Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Lesley Pondevie

Pennaeth Gweithrediadau’r Gyfadran, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Lesley Pondevie yn sefyll mewn stiwdio ffotograffau o flaen cefndir coch, gyda dau oleuad stiwdio ar y naill ochr a’r llall.

I mi, mae 'rhoi i ennill' yn ymwneud â chydnabod a meithrin cryfderau cyfunol menywod.

Rydw i wedi bod yn ffodus i gael fy nghefnogi, fy mentora a'm hysbrydoli gan nifer o fenywod anhygoel: athrawon, cydweithwyr, perthnasau (fi, fy mam a fy nith sydd yn y llun), ffrindiau’r gampfa a ffrindiau y mae eu harweiniad a'u hwyl, yn aml heb iddyn nhw hyd yn oed sylweddoli, gyda’i gilydd wedi effeithio'n fawr ar y cyfleoedd rydw i'n eu gweld i mi fy hun ac i fenywod eraill.

Yn ddiweddar iawn o fewn PDC rydyn ni wedi recriwtio tîm gwych (bron yn gyfan gwbl – mae gennym un cydweithiwr gwrywaidd gwych 🙂) o fenywod fel Swyddogion Cymorth Academaidd sy'n cynnig set drawiadol o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau. Rwy'n teimlo'n freintiedig o allu llunio ac arwain ein Swyddogion Cymorth Academaidd yn y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, felly rydyn ni’n bwrpasol yn adeiladu tîm ac yn creu a mireinio prosesau gan wybod bod sgiliau un fenyw yn mwyhau sgiliau menyw arall. Trwy gynllun bwriadol, rydyn ni’n lluosogi lleisiau menywod a’u heffaith. Dyna yw 'rhoi i ennill'.