PhD drwy Gyhoeddiadau
Os ydych chi’n gyn-aelod neu’n aelod presennol o staff, yn gyn-fyfyriwr, neu os oes gennych gysylltiadau cryf iawn â Phrifysgol De Cymru, gallwch wneud cais am PhD drwy Gyhoeddiadau.
Cysylltwch â ni Ysgol i RaddedigionMae sawl ffordd o ennill PhD, yn dibynnu ar eich profiad ymchwil a/neu eich hanes cyhoeddi hyd yma.
Un o’r llwybrau a gynigiwn ym Mhrifysgol De Cymru yw PhD drwy Gyhoeddiadau.
Byddwch yn cyflwyno corff cymeradwy o waith cyhoeddedig ar gyfer arholiad ac yn ei amddiffyn, ynghyd ag adolygiad beirniadol.
Bydd y corff cymeradwy o waith cyhoeddedig fel arfer yn gyfwerth â chwe erthygl mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, a gall gynnwys penodau mewn llyfrau a monograffau. Bydd nifer y penodau llyfr neu’r monograffau sy’n cael eu hystyried yn gyfwerth â chwe erthygl yn cael ei bennu yn ôl y pwnc.
Enghreifftiau o ddeunyddiau sy’n dderbyniol ar gyfer cyflwyno drwy Gyhoeddiadau yw:
- Erthyglau cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid
- Monograffau
- Llyfrau
- Penodau mewn llyfrau
- Trafodion cynadleddau