EMMA KWAYA-JAMES

Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Hi/Hi)

Mis Hanes LHDTC+
Emma Kwaya-James smiles at the camera while taking a selfie

Mae mis LHDTC+ yn bwysig i fi’n bersonol fel adeg i ddathlu ac i gofio.


Beth Mae Mis Hanes LHDTC+ Yn Ei Olygu i Fi 


Mae mis LHDTC+ yn bwysig i fi’n bersonol fel adeg i ddathlu ac i gofio. Dathlu amrywiaeth croestoriadol gwych ein cymuned LHDTC+, cofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau, a thynnu sylw at y frwydr, yr erledigaeth a’r gormes parhaus a wynebir gan aelodau o'n cymuned LDHTC+ yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol, a'n colled ein hunain fel teulu. 

Rydyn ni’n cofio am farwolaeth anhymig Gustave Nana Ngongang a adwaenid yn aml fel Joel Nana, marwolaeth sy’n dal heb ei hesbonio. Bu farw Joel yn 2015 wrth ymweld â man yr oedd yn ei ystyried yn gartref iddo, Cameroon, yng Ngorllewin Affrica.

Roedd Joel yn ddyn hoyw agored balch oedd yn eiriolwr hawliau dynol LHDTC+ blaenllaw yn Affrica ac yn actifydd HIV/AIDS, ond roedd hefyd, yn bwysicaf oll i ni, yn frawd, ewythr, partner, cyfaill a thad.

Fel prifysgol, mae gweithgarwch LHDTC+ wedi bod wrth wraidd  ein hagenda cydraddoldeb,  amrywiaeth a chynhwysiant, gyda  PDC yn safle rhif 24 ym Mynegai Stonewall 2020 a'r Cyflogwr Traws gorau. 

Yn anffodus, oherwydd y pandemig, ni wnaeth PDC  gyflwyniad i'r mynegai yn 2021. Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn gweithio i ddatblygu ei Chanllawiau Traws ymhellach i gydweithwyr a Pholisi Newid Enwau i fyfyrwyr. Ochr yn ochr â hyn, y gobaith yw buddsoddi mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth Traws parhaus ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr. 

Yn rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu Cynllun Lles y Brifysgol gyfan, byddwn yn datblygu ac yn treialu system i adrodd yn gyfrinachol am wahaniaethu, yn rhan o'n polisi o beidio â goddef bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

CYMRYD RHAN

Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i

[email protected]