofal a chymorth gofalwyr teuluol a pherthnasau unigolion ag anableddau dysgu wedi’u hileiddio. Mae hefyd yn archwilio sut mae sefydliadau anableddau dysgu trydydd sector a grwpiau lleol/rhanbarthol yn ymgysylltu â'r gofalwyr hyn ac yn eu cynnwys yn eu gwaith. Mae'r astudiaeth yn mabwysiadu dyluniad methodolegol dau gam.

Cam 1 yn defnyddio fframwaith adolygiad cwmpasu (Arksey ac O'Malley, 2005) i fapio'r sylfaen dystiolaeth bresennol, nodi themâu allweddol, ac amlygu bylchau mewn gwybodaeth sy'n gysylltiedig â disgwyliadau gofalwyr, profiadau bywyd, a mynediad at wasanaethau cymorth trydydd sector a chymunedol.

Cam 2 yn adeiladu ar ganfyddiadau'r adolygiad cwmpasu, drwy ymgynghoriadau rhanddeiliaid â sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau eiriolaeth rhanbarthol sy'n gweithio gyda chymunedau wedi’u hileiddio, pobl ag anableddau dysgu, a'u gofalwyr. Nod yr ymgynghoriadau hyn yw rhoi cyd-destun i'r canfyddiadau a'u cyfoethogi, gan sicrhau eu bod yn berthnasol i ymarfer a gallant lywio datblygiad polisïau a dulliau mwy cynhwysol.

Cyllidwr: Wedi'i gomisiynu a'i ariannu gan Bobl yn Gyntaf Cwm Taf

Staff y Prosiect: Dr Steve Walden (UDIDD, Prifysgol De Cymru) a Phobl yn Gyntaf Cwm Taf

Archwiliodd y prosiect hwn, a oedd yn seiliedig ar grwpiau ffocws, brofiadau byw pobl ag anableddau dysgu ar draws gwahanol gyfnodau hanesyddol yng Nghymru a'r DU. Defnyddiwyd eisteddfodau lleol fel pwynt cyfeirio cymdeithasol-hanesyddol i gymharu profiadau'r gorffennol â phrofiadau aelodau cyfoes (a rhai cydoesol) Pobl yn Gyntaf Cwm Taf (CTPF). Cynhwyswyd elfen berfformio hefyd, lle ffurfiodd aelodau CTPF gôr a pherfformio cân wreiddiol ar gydraddoldeb a chael eu clywed yn Eisteddfod 2024. Cyflwynwyd poster academaidd yn y digwyddiad. Cwblhawyd y dadansoddiad thematig terfynol yn ddiweddar. Mae papur ymchwil yn cael ei baratoi i'w gyflwyno'n gychwynnol i'r British Journal of Learning Disabilities (BJLD), ac mae crynodeb wedi'i dderbyn i'w gyflwyno yng nghynhadledd Hanes Cymdeithasol Anableddau Dysgu (SHLD) i ddathlu 30 mlynedd ym mis Gorffennaf 2025.

Archwiliodd y prosiect hwn, a oedd yn seiliedig ar grwpiau ffocws, brofiadau byw pobl ag anableddau dysgu ar draws gwahanol gyfnodau hanesyddol yng Nghymru a'r DU. Defnyddiwyd eisteddfodau lleol fel pwynt cyfeirio cymdeithasol-hanesyddol i gymharu profiadau'r gorffennol â phrofiadau aelodau cyfoes (a rhai cydoesol) Pobl yn Gyntaf Cwm Taf (CTPF). Cynhwyswyd elfen berfformio hefyd, lle ffurfiodd aelodau CTPF gôr a pherfformio cân wreiddiol ar gydraddoldeb a chael eu clywed yn Eisteddfod 2024. Cyflwynwyd poster academaidd yn y digwyddiad. Cwblhawyd y dadansoddiad thematig terfynol yn ddiweddar. Mae papur ymchwil yn cael ei baratoi i'w gyflwyno'n gychwynnol i'r British Journal of Learning Disabilities (BJLD), ac mae crynodeb wedi'i dderbyn i'w gyflwyno yng nghynhadledd Hanes Cymdeithasol Anableddau Dysgu (SHLD) i ddathlu 30 mlynedd ym mis Gorffennaf 2025.

Cyllidwr: Y Sefydliad Cymunedol

Staff y Prosiect: Dr Steve Walden (UDIDD, Prifysgol De Cymru), yr Athro Emily Underwood-Lee (UDIDD), Gray Hill a Hiroko Uenishi

Defnyddiodd y prosiect hwn, a ariannwyd gan y Sefydliad Cymunedol, ddull ffocws seiliedig ar grwpiau mewn cydweithrediad â Two Rhythms yng Nghaerdydd, i archwilio effaith ei fodel unigryw sy'n seiliedig ar y celfyddydau ar unigolion ag anableddau dysgu difrifol, eu teuluoedd, a staff cymorth. Mae pennod llyfr ar hanes Two Rhythms a rôl y celfyddydau i bobl ag anableddau dysgu difrifol a dwys wedi'i derbyn i'w chyhoeddi yng nghyfrol arfaethedig yr Athro David Bolt, Cultural Stations of Disability (Routledge). Mae adroddiad y cyllidwr yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, ac ar ôl hynny bydd papur ymchwil yn cael ei baratoi i'w gyflwyno'n gychwynnol i'r British Journal of Learning Disabilities (BJLD).

Mae UDIDD yn cydweithio â phrifysgolion eraill y DU a sefydliadau trydydd sector mewn astudiaeth a ariennir gan Bailey Thomas, dan arweiniad Prifysgol Birmingham. Mae'r darn newydd hwn o waith yn dilyn ac yn adeiladu ar yr astudiaeth lwyddiannus y gweithiodd y tîm arni yn ystod y pandemig. Gallwch ddysgu mwy am yr astudiaeth flaenorol yma. Yn y darn newydd hwn o waith, dim ond ar fywydau pobl ag anableddau dwys a'u gofalwyr y byddwn yn canolbwyntio arno, gan fod tystiolaeth yn awgrymu bod adferiad o'r pandemig yn arafach ac yn anoddach i'r grŵp hwn.

Bydd y prosiect yn rhedeg tan ddiwedd 2028.

ALLBYNNAU AC EFFAITH YMCHWIL

Staff y Prosiect: Yr Athro Ruth Northway, Dr Stacey Rees a Dr Edward Oloidi

Wedi'i gomisiynu gan Gwelliant Cymru, mae'r prosiect hwn wedi canolbwyntio ar ddatblygu offeryn i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i gyfathrebu mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae amrywiaeth o offer o'r fath eisoes yn bodoli ond maent yn amrywio o ran cynnwys, fformat ac enw. Ceisiodd y prosiect hwn ddatblygu dogfen unedig a fyddai'n lleihau amrywiad o'r fath er mwyn hyrwyddo mwy o ddiogelwch i gleifion.

Defnyddiwyd dull cymysg gan gynnwys adolygiad o offer a thystiolaeth bresennol, arolwg ar-lein a phedwar grŵp ffocws gyda phobl ag anableddau dysgu.

Ceisiwyd gwybodaeth am gynnwys, fformat a hyd yr offeryn arfaethedig. Datblygwyd offeryn prototeip yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.

Staff y prosiect: Dr Matt Hutt, Dr Carmel Conn (Aelod o UDIDD)

Mae PDC yn gweithio mewn cydweithrediad â Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru yn nhri rhanbarth addysgol Cymru i gyd-lunio model gydag ysgolion, ar gyfer proffesiwn addysg sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru. O ran yr ymchwil, mae pob grŵp rhanbarthol yn ymgysylltu â'u hysgolion priodol trwy ddeialog, sydd â’r nod o ddeall anghenion ysgolion mewn perthynas â phroffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae PDC yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, consortia'r EAS a CSC, ac ysgolion lleol y rhanbarth. Mae'r prosiect yn ceisio hwyluso lleoliadau ysgolion o ran cyrchu, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth, cysyniadau a syniadau addas ac i nodi anghenion perthnasol o ran hyn.

Cyd-gynhyrchu dulliau mesur canlyniadau hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru

Staff y prosiect: Yr Athro Ruth Northway, Dr Stacey Rees ac Edward Oloidi (Aelodau o UDIDD)

Mae'r Uned Datblygu mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol (UDIDD), gan weithio mewn partneriaeth â'n Pwyllgor Cynghori ar Addysgu ac Ymchwil (TRAC), DRIVE a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, wedi cael eu comisiynu gan Gwelliant Cymru i ddatblygu offeryn mesur canlyniadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Bydd y prosiect hwn yn rhedeg rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2022 a bydd yn mabwysiadu dull tri cham. Yn gyntaf, gofynnir am farn rhanddeiliaid allweddol ar yr hyn y dylai'r offeryn ei gynnwys a pha fformat y dylai fod. Defnyddir y wybodaeth hon i gyd-gynhyrchu offeryn drafft (Cam 2) a fydd wedyn yn cael ei ddosbarthu i randdeiliaid i gael adborth (Cam 3).

Mae'r Athro Ruth Northway, Dr Michelle Culwick, Dr Wahida Kent, Dr Stacey Rees a Dr Nicky Genders wedi cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n cefnogi teuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynnal gan gynnwys archwilio llenyddiaeth ac ymchwil berthnasol, cyfweliadau â rhieni sydd ag anabledd dysgu a grwpiau ffocws / cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol. Mae canllawiau drafft wedi'u datblygu ac mae'r rhain yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan randdeiliaid allweddol i'w cwblhau ar gyfer eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2022. Ochr yn ochr â hyn, mae'r tîm hefyd yn cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i rieni ag anableddau dysgu sy'n ymwneud â Gwasanaethau Plant a'r Llys Teulu.

Staff y Prosiect: Edward Oloidi, yr Athro Stuart Todd a'r Athro Ruth Northway

Mae Ed Oloidi, Stuart Todd a Ruth Northway wedi cael eu comisiynu gan Gwelliant Cymru i archwilio’r llenyddiaeth a’r adnoddau ar y we sy’n ymwneud ag anghenion pobl ag anableddau dysgu o Grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd y prosiect hwn yn sail i waith Grŵp Gorchwyl a Gorffen Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru.

Sut mae Nyrsys Cofrestredig Anableddau Dysgu sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr wedi addasu eu hymarfer yn ystod Covid-19?

 

Staff y prosiect: Dr Stacey Rees a'r Athro Ruth Northway (Aelodau o UDIDD)

Mae tystiolaeth gref o’r anghydraddoldebau a’r annhegwch iechyd y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu. Mae rhagor o dystiolaeth yn dechrau dod i’r amlwg ynghylch effaith Covid-19 ar bobl ag anableddau dysgu, ac mae wedi cael ei gydnabod bod y pandemig wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau a’r annhegwch iechyd presennol hyn (Desroches et al, 2020). Yn ogystal, mae pryderon moesegol ynghylch gwahanol agweddau ar eu gofal yng nghyd-destun Covid-19 wedi cael eu codi.

Yn ystod y don gyntaf o'r pandemig, codwyd materion ynghylch yr offeryn a ddefnyddiwyd i asesu addasrwydd am driniaeth o fewn unedau therapi dwys (ITU) a'i ddilysrwydd wrth ei ddefnyddio gyda phobl ag anableddau dysgu. Codwyd pryderon pellach mewn perthynas â phenderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio (DNAR) mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu. Mae tystiolaeth hefyd yn dod i'r amlwg eu bod, fel grŵp, mewn mwy o berygl o ddal a phrofi effeithiau difrifol Covid-19 o'i gymharu â'r boblogaeth ehangach (Henderson et al, 2020). Mae effeithiau cymdeithasol yn cynnwys cynnydd mewn ynysigrwydd cymdeithasol (Tromans et al, 2020), gyda llawer o wasanaethau rheolaidd yn cau, gan effeithio ar drefn ddyddiol a chymorth gofalwyr.

Mae Middleton et al (2020) yn tynnu sylw at y newidiadau y mae nyrsys anableddau dysgu wedi'u gwneud yn yr Alban oherwydd Covid-19, ac mae adroddiad o Ogledd Iwerddon yn manylu ar gynllunio wrth gefn ar gyfer y pandemig (Rogers et al, 2021). Dim ond un darn o ymchwil empirig a gyhoeddwyd, a hynny yn yr UDA, sy'n canolbwyntio ar rôl y nyrs arbenigol sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu (Desroches et al, 2020). Felly, er ei bod yn ymddangos bod nyrsys wedi addasu eu hymarfer i ddiwallu anghenion newidiol pobl ag anableddau dysgu yng nghyd-destun Covid-19, mae bwlch ymchwil y mae'r prosiect cyfredol hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef.

Y cwestiwn ymchwil cyffredinol y mae'r astudiaeth ymchwil hon yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw:

‘Sut mae Nyrsys Cofrestredig Anableddau Dysgu sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr wedi addasu eu hymarfer yn ystod Covid-19?'

Yr amcanion penodol yw:

  • Archwilio beth mae Nyrsys Cofrestredig Anableddau Dysgu wedi bod yn ei wneud i addasu eu hymarfer yn ystod Covid-19.
  • Nodi sut mae'r addasiadau hyn wedi digwydd.
  • Deall effaith eu hymarfer, a'r canlyniadau sydd wedi'u cyflawni.

Bydd yr astudiaeth ymchwil yn mabwysiadu dyluniad ansoddol, gan ddefnyddio cyfweliadau lled-strwythuredig yn seiliedig ar ddyluniad techneg digwyddiad critigol (Flanagan, 1954). Ei nod yw recriwtio Nyrsys Cofrestredig Anableddau Dysgu sy'n gweithio yng Nghymru a Lloegr ac sydd wedi bod yn y swydd hon am y ddwy flynedd flaenorol. Dadansoddir y data gan ddefnyddio dadansoddiad thematig (Braun a Clarke, 2006).

Bydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu'n sylweddol at sylfaen dystiolaeth nyrsio unigolion ag anableddau dysgu ac yn rhoi cipolwg hanfodol ar ymarfer Nyrsys Cofrestredig Anableddau Dysgu drwy gydol pandemig Covid-19. Mae hyn yn hanfodol i gynllunio iechyd cyhoeddus y dyfodol, datblygu polisïau i sicrhau bod anghenion gofal iechyd pobl ag anableddau dysgu yn cael eu diwallu, ac i ddatblygu ymarfer ac addysg nyrsio ymhellach. Bydd hefyd yn sail ar gyfer ymchwil y dyfodol.

Mapio ymchwil anableddau dysgu yng Nghymru

Staff y Prosiect: Yr Athro Ruth Northway a Dr Edward Oloidi

Cododd yr ysgogiad i fapio Ymchwil i Anableddau Dysgu yng Nghymru o Raglen Gwella Bywydau Llywodraeth Cymru.

Mae'r angen am well gwybodaeth ynghylch gweithgarwch ymchwil anableddau dysgu cyfredol yn allweddol i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at wella gwasanaethau a chefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.

Comisiynwyd y prosiect hwn i nodi gweithgarwch ymchwil cyfredol yng Nghymru mewn perthynas ag anableddau dysgu, er mwyn llywio’r gwaith o osod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil y dyfodol.

Gan ddefnyddio dull rhwydwaith i nodi prosiectau ymchwil, datblygwyd ffurflen yn benodol i gasglu cymysgedd o ddata ymateb sefydlog ac agored.

Mae canfyddiadau’n dangos bod ystod o ymchwil yn cael ei chynnal ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Datblygu fframwaith addysgol anableddau dysgu ar gyfer staff gofal iechyd yng Nghymru

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Ruth Northway, Rachel Morgan, Dr Edward Oloidi (Aelodau o UDIDD), Kathryn Price a Clare Churcher (Prifysgol De Cymru)

Mae pobl ag anableddau dysgu yn profi llawer o anghydraddoldebau iechyd ac anawsterau o ran cael mynediad at ofal iechyd amserol a phriodol.

Mater sy'n codi dro ar ôl tro yn y llenyddiaeth ar anghydraddoldebau o'r fath yw bod staff iechyd yn aml yn adrodd eu bod yn teimlo nad oes ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau i nodi a diwallu anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu.

Felly, comisiynodd Gwelliant Cymru UDID i ddatblygu fframwaith cymhwysedd i nodi'r gwerthoedd, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar staff iechyd wrth gefnogi pobl ag anableddau dysgu mewn perthynas â'u hiechyd.

Casglwyd barn rhanddeiliaid allweddol drwy gyfres o gyfweliadau dros y ffôn a dadansoddwyd y rhain ynghyd â fframweithiau addysgol presennol a thystiolaeth berthnasol. Datblygwyd fframwaith addysgol yn seiliedig ar yr ystod hon o dystiolaeth.

Canfyddiadau’r cyhoedd o berthnasoedd rhywiol oedolion ag anableddau deallusol

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Ruth Northway, Dr Edward Oloidi, Dr Michelle Culwick (Aelodau o UDIDD) a Dr Jane Prince (Prifysgol De Cymru)

Ymchwiliad dull cymysg i sut y gallai canfyddiadau’r cyhoedd o berthnasoedd personol a rhywiol oedolion ag anableddau deallusol ddylanwadu ar agweddau, credoau ac ymddygiadau gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae cyfraith a pholisi yn gosod cyfrifoldeb ar wasanaethau a staff i gynnal hawliau ac anghenion rhywioldeb ymhlith oedolion ag anableddau deallusol. Fodd bynnag, ychydig sy’n hysbys am sut y gallai safbwyntiau ehangach ar anableddau deallusol a pherthnasoedd rhywiol a phersonol effeithio ar agweddau, credoau ac ymddygiad gweithwyr gofal cymdeithasol o ran anghenion o'r fath.

Wedi'i ariannu gan Gydweithredu Academaidd Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (ASCC), archwiliodd yr astudiaeth dulliau cymysg dau gam hon farn gweithwyr gofal cymdeithasol ar sut y gallai canfyddiadau cymdeithasol o anableddau deallusol effeithio ar eu hagweddau, eu credoau a'u hymddygiadau eu hunain, o ran perthnasoedd personol a rhywiol ymhlith oedolion ag anableddau deallusol.

Cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol lled-strwythuredig gyda 18 o weithwyr gofal cymdeithasol yng ngham un. Cwblhawyd arolwg hunanlenwi a ddatblygwyd o ganfyddiadau cam un (n=276 - 14%) gan weithwyr gofal cymdeithasol yng ngham dau.

Mae'r canfyddiadau'n dangos pedair thema amlwg gyda ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol fel y dylanwad cyffredinol ar fwlch rhwng ymarfer a pholisi, ofn a blaenoriaethu anghenion diogelwch.

Rôl y nyrs anableddau dysgu wrth gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd: Adolygiad llenyddiaeth a gwerthusiad beirniadol

 

Staff y Prosiect: Paula Hopes, Dr Edward Oloidi (Aelodau o UDIDD), a Dr Juping Yu (Prifysgol De Cymru)

Wedi'i ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, ceisiodd y prosiect hwn werthuso'n feirniadol y llenyddiaeth bresennol ynghylch rôl y nyrs anableddau dysgu sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Amcan cyffredinol yr astudiaeth hon oedd mynd i'r afael â'r prinder tystiolaeth yn ymwneud â rolau nyrsys anableddau dysgu a gwella dealltwriaeth ynghylch ble a sut maen nhw'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gan ddefnyddio termau chwilio perthnasol, cynhaliwyd chwiliad llenyddiaeth ar chwe chronfa ddata berthnasol ar gyfer papurau a gyhoeddwyd rhwng 2000 a dechrau 2018. Roedd ffynonellau eraill a chwiliwyd yn cynnwys gwefannau allweddol, llenyddiaeth lwyd/heb ei chyhoeddi, a mynediad uniongyrchol at awduron amlwg y cafodd eu cyhoeddiadau eu hadolygu lle bo modd.

Adolygwyd testunau llawn o ran y meini prawf cynhwysiant ac eithrio cyn cynnal gwerthusiad beirniadol. Mae canfyddiadau'n dangos bod cynllunio, hyrwyddo a chefnogi'r ddarpariaeth o ofal personol ac ystyrlon i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn rôl sylfaenol i nyrsys anableddau dysgu.

Archwilio rôl nyrs gymunedol anableddau dysgu sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gael mynediad at ofal iechyd eilaidd

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Ruth Northway a Dr Stacey Rees (Aelodau o UDIDD)

Mae tystiolaeth gref o'r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu. Mae rhai o'r anghydraddoldebau hyn yn ymwneud â'r rhwystrau y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu profi wrth gael mynediad at ofal iechyd eilaidd.

Roedd yr astudiaeth dull cymysg dau gam hon yn archwilio rôl nyrs gymunedol anableddau dysgu, a sut mae’n goresgyn unrhyw rwystrau wrth gefnogi mynediad at ofal iechyd i bobl ag anableddau dysgu.

Mae hefyd yn archwilio unrhyw wahaniaethau yn y rôl pan fydd nyrs gyswllt acíwt yn y swydd, ac unrhyw wahaniaeth yn y rôl yn ôl pa mor uchel yw lefel y swydd.

Y portread o anableddau ar wefannau prifysgolion Cymru

 

Staff y Prosiect: Dr Beth Pickard (Aelod o UDIDD)

Defnyddiodd y prosiect ymchwil hwn Ddadansoddiad Cynnwys Ansoddol, wedi'i lywio gan Astudiaethau Anableddau Beirniadol, i ddeall y portread ymhlyg o anabledd ar dudalennau gwe Gwasanaeth Anableddau (neu gyfwerth) prifysgolion Cymru.

Dangosodd ffrâm codio wedi’i sbarduno gan gysyniadau ddehongliadau o anableddau’n seiliedig yn bennaf ar ddiffygion a diffyg lleisiau myfyrwyr anabl.

Cynigir, drwy rannu'r ymchwil hon gyda phrifysgolion Cymru, y bydd yn bosibl datblygu addysgeg gwrth-ormesol a chodi ymwybyddiaeth o ddehongliadau amgen o anableddau fel hunaniaeth ddilys a gwerthfawr.

Staff y Prosiect: Pobl yn Gyntaf RhCT a TRAC, Dr Steven Walden a Dr Stacey Rees (Aelodau o UDIDD)

 

Digwyddiad o ddathlu dan arweiniad prosiect Mae Ein Llais yn Bwysig Cwm Taf Morgannwg, ar y cyd â Phobl RhCT

Yn gyntaf, PDC a thîm TRAC, sy'n anelu at arddangos ac amlygu'r effaith bwerus sydd gan leisiau dinasyddion a phobl â phrofiadau bywyd, wrth lunio dyfodol gwasanaethau a chymunedau ar draws y rhanbarth.

Yn ystod cam 1 y prosiect, cynhaliwyd ymchwil i archwilio'r hinsawdd gyd-gynhyrchu bresennol yng Nghwm Taf Morgannwg, a nodi mannau o arfer gorau fel cymorth i gynyddu effeithiolrwydd y ffordd y mae llais y dinesydd yn cael ei ymgysylltu a'i ddefnyddio, a lefel y gwerth a roddir iddo.

