Rwy'n falch iawn o weld bod agweddau'n newid heddiw, ac mae arweinwyr eglwysi yn siarad mewn lleisiau mwy caredig a mwy deallgar, ond mae cynnydd mawr i’w wneud o hyd.
Beth Mae Mis Hanes LHDTC+ Yn Ei Olygu i Fi
Fel gweinidog Cristnogol, rwy'n ymwybodol iawn bod llawer o gam-driniaeth pobl LHDTC+ yn dod o gymunedau crefyddol.
Rwy'n falch iawn o weld bod agweddau'n newid heddiw, ac mae arweinwyr eglwysi yn siarad mewn lleisiau mwy caredig a mwy deallgar, ond mae cynnydd mawr i’w wneud o hyd.
Hyd yn hyn, nid oes unrhyw gorff Cristnogol prif ffrwd wedi mentro adolygu ei gred 'swyddogol' bod gweithredoedd cyfunrywiol yn bechod.
Fodd bynnag, rwy'n ddigon hen i gofio adeg pan oedd rhyw rhwng dynion yn drosedd a chafodd bod yn 'gwiar' ei gondemnio, nid yn unig gan yr eglwysi ond gan gymdeithas yn gyffredinol.
Hyd yn oed ym Mhrydain heddiw, mae llawer o bobl LHDTC+ yn cael eu gwrthod gan gymunedau a theuluoedd nad ydyn nhw'n arbennig o grefyddol o gwbl.
Mewn rhannau eraill o'r byd mae pethau'n llawer gwaeth, ac mae condemniad y rhai nad ydynt yn cyd-fynd â'r 'norm' yn ddiwylliannol gymaint ag yw’n grefyddol.
Rwy'n amau nad yw gwir wraidd homoffobia mewn athrawiaethau crefyddol ond mewn anallu sylfaenol rhai pobl i fyw gyda'r ffaith bod eraill yn wahanol.
Y cyfyngiad dynol cyffredin hwn sydd wrth wraidd llawer o hiliaeth, rhagfarn, gwrthdaro cymunedol, a rhyfel.
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn gyfle i yrru’r agweddau afresymol hyn i’r gorffennol a dathlu bodau dynol yn eu holl amrywiaeth lliwgar, bendigedig.
Ar yr un pryd, credaf fod yn rhaid i'r rhai ohonom sydd am wneud hyn ddilyn ei resymeg a'i gymhwyso i ni ein hunain. Os ydym yn cau ein hunain mewn cylch clyd o bobl 'goleuedig' o'r un anian a dim ond gweld y gwaethaf yn y rhai yr ydym yn labelu yn ‘ddallbleidwyr’ neu 'bobl homoffobig', mae'n bosibl ein bod yn adlewyrchu'r rhai yr ydym yn eu gwrthwynebu.
Ni allwch newid pobl trwy eu condemnio. Rhaid i ni wrth gwrs neidio i amddiffyn y rhai sy'n cael eu brifo gan ragfarn pobl eraill, ond ynghyd â hynny rwy'n credu mai her sylfaenol Cristnogaeth yw trin pawb – waeth pa mor annerbyniol y teimlwn fod eu barn – gyda pharch, gonestrwydd a chariad.
CYMRYD RHAN
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i
[email protected]