Doethuriaeth Broffesiynol
Gwybodaeth am raddau DBA a gynigir yn PDC
Cysylltwch â Ni Ysgol i Raddedigion
Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA)
Doethuriaeth Broffesiynol yw hon sydd wedi'i chynllunio i'w hastudio'n rhan-amser. Byddwch yn cwblhau elfennau a addysgir ar lefel uwch ac ymchwil annibynnol dan oruchwyliaeth o werth, perthnasedd a chymhwysiad clir i faes ymarfer proffesiynol diffiniedig. Byddwch hefyd yn cyflwyno traethawd ymchwil ar lefel doethuriaeth o safon lenyddol briodol a hyd at 100,000 o eiriau ac yn rhoi cyflwyniad gwaith ar lafar i foddhad eich arholwyr.
- Rhan-amser: 4 – 6 blynedd
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Tudalennau Cyrsiau.
Gofynion Mynediad
Disgwylir i ymgeiswyr am Ddoethuriaeth Broffesiynol feddu ar brofiad o ymarfer proffesiynol perthnasol, mynediad i gyd-destun proffesiynol addas ar gyfer cynnal eu hymchwil, ac unrhyw gymwysterau sy'n ofynnol gan raglen benodol. Mae hyn yn ychwanegol at radd Meistr yn y DU neu radd anrhydedd 2:1 (neu gyfwerth).