Drwy’r ymchwil hon, mae menter TRAC Pobl yn Gyntaf/PDC wedi’i derbyn fel enghraifft hollbwysig o sut y gellir casglu a grymuso lleisiau pobl ag anableddau dysgu i wneud newid cymdeithasol gwirioneddol a chadarnhaol o fewn y sector gofal iechyd.

Felly, bydd y digwyddiad hwn yn defnyddio enghraifft TRAC, ochr yn ochr ag eraill o bob cwr o'r rhanbarth, i amlinellu ble a sut mae angen newid fel y gellir rhoi llais gwerthfawr i bob dinesydd.

Gwella recriwtio i nyrsio anableddau dysgu

 

Staff y Prosiect: Dr Stacey Rees, Dr Nicky Genders (Aelodau o UDIDD) a Dr Ruth Wyn Williams (Prifysgol Bangor)

Roedd gostyngiad yn nifer y ceisiadau i nyrsio anableddau dysgu ledled y DU wedi bod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd rhai prifysgolion yn Lloegr wedi gweld gostyngiad mor serth mewn ceisiadau fel bod y cyrsiau mewn perygl, gan nad oeddent bellach yn cael eu hystyried yn hyfyw.

Nod y prosiect hwn oedd gwrthdroi'r duedd hon a chynyddu ceisiadau ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.

Cynhyrchodd ymgyrch recriwtio wedi’i thargedu ar gyfer nyrsio anableddau dysgu, a fanteisiodd ar y 100 mlynedd o ddigwyddiadau nyrsio anableddau dysgu yn ystod 2019.

Un allbwn allweddol oedd datblygu fideo mewn partneriaeth ag aelodau TRAC, gydag aelodau Cwmni Theatr Hijinx yn actorion.

Prosiect addysgeg gydweithredol gyda Chwmni Theatr Cynhwysol Hijinx

 

Staff y Prosiect: Dr Beth Pickard (Aelod o UDIDD) a Chwmni Theatr Cynhwysol Hijinx

Prosiect addysgeg cydweithredol gyda Chwmni Theatr Cynhwysol Hijinx, pedair ysgol arbennig leol a myfyrwyr israddedig Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig PDC.

Mae'r prosiect addysgeg hwn wedi'i ddatblygu dros gyfnod o dair blynedd i alluogi myfyrwyr prifysgol blwyddyn gyntaf i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gelfyddydau cynhwysol, trwy ddysgu ochr yn ochr â disgyblion anabl ac actorion anabl.

Mae'r prosiect hwn yn ceisio herio'r syniad o ddysgu am anabledd yn yr ystafell ddosbarth ac yn gosod y dysgu yn y gymuned, gyda disgyblion anabl ac actorion anabl fel yr awdurdodau ar y profiad hwn.

Mae myfyrwyr prifysgol wedi hwyluso gweithdai celfyddydau creadigol mewn ysgolion arbennig lleol, sydd wedi galluogi dros chwe deg o ddisgyblion ychwanegol i ymgysylltu â gwaith theatr cynhwysol Hijinx.

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Stuart Todd, yr Athro Jane Bernal, yr Athro Kathy Lowe, yr Athro Edwin Jones (Aelodau o UDIDD), Dr Rhian Worth, Ms Julia Shearn, Dr Paul Jarvis, Dr Katherine Hunt (Prifysgol Southampton), Mr Phil Madden (Anabledd Dysgu Cymru), yr Athro Mary McCarron (Coleg y Drindod Dulyn), yr Athro Owen Barr (Prifysgol Ulster), yr Athro Thilo Kroll (Coleg Prifysgol Dulyn), yr Athro Rachel Forester Jones (Prifysgol Caerfaddon), yr Athro Sue Read (Prifysgol Keele)

Mae oedolion ag anableddau deallusol yn profi anghydraddoldeb o ran mynediad at ofal iechyd, sydd hefyd yn ymestyn at ofal diwedd oes. Nid yw eu profiadau o ofal iechyd ar ddiwedd oes a sut mae'r rhain yn cymharu â'r boblogaeth gyffredinol yn hysbys.

Ceisiodd yr astudiaeth hon ddisgrifio canlyniadau gofal diwedd oes i oedolion ag anableddau deallusol sy'n byw mewn gofal preswyl yn y DU, gan ddefnyddio holiadur VOICES-SF a chymharu'r rhain â'r boblogaeth gyffredinol.

Dangosodd arolwg ôl-brofedigaeth cenedlaethol ar sail y boblogaeth y gallai mynediad at ofal diwedd oes i oedolion ag anableddau deallusol gael ei gyfyngu gan fethiant i nodi bod diwedd oes yn agosáu.

Siarad am farwolaeth: arolwg o safbwyntiau staff gofal mewn gwasanaethau anableddau deallusol

 

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Irene Tuffrey Wijne (Prifysgol St Georges), yr Athro Stuart Todd, yr Athro Jane Bernal

(Aelod o UDIDD), Dr Lawrence Taggart (Prifysgol Ulster), Dr Janet Finlayson (Prifysgol Caledonia) a Dr Claire Lam (Prifysgol St Georges)

Mae salwch a marwolaeth yn rhan o fywyd pawb, yn cynnwys pobl ag anableddau deallusol.

Ymchwiliodd yr astudiaeth hon ledled y DU i ba raddau y mae staff yn cyfathrebu am farwolaeth â phobl ag anableddau deallusol sy'n wynebu salwch terfynol neu brofedigaeth. Cwblhaodd staff sy'n cefnogi pobl ag anableddau deallusol yn y DU (n=690) arolwg electronig.

Mae canfyddiadau'n nodi bod marwolaeth yn effeithio ar lawer o bobl ag anableddau deallusol. Mae angen hyfforddiant a chymorth ar staff i gyfathrebu am farwolaeth.

Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol Cymru Gyfan

Staff y Prosiect: Yr Athro Edwin Jones (Aelod o UDIDD)

Mae Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol Cymru Gyfan (CBCoP) yn galluogi rhannu gwybodaeth a datblygu arferion da. Mae aelodau CBCoP yn rhannu diddordeb cyffredin mewn gwella ansawdd bywyd pobl ag anableddau dysgu, sydd mewn perygl o ddefnyddio ymddygiadau sy'n herio i gyfathrebu a diwallu eu hanghenion.

Mae aelodau'n cefnogi ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd, drwy rannu arferion da sy'n cyd-fynd â'r fframwaith cymorth ymddygiad cadarnhaol (PBS). Mae'r CBCoP wedi datblygu i fod yn grŵp arbenigol cydlynol a deinamig gyda chynrychiolaeth uniongyrchol ar Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddolen adborth hon yn rhoi gwybod i'r llywodraeth am ddatblygu arferion da ac yn helpu i lunio polisïau a chynlluniau gweithredu cenedlaethol.

Rhwydwaith Academaidd Arbenigwyr Anableddau Ewropeaidd (ANED)

 

Staff y Prosiect: Dr Katja Valkama (Aelod o UDIDD)

Crëwyd Rhwydwaith Academaidd Arbenigwyr Anableddau Ewropeaidd (ANED) gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2007.

Y nod yw sefydlu a chynnal rhwydwaith academaidd ledled Ewrop ym maes anableddau a fydd yn cefnogi datblygiad polisïau mewn cydweithrediad ag Uned Anableddau’r Comisiwn.

Mae ANED yn adeiladu ar arbenigedd canolfannau ymchwil anableddau presennol, gyda chefnogaeth arbenigwyr cenedlaethol, rapporteurs thematig, a chysylltiadau â rhwydweithiau perthnasol ym maes polisïau anableddau.

Mae ei athroniaeth a'i nodau yn cefnogi amcanion polisi anableddau Ewrop tuag at y nod o gyfranogiad llawn a chyfleoedd cyfartal i bob unigolyn anabl. Mae ANED yn darparu seilwaith cydlynol o gefnogaeth academaidd ar gyfer gweithredu Strategaeth Anableddau Ewrop a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Ymchwil yn gwerthuso dulliau newydd o gyfeirio pobl at adsefydlu gan Sefydliad Yswiriant Cymdeithasol y Ffindir (Kela)

Ceisiodd yr astudiaeth ddisgrifio pa mor dda oedd modelau newydd o ymgeisio am adsefydlu yn galluogi mynediad cyflym at adsefydlu a throthwy isel.

Casglwyd data drwy ffurflenni a lenwyd gan broseswyr budd-daliadau Kela, cyfweliadau grŵp ffocws gyda phroseswyr budd-daliadau a chydweithwyr Kela a chyfweliad unigol.

Dangosodd y canlyniadau, gyda modelau newydd ar gyfer ymgeisio am adsefydlu, fod llwybr adsefydlu'r cleient yn cael ei gyflymu'n rhannol. Er enghraifft, yn y model penderfyniad uniongyrchol, efallai na fydd y cwrs adsefydlu yn dechrau'n gyflymach nag o'r blaen, hyd yn oed os yw dechrau'r broses yn cyflymu.

Mae mathau newydd o grwpiau cwsmeriaid hefyd yn gofyn am fathau newydd o waith a modelau gweithredu. Mae'r modelau'n ei gwneud hi'n bosibl cael trothwy isel ar gyfer ymgeisio am adsefydlu, oherwydd, er enghraifft, mae'r angen yn cael ei nodi yn y lleoedd hynny sy'n rhan o fywydau bob dydd pobl (e.e. sefydliadau addysgol).

Fodd bynnag, er mwyn galluogi bod yr angen yn cael ei nodi, mae angen mynd i'r afael â nifer o faterion, fel polisïau, arbenigedd ac adnoddau digonol.

Camau diwygio'r gwasanaeth nyrsio yng ngweriniaeth Kazakhstan: cynlluniau a rhagolygon

 

Staff y Prosiect: Dr Katja Valkama (Aelod O UDIDD)

Ariannwyd y prosiect hwn ar y cyd gan y Weinyddiaeth Iechyd a Phrifysgolion Gwyddoniaeth Gymhwysol y Ffindir (UAS). Nod y cydweithrediad a'r bartneriaeth a ddechreuodd yn 2013 oedd sefydlu cynllun cynhwysfawr ar gyfer datblygu nyrsio yn Kazakhstan tan 2019.

Nod y cynllun yw gosod system gofal nyrsio Kazakhstan yn unol â'r lefel ryngwladol, yn unol ag anghenion Iechyd Cyhoeddus modern i wella ansawdd, effeithlonrwydd a diogelwch Iechyd Cyhoeddus Kazakhstan.

Mae'r cydweithio a'r bartneriaeth hirdymor hon yn sicrhau canlyniadau llwyddiannus gan fod dealltwriaeth o'r amgylchedd gweithredu yn gynhwysfawr.

Defnyddiwyd y camau datblygu – ffurfio, herio, sefydlu a pherfformio – i lunio’r sefyllfa bresennol yn ogystal â’r cynlluniau a’r rhagolygon ar gyfer diwygio’r gwasanaethau nyrsio yng Ngweriniaeth Kazakhstan.

Bywydau Cudd, Marwolaethau Angof: Sefyllfa oedolion hŷn ag anableddau deallusol mewn gofal

 

Staff y Prosiect: Yr Athro Stuart Todd, yr Athro Jane Bernal (Aelodau o UDIDD), Dr Rhian Worth, Ms Julia Shearn (Prifysgol De Cymru), Dr Katherine Hunt (Prifysgol Southampton), yr Athro Mary McCarron (Coleg y Drindod Dulyn), Dr Sarah Brearly (Prifysgol Caerhirfryn)

Mae'r astudiaeth hon yn edrych ar sefyllfa pobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn lleoliadau gofal nad ydynt yn ymwneud ag anableddau dysgu. Hynny yw, cartrefi gofal a nyrsio i bobl hŷn fel arfer. Ystyrir bod cyfran sylweddol o bobl ag anableddau dysgu, pobl hŷn yn bennaf, yn byw mewn sefyllfaoedd o'r fath. Fodd bynnag, ychydig a wyddys amdanynt.

Mae'r astudiaeth hon wedi casglu data ar 132 o bobl ag anableddau dysgu mewn lleoliadau o'r fath ar ddau gyfnod amser. Roedd yn grŵp anodd ei adnabod a'i ganfod. Maent yn sylweddol hŷn na phobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn gwasanaethau anableddau dysgu, gwasanaethau yr oedd llawer o bobl wedi symud ohonynt i'w lleoliadau presennol.

Roedd yr angen am ofal diwedd oes a lefel marwolaethau'r grŵp hwn yn uchel, sy'n dangos bod angen i ymchwil gofal diwedd oes ym maes anableddau dysgu ganolbwyntio mwy nag y mae wedi'i wneud ar y grŵp hwn.

Astudiaeth Archwiliadau Iechyd ac Ar Ôl Archwiliadau Iechyd - Astudiaeth hydredol ansoddol. Archwiliadau Iechyd Blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau deallusol: Archwiliad o brofiadau, camau dilynol a hunanreolaeth cyflyrau iechyd

 

Staff y prosiect: Dawn Cavanagh, yr Athro Ruth Northway, yr Athro Stuart Todd (Aelodau o UDIDD)

Mae archwiliadau iechyd blynyddol yn effeithiol wrth nodi anghenion iechyd heb eu diwallu ac maent yn gyffredinol yn dderbyniol i bobl ag anableddau dysgu. Fodd bynnag, ychydig a wyddys am sut mae'r problemau iechyd a nodwyd mewn archwiliadau iechyd yn cael eu dilyn ac yn cael sylw; sut mae pobl ag anableddau dysgu’n hunanreoli unrhyw gyflyrau a nodwyd, a'r math o gefnogaeth y gallent ei chael (neu beidio) i hunanreoli eu hiechyd.

Archwiliodd yr astudiaeth ansoddol hydredol hon farn 12 o bobl ag anableddau dysgu (18-64 oed) yng Nghymru (a lle bo'n briodol eu cefnogwyr), yn syth ar ôl yr archwiliad iechyd blynyddol ynghylch eu profiad, materion a nodwyd ac unrhyw gamau gweithredu a gynigiwyd. Cyfwelwyd â'r cyfranogwyr eto chwe mis yn ddiweddarach, ac yna un mis ar ddeg yn ddiweddarach, i archwilio a oedd camau gweithredu a gynlluniwyd wedi'u cymryd, eu canfyddiadau o'r rhain, yr hyn yr oeddent wedi'i gyflawni (neu beidio), sut yr oedd cyflyrau iechyd yn cael eu hunanreoli a'r gefnogaeth yr oeddent yn ei chael.

Mae canfyddiadau'n dangos nad oedd llawer o gefnogaeth yn cael ei chynnig i gynnal iechyd a lles wrth fyw gyda chyflwr iechyd rhwng archwiliadau iechyd, gyda chyfranogwyr yn aml yn dibynnu ar deulu neu ofalwyr cyflogedig i'w cefnogi wrth geisio gwneud unrhyw newid i'w ffordd o fyw.

Adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb pobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn darpariaeth byw â chymorth ledled Cymru

 

Staff y Prosiect: Dawn Cavanagh (Aelod o UDIDD)

Cynhaliwyd yr ymchwil hon ar ran Fforwm LHDT ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu a/neu awtistiaeth sy'n byw yng Nghymru, er mwyn deall yn well yr heriau sy'n wynebu'r rhai a allai uniaethu fel LHDT+.

Mae prinder gwybodaeth ynghylch yr heriau sy'n wynebu darparwyr gwasanaethau o ran cefnogi perthnasoedd a rhywioldeb i bobl ag anableddau dysgu yn eu gwasanaethau. Y bwriad yw y bydd yr ymarfer hwn yn llywio dealltwriaeth o'r rhwystrau systemig a all atal pobl ag anableddau dysgu rhag profi perthnasoedd agos.

Archwiliodd adolygiad bwrdd gwaith o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â pherthnasoedd a rhywioldeb pobl ag anableddau dysgu ymhlith darparwyr byw â chymorth ledled Cymru: (1) a yw polisïau sefydliadol yn annog cefnogaeth ragweithiol o amgylch rhywioldeb (2) a yw polisïau'n sôn yn benodol am gefnogaeth i amrywiaeth rywiol neu bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) ag anableddau dysgu (3) i ba raddau mae cydbwysedd rhwng y cyfrifoldeb i ddiogelu pobl ag anableddau dysgu a'r angen i sicrhau eu Hawliau Dynol o amgylch perthnasoedd a rhywioldeb o fewn polisïau? (4) A yw rhywioldeb yn rhan benodol o gynlluniau cymorth i bobl ag anableddau dysgu yn y lleoliad?

Fe wnaeth dadansoddiad cynnwys ddatgelu bod llawer o bolisïau’n brin o wybodaeth am sut y gellid cefnogi anghenion pobl o ran perthnasoedd/rhywioldeb. Roedd y rhan fwyaf o bolisïau’n blaenoriaethu amddiffyn a diogelu’n benodol ar draul cefnogi anghenion rhywioldeb/perthnasoedd. Mae angen gwell hyfforddiant am bolisïau a gweithdrefnau rhywioldeb a pherthnasoedd.

Staff y Prosiect: Dr Victoria Markham (Aelod o UDIDD), Dr Alexis Jones et al.,

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gyda Dr. Alexis Jones (FLSE) ac mewn cydweithrediad ag Uwch Seicolegydd Addysg sy'n cefnogi ysgolion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae dosbarth o ddysgwyr yn cael mynediad at ymyriad darllen ar gyfrifiadur gyda'r prif fesurau dibynnol yn newidiadau mewn sgoriau darllen cyn yr ymyriad, yn ogystal ag adborth ar y rhaglen gan y dysgwyr a'r staff addysgu. Mae'r tîm ymchwil hefyd yn gwerthuso addasiadau a wnaed i agweddau ar y rhaglen a'r mesurau dibynnol, fel eu bod yn fwy hygyrch i'r boblogaeth hon.

Staff y Prosiect: Dr Victoria Markham (UDIDD) a Dr Aimee Giles (FLSE)

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gyda Dr. Aimee Giles ac mae'n cynnwys cyfweld â gweithwyr proffesiynol o sawl disgyblaeth ar eu profiadau o ddefnyddio dulliau ysgogi (er enghraifft, ciwiau gweledol) wrth addysgu plant ag anableddau dysgu. Hyd yn hyn, cynhaliwyd cyfweliadau gyda therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes dadansoddi ymddygiad. Mae'r themâu a nodwyd o'r cyfweliadau hyn yn cael eu defnyddio i lywio arolwg ar sut mae dulliau ysgogi yn cael eu defnyddio a sut mae gweithwyr proffesiynol yn goresgyn rhwystrau posibl (e.e., dysgwyr yn dod yn ddibynnol ar ysgogiadau, neu gyffredinoli cyfyngedig o sgiliau).

Staff y Prosiect: Dr Richard May, Dr Victoria Markham (Aelod o UDIDD) a Christopher Seel (myfyriwr PhD - FLSE)

Mae'r prosiect hwn yn atgynhyrchiad o astudiaeth flaenorol [Markham, V., Roderique-Davies, G., Austin, J., Molina, J., a May, R. (Llawysgrif yn cael ei baratoi). Gwerthuso Newidynnau Gweithredu dwy Strategaeth Gwanhau Ysgogiad i Addysgu Sgiliau Gwahaniaethu Cymhleth]. Bydd y prosiect yn ehangu ar y gwaith blaenorol hwn trwy werthuso strategaethau dysgu di-wall a ddefnyddir yn gyffredin mewn cyfarwyddyd derbyn ieithyddol (e.e., amlygu'r targed cywir neu ei wneud yn fwy amlwg i'r dysgwr ei ddewis) a chymharu'r ymyriadau hyn ag addysgu profi a methu. Bydd yr ymyriadau hyn yn cael eu gwerthuso gydag oedolion niwronodweddiadol yn y lle cyntaf i nodi paramedrau gweithdrefnol a all newid sut y caffaelir y sgil a chyffredinoli i ysgogiadau newydd.

EIN PARTNERIAID

Rydym yn cydweithio'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda phartneriaid o'r diwydiant a'r byd academaidd i ddarparu gwybodaeth ac effaith o'r radd flaenaf. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf gydag amrywiaeth o randdeiliaid a defnyddwyr ymchwil allweddol, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio effeithiol.

Mae gan yr uned hanes cryf o ymgysylltu â phartneriaid y GIG a phartneriaid allanol, gan gynnwys:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Ymchwil gydweithredol i wella gwasanaethau gofal iechyd i bobl ag anableddau dysgu.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Mentrau ar y cyd sydd â'r nod o wella canlyniadau gofal iechyd trwy arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Powys: Cydweithio ar brosiectau iechyd a lles cymunedol ar gyfer poblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: Partneriaeth ar ymchwil glinigol a gofal iechyd i wella gofal cleifion a darparu gwasanaethau.

Theatr Hijinx: Cydweithio i hyrwyddo profiadau theatr cynhwysol i unigolion ag anableddau dysgu.

Gwelliant Cymru: Prosiectau ar y cyd sy'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru.

Macmillan Cymru: Cefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael ag anghenion iechyd unigolion sy'n byw gyda chanser.

Mencap Cymru: Ffurfio partneriaeth ar fentrau i hyrwyddo hawliau a lles pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Sefydliad Paul Ridd: Ymgysylltu ag ymchwil ac eiriolaeth i wella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu.

Pobl yn Gyntaf Cymru: Cryfhau llais a dylanwad pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

Anabledd Dysgu Cymru: Gweithio ar y cyd ar fentrau ymchwil i wella effaith a hyrwyddo polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol cynhwysol.

Llywodraeth Cymru: Cydweithio ar ddatblygu polisïau ac ymchwil i wella gwasanaethau iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol ledled Cymru

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan: Ymgysylltu mewn partneriaethau ymchwil i gynyddu effaith a gwella polisi ac arfer mewn gofal iechyd a chymdeithasol i deuluoedd a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

MAE GWNEUD YR ASTUDIAETH HON YN UDIDD YN GOLYGU FY MOD YN CAEL MYNEDIAD AT ORUCHWYLIAETH DDA A PHRIODOL GYDA CHYSYLLTIADAU Â SEFYDLIADAU PWYSIG LEDLED Y DU.

Lisa Harwood

Myfyriwr PhD presennol yn PDC

EIN HAELODAU

Mae UDIDD yn integreiddio ymchwil, addysg a datblygu ymarfer mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys unigolion ag anableddau dysgu, i fynd i'r afael â materion hollbwysig yn y maes hwn.

  • Yr Athro Cyswllt Carmel Conn
  • Dr Michelle Culwick
  • Dr Liz Ellis
  • Yr Athro Emeritws Amanda Kirby
  • Colin Macpherson
  • Dr Victoria Markham
  • Yr Athro Cyswllt Richard May
  • Rachel Morgan
  • Yr Athro Emeritws Ruth Northway
  • Dr Edward Oloidi
  • Dr Beth Pickard
  • Stacey Rees
  • Yr Athro Stuart Todd
  • Yr Athro Emily Underwood-Lee
  • Dr Steven Walden

 

Mae cefndir yr Athro Jane Bernal ym maes Seiciatreg Anableddau Dysgu. Hyd at 2011, hi oedd Golygydd Meddygol intellectualdisability.info. Roedd Jane yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol St George yn Llundain, ac mae wedi addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig, ac wedi datblygu addysgu amlddisgyblaethol.

Mae ei diddordeb ymchwil mewn marwolaeth a marw gan eu bod yn effeithio ar fywydau pobl ag anableddau dysgu. Mae ganddi hefyd ddiddordeb hirdymor mewn datblygu ymchwil mewn moeseg a chyfathrebu, gan gynnwys sut ac a ddywedir wrth bobl eu bod o bosibl yn marw ai peidio.

Mae'r Athro Catherine Bright wedi gwasanaethu fel Seiciatrydd Ymgynghorol mewn Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) ers 2004. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Glinigol a gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Clinigol yn BIPAB o 2014 i 2020. Er ei bod wedi ymddeol yn rhannol bellach, mae hi'n parhau i weithio'n rhan-amser o fewn y Tîm Cyswllt Acíwt Anableddau Dysgu yn BIPAB. Mae ganddi PhD mewn Ffisioleg o Brifysgol Caeredin ac LLM mewn Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol. Mae ei diddordebau academaidd yn cynnwys rôl gweithwyr meddygol proffesiynol mewn gwasanaethau cyswllt acíwt anableddau dysgu, mynediad at ofal iechyd, ansawdd a diogelwch cleifion, gallu meddyliol a chydsyniad, hawliau dynol, a gofal diwedd oes.

Dr Nicky Genders oedd Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal yn PDC gynt. Ar ôl cymhwyso fel nyrs anableddau dysgu, gweithiodd mewn gwahanol rolau ym maes gwasanaethau cymunedol i blant ag anableddau dysgu nes dod yn diwtor nyrs glinigol. Mewn dros 30 mlynedd mewn addysg uwch, mae Nicky wedi cael sawl rôl arweinyddiaeth gan gynnwys Pennaeth Cyswllt yr Ysgol yn 2014.

Mae hi'n frwd dros addysg broffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel. Mae ei diddordeb ymchwil yn cynnwys rhianta gan bobl ag anableddau dysgu, hunaniaeth nyrsys anableddau dysgu ac arweinyddiaeth.

Mae Paula yn Nyrs Ymgynghorol ac mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn gweithio gyda'r rhai y disgrifir eu hymddygiad yn heriol. Mae Paula yn frwd dros ddadansoddi swyddogaethol, gan geisio deall ymddygiad fel neges a defnyddio dulliau ar sail gwerthoedd i wneud gwelliannau i ansawdd bywyd yr unigolyn a'r rhai o'i gwmpas. Mae ei diddordebau mewn addysg nyrsio, datblygiad proffesiynol, cydweithio â phobl ag anableddau dysgu, marwolaeth a marw, yn enwedig mewn perthynas â chynnwys pobl ag anableddau dysgu wrth wneud penderfyniadau diwedd oes.

Mae Neil James yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru, gyda phrofiad helaeth mewn dylunio, cyflwyno a monitro cwricwlwm, ochr yn ochr â rolau arweinyddiaeth mewn prosesau sicrhau ansawdd a chefnogi myfyrwyr. Mae'n dal Cymrodoriaeth Uwch gyda'r Academi Addysg Uwch. Gyda phrofiad ymarfer clinigol ar lefel uwch, mae'r Athro James yn hwyluso dysgu ac asesu ar draws sbectrwm o gyrsiau, o lefelau Diploma i lefelau Meistr, ac yn darparu goruchwyliaeth academaidd hyd at lefel PhD.

Drwy gydol ei yrfa, mae Neil wedi dal swyddi arweinyddiaeth sylweddol o fewn ysgolion, cyfadrannau a phrifysgolion, gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Cwrs a Chyfarwyddwr Addysg Ymarfer yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, a Deon Cyswllt ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Ansawdd yn y Gyfadran Meddygaeth ac Iechyd (UEA). Ar hyn o bryd, mae'n gwasanaethu fel Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wrth ddal swyddi er anrhydedd yn UEA a Phrifysgol Abertawe ar yr un pryd.

Mae diddordebau ymchwil Neil yn cwmpasu profiad gofalwyr teuluol, ymddygiad heriol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu, awtistiaeth, maes fforensig, ymchwil ansoddol, a Dadansoddiad Ffenomenolegol Deongliadol.

Mae ei brosiectau'n cynnwys mynd i'r afael ag anghenion heb eu diwallu o fewn Gwasanaethau Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth, archwilio profiadau gofalwyr teuluol o ran derbyn i Unedau Asesu a Thriniaeth, a chyd-gynhyrchu adnoddau i leihau arferion cyfyngol a chodi ymwybyddiaeth o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS).

Mae'r Athro Edwin Jones wedi ymddeol ac mae'n cynnal diddordeb mewn hyrwyddo cynhwysiant, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol fel Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf. Mae wedi cael rolau blaenorol fel arweinydd strategol PBS yn BILD, ac yn Arweinydd Gwella Gwasanaethau ac Ymchwil, ym maes Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Gweithiodd Edwin ar wella gwasanaethau, hyfforddiant a datblygu polisïau gan ganolbwyntio ar Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol. Roedd Edwin yn aelod a sefydlodd Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol Cymru Gyfan. Mae wedi dal swyddi fel darlithydd gwadd (Prifysgol Ryngwladol Catalwnia), arholwr allanol (Prifysgol Glasgow a Choleg Prifysgol Dulyn), cynghorydd arbennig (Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain), Is-gadeirydd Cynghrair APBS y DU, ac yn aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu Llywodraeth Cymru, Rhwydwaith Lleihau Cyfyngiadau ac academi PBS.

Dr Rachel Jones yw Arweinydd Cenedlaethol Rhaglen Anableddau Dysgu Gwelliant Cymru. Yn seicolegydd o ran cefndir, mae Rachel yn eiriolwr hir-sefydledig dros ymchwil arbenigol yn y maes a gweithredu dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael â heriau systemig.

Mae Russ Kennedy wedi gweithio ym maes cymorth a gofal cymdeithasol ers 22 mlynedd. Ers 2017, mae wedi arwain Dimensions Cymru, sefydliad sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yng Nghymru. Mae gan Russ ddiddordeb arbennig mewn:

  • Iechyd a lles pobl sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog.
  • Dylanwad ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd gweithwyr cymorth ar y bobl maen nhw'n eu cefnogi.
  • Sut mae allgáu neu wahaniaethu lluosog yn effeithio ar iechyd a lles pobl sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Roedd Dr Kathy Lowe yn uwch ddarlithydd ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Cymru (1980-2002) ac yn aelod o'r Tîm Prosiectau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol ABM (2002 i 2019). Cyd-ddatblygodd y Model Cymorth Gweithredol, cyrsiau ôl-raddedig/MSc, a thri chymhwyster PBS e-ddysgu ar Lefelau BTEC 3, 4 a 5.

Mae hi'n Athro Gwadd (Prifysgol De Cymru), yn ddarlithydd gwadd (Prifysgol Ryngwladol Catalwnia), yn aelod o sawl grŵp lleol a chenedlaethol a byrddau golygyddol cyfnodolion rhyngwladol.

Mae Dr Maria Vincent yn Arbenigwr Meddyg Teulu mewn Meddygaeth Anableddau Dysgu ac mae'n rhedeg gwasanaeth clinigol unigryw o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan gynnig asesiadau arbenigol i gleifion ag anableddau dysgu, ymddygiadau heriol difrifol ac anghenion cymhleth.

Graddiodd gydag anrhydedd mewn Meddygaeth (MBChB, 2011) a Niwrowyddorau (BSc, 2008) o Brifysgol Bryste, a chafodd MRCGP yn 2016. Cwblhaodd Maria Ddiploma Ôl-raddedig mewn Seiciatreg Glinigol (Rhagoriaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn 2021.

Mae Maria yn Bartner Meddyg Teulu ym Mhractis Cwm Nedd, Glyn-nedd, ac yn Gymrawd Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hi'n rhan o'r tîm ymchwil ar Astudiaeth READY, sy'n canolbwyntio ar wella gofal diwedd oes i bobl ag anableddau dysgu sydd â chyflyrau heblaw canser neu ddementia. Mae ganddi ddiddordeb gweithredol mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd anableddau dysgu.

Mae Maria yn frwd dros addysg feddygol mewn anableddau dysgu ac mae'n addysgu'n rheolaidd ar Raglen Academaidd Seiciatreg Anableddau Dysgu. Mae hi wedi cyflwyno sesiynau ar reoli achosion cymhleth, rôl y meddyg teulu mewn gofal anableddau dysgu, endocrinoleg, a materion iechyd sy'n benodol i gyflyrau. Ei huchelgais yw gweld Meddygaeth Anableddau Dysgu yn cael ei chydnabod fel ei harbenigedd meddygol unigryw ei hun.

 

Mae Dr Lance Watkins yn Seiciatrydd Ymgynghorol ac yn Arweinydd Llwybr Epilepsi o fewn y Gwasanaeth Arbenigol Epilepsi, rhan o'r Grŵp Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe—gwasanaeth trydyddol i bobl ag anableddau deallusol ac epilepsi cymhleth.

Mae'n Athro Cyswllt Anrhydeddus ym Mhrifysgol Plymouth ac mae'n aelod o grŵp Ymchwil Teg i Anableddau Deallusol Cernyw (CIDER). Mae Dr Watkins hefyd yn Arweinydd Clinigol Ymchwil i Anableddau Dysgu yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), Caerdydd. Mae gan Dr Watkins ystod eang o ddiddordebau ymchwil ym maes anableddau deallusol a datblygiadol. Mae ei brosiectau cyfredol yn cynnwys:

Gwella’r cyswllt rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau anableddau dysgu a gwella’r nifer 

  • sy’n cael yr archwiliad iechyd blynyddol;
  • Ymchwilio i faich ffarmacolegol mewn oedolion hŷn ag anableddau deallusol;
  • Gwerthuso apiau ffôn clyfar ar gyfer unigolion awtistig;
  • Archwilio iechyd esgyrn yn y boblogaeth hon.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn epilepsi yng nghyd-destun anhwylderau niwroddatblygiadol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar brosiect ar y cyd a ariennir gan NIHR rhwng NCMH a Phrifysgol Plymouth i ddatblygu cofrestr epilepsi arfaethedig ar gyfer pobl ag anableddau deallusol, gan gynnwys proffilio biolegol.

Mae Dr Watkins hefyd yn aelod o grŵp awduron Tîm Adolygu Epilepsi Cochrane, gan gyfrannu at ddiweddaru adolygiadau systematig ar ymyriadau ffarmacolegol ac anffarmacolegol ar gyfer pobl ag epilepsi ac anableddau deallusol.

 

TRAC

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Addysgu ac Ymchwil (TRAC) yn cynnwys dynion a menywod sydd ag anableddau dysgu a'u cefnogwyr. Rydym yn cyfarfod bob mis, ac yn trafod addysgu ac ymchwil ac yn darparu cyngor ac ymgynghoriaeth i unigolion neu sefydliadau eraill.

Cyfarfodydd: Rydym yn cyfarfod ar ddydd Iau olaf pob mis. Mae adolygiad blynyddol TRAC ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, ac yna rydym yn cael seibiant dros yr haf. Mae cyfarfodydd yn ailddechrau ym mis Medi. Nid oes cyfarfod ym mis Rhagfyr.

Agendâu: Cynllun ar gyfer yr hyn y byddwn yn siarad amdano yw'r Agenda. Rydym yn cadw cofnod o beth a ddywedwyd gennym yn y Cofnodion.

Addysgu: Mae aelodau TRAC yn addysgu pob maes nyrsio, cyn ac ar ôl cofrestru. Rydym hefyd yn addysgu proffesiynau eraill, fel gweithwyr cymdeithasol, a'r heddlu.

Ymchwil: Mae aelodau TRAC wedi bod yn gyd-ymchwilwyr, yn gynghorwyr ac yn gyfranogwyr ar lawer o'r prosiectau ymchwil a wnaed gan ymchwilwyr UDIDD. Mae TRAC eisiau darganfod sut i wneud bywydau pobl ag anableddau dysgu hyd yn oed yn well. Mae gan TRAC brosiectau ymchwil cynhwysol – Ymchwilio i gam-drin; Lleisiau Angof

Cysylltwch â TRAC

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu weithio gyda TRAC, cysylltwch â Dr Stacey Rees.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01443 483055

Ein Myfyrwyr Ymchwil

Yasmeen Multani
Gradd: PhD
Teitl y prosiect: Archwilio chwarae plant Awtistig: Datblygu naratif amgen o chwarae trwy straeon bywiog

Emma Reardon
Gradd: PhD trwy Bortffolio
Teitl y prosiect: Gwerthusiad o sut mae defnyddio profiad byw o Awtistiaeth yn dylanwadu ar ganlyniadau mewn bywydau Awtistig

Lauren Milton McNally
Gradd: DPsych
Teitl y prosiect: Archwiliad o sut mae pobl awtistig yn cynnal eu lles ac yn adeiladu cefnogaeth iechyd meddwl

Jonathan Mark Prescott
Gradd: MRes
Teitl y prosiect: Tuag at berthnasoedd agos a theuluol iach: 'beth sy'n bwysig' a lles ymhlith oedolion sy'n derbyn gofal a gofalwyr

Lauren Milton McNally
Gradd: DPsych
Teitl y prosiect: Archwiliad o sut mae pobl awtistig yn cynnal eu lles ac yn adeiladu cefnogaeth iechyd meddwlGradd: PhD

Caroline Andrews
Gradd: MRes
Teitl y prosiect: Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol: Archwilio manteision adrodd straeon wrth feithrin y gallu i weithredu, hunaniaeth a lles gyda phobl ag anableddau dysgu

Josephine Robinson
Gradd: DPsych
Teitl y prosiect: Profiadau o Brofedigaeth mewn Oedolion ag Anableddau Dysgu

Emma Foley
Gradd: MRes
Teitl y prosiect: Wedi'i gwblhau - Chwalu'r Rhwystrau i Ymchwil

Joseph Powell
Gradd: MRes
Teitl y prosiect: Adeiladu Pontydd: Adolygiad Cwmpasu o Brofiadau Cymorth, Disgwyliadau ac Ymgysylltu â Sefydliadau Gwirfoddol Ymhlith Gofalwyr Teuluol ar gyfer Unigolion ag Anableddau Dysgu o Gefndiroedd wedi’u Hileiddio

Sarah Jane Killick
Gradd: MRes
Teitl y prosiect: Cefnogi teuluoedd ar ôl marwolaeth mab neu ferch sy'n oedolyn ag anableddau dysgu: astudiaeth archwiliadol sy'n cynnwys sefydliadau'r trydydd sector

ASTUDIWCH GYDA NI

Astudiaeth ôl-raddedig

Rydym yn croesawu ceisiadau i ddilyn astudiaethau PhD neu Feistr drwy Ymchwil yn un o'n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol a bod gennych ymchwil ar y gweill eisoes, gallai PhD drwy Bortffolio fod yn addas i chi.   

Mae tîm goruchwylio yn cael ei neilltuo i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethuriaeth, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.

Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Ffioedd Dysgu

Ffioedd a chyllid i ôl-raddedigion

Meddwl gwneud cais?

Ysgol i Raddedigion