Mae'n gyfle i werthfawrogi'r rhai a ddaeth o’n blaen a pharatoi'r ffordd i gael ein derbyn gyda geiriau a gweithredoedd.
Beth Mae Mis Hanes LHDTC+ Yn Ei Olygu i Fi
Rhywbeth i’n hatgoffa yw Mis Hanes LHDTC+. Mae'n ddathliad o'n holl gyflawniadau, er gwaethaf pob adfyd.
Mae'n gyfle i gofio nad ydyn ni i gyd, ledled y byd, yn rhannu'r un rhyddid.
Mae'n gyfle i werthfawrogi'r rhai a ddaeth o’n blaen a pharatoi'r ffordd i gael ein derbyn gyda geiriau a gweithredoedd.
Ac yn olaf, mae'n foment i ddangos parch, yn wylaidd, at yr eneidiau di-rif a gollwyd ar hyd y ffordd.
Drwy ddathlu Mis Hanes LHDTC+, a thrwy fyw’n ddilys fel ni ein hunain, rydyn ni hefyd yn goleuo'r ffordd i'r rhai a ddaw ar ein hôl.
Efallai y bydd pobl yn meddwl bod y gwaith wedi ei gyflawni eisoes, ein bod yn mwynhau'r un hawliau a rhyddid â phawb arall.
Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir, pan fo pobl yn cael eu harestio, eu cam-drin, a gwaeth, yn fyd-eang am y drosedd syml o fod yn nhw eu hunain.
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi pwy ydyn ni bob mis Chwefror i'n hatgoffa o hyn, ac i ddangos nad ydyn ni’n mynd i ddiflannu.
A hyd yn oed pan fydd y gwaith i gyd wedi’i wneud, pryd bynnag y bydd hynny, bydd rhywun bob amser angen gwybod ei bod yn iawn bod yn nhw.
Bydd angen dybryd am oleuni bob amser i'w harwain ar eu llwybr.
CYMRYD RHAN
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i
[email protected]