Darren Haines

Mae Darren Haines yn cynnal ymchwil i fatris bioddiraddadwy ar gyfer defnydd meddygol

Peirianneg
Darren Haines yn sefyll mewn labordy o flaen nifer o ddarnau o offer electronig

Dydy’r darlithwyr yma erioed wedi rhoi dim ond atebion i mi. Maent y rhoi digon i chi ddechrau arni, yna’n eich annog i fynd ymhellach – ac rydych yn dysgu gymaint o hynny,”


Mae taith academaidd Darren Haines wedi bod ymhell o fod yn gonfensiynol.

Ag yntau yn agosáu at 20 mlynedd yn PDC, mae’n gweithio tuag at radd Meistr trwy Ymchwil (MRes) ar ôl cwblhau HND a dwy radd yn y Brifysgol, lle dechreuodd yn 2008.

O angerdd buan dros fioleg, trwy yrfa hir mewn electroneg, mae Darren wedi dod â dau ddiddordeb gyda’i gilydd i ddilyn ymchwil arloesol gydag effaith feddygol byd go iawn.

Cwblhaodd radd mewn Bioleg yn gyntaf, ac yna arallgyfeiriodd i faes ehangach – gan gwblhau HND rhan-amser a gradd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig tra hefyd yn gweithio i Axoim Manufacturing Services, lle mae’n dal i weithio. Ar ôl ymuno ag Axoim i ddechrau ar gontract tymor byr 15 mlynedd yn ôl, ar ôl cwblhau ei radd gyntaf.

Mae ei astudiaeth Meistr, sydd hefyd yn rhan-amser, yn dod â dau o’i ddiddordebau gyda’i gilydd.

“Dwi wastad wedi bod ag angerdd dros fioleg ac electroneg,” meddai. “Yn ystod fy TGAU, astudiais electroneg hefyd, felly roedd y ddau ddiddordeb wastad yno.”

Mae ymchwil Darren yn dod â’i ddiddordebau academaidd yn ôl at y cychwyn cyntaf. Wedi’i ysgogi gan awydd i uno bioleg ag electroneg, dewisodd ddilyn y radd Meistr sy’n seiliedig ar ymchwil fel carreg gamu tuag at PhD yn y dyfodol.

“Pan ddes i o hyd i’r MRes, sylweddolais ei fod yn canolbwyntio llawer mwy ar ymchwil ac adeiladu’r seiliau ar gyfer PhD, a oedd yn addas iawn i fy nghryfderau,” meddai.

Ar ôl datblygu ei gynnig a sicrhau goruchwyliaeth, dechreuodd Darren ymchwilio i ddatblygu batris bioddiraddadwy ar gyfer mewnblaniadau meddygol – maes astudio sy’n dod i’r amlwg gyda photensial sylweddol i wella gofal cleifion.

“Y broblem gyda batris lithiwm-ion ar hyn o bryd yw, os ydynt yn rhwygo y tu mewn i’r corff, gallant fod yn wenwynig. Ac ar gyfer dyfeisiau meddygol tymor byr, mae’n aml  angen ail weithdrefn lawfeddygol ar gleifion i gael gwared ar y mewnblaniad,” meddai.

Mae ymchwil Darren yn archwilio cemegau batri amgen gan ddefnyddio elfennau fel calsiwm, sinc a magnesiwm – deunyddiau y gellir bioddiraddio’n ddiogel a’u hamsugno neu eu hysgarthu gan y corff.

“Mae’r syniad yn debyg i bwythau hydoddadwy,” meddai. “Ar ôl cyfnod penodol o amser, gall y batri ddadelfennu’n ddiogel, felly does dim angen llawdriniaeth arall ar gleifion. Mae hynny’n fantais enfawr.”

DYDY’R DARLITHWYR YMA ERIOED WEDI RHOI DIM OND ATEBION I MI. MAENT Y RHOI DIGON I CHI DDECHRAU ARNI, YNA’N EICH ANNOG I FYND YMHELLACH – AC RYDYCH YN DYSGU GYMAINT O HYNNY

Darren Haines, Myfyriwr Meistr drwy Ymchwil

Nawr yn ail flwyddyn ei MRes rhan-amser, mae gwaith Darren wedi esblygu o ymchwil gefndirol gychwynnol i ddylunio arbrofol a modelu damcaniaethol. Ynghyd â chynhyrchu erthygl cyfnodolyn a adolygwyd gan gymheiriaid ar y materion cyfredol, a chafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar.

Mae’n cyfaddef ei fod yn mwynhau’r ysgrifennu.

“Pan rydych yn ysgrifennu rhywbeth fel yna, rydych yn bendant yn mynd trwy’r da a’r drwg,” mae’n cyfaddef. “Ond unwaith rydych yn cyrraedd y cam olaf ac yn ei weld yn dod at ei gilydd, mae’n hynod o ysgogol. Mae’n gwneud i chi eisiau gwneud mwy.

“Mae fy nhraethawd ymchwil wir yn gosod y sylfaen. Y ddamcaniaeth dwi’n ei ddatblygu nawr yw’r hyn yr hoffwn adeiladu arni’n ymarferol os gallaf barhau â’m hastudiaethau trwy PhD.”

Ar ôl ymgymryd â chymaint o wahanol ddarnau o astudiaeth yn PDC, mae Darren yn amlwg yn adnabod y staff academaidd yn dda, ac yn canmol y cymorth mae wedi’i dderbyn ganddynt.

“Dydy’r darlithwyr yma erioed wedi rhoi dim ond atebion i mi. Maent y rhoi digon i chi ddechrau arni, yna’n eich annog i fynd ymhellach – ac rydych yn dysgu gymaint o hynny,” meddai, gan ychwanegu bod cefnogaeth ac arweiniad cryf i fyfyrwyr Meistr.

“Os oedd angen help arna i, roedd yno. Hyd yn oed pan roeddwn yn ysgrifennu fy erthygl cyfnodolyn ac yn dod ar draws problem dros benwythnos, rhoddodd fy ngoruchwyliwr ychydig o’i amser i mi. Mae’r lefel honno o gefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn,” meddai.

Gyda’i MRes bron â’i gwblhau, mae Darren wedi gosod ei fryd yn gadarn ar astudiaeth ddoethurol a chyfraniad pellach at dechnoleg feddygol gynaliadwy.

“Efallai nad yw fy ymchwil gyfredol yn ddatblygiad enfawr ar ei phen ei hun, ond gall helpu i osod y sylfeini ar gyfer rhywbeth mwy. Dyna sut mae arloesedd yn gweithio – mae rhywun yn dechrau ar syniad, a gall eraill feithrin arno ond hefyd ei wella,” meddai.

“Os oes gennych chi syniad, mae’n werth ei ddilyn. Mae’r MRes yn rhoi’r rhyddid i chi ei archwilio – ac mae hynny’n werth chweil.”

student-25

 diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig?

P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd.