Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig 2025

Enillwyr Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig 2025

Enillwyr Arddangosfa Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig 2025.

grad-school-pgr-results

Llongyfarchiadau i bob myfyriwr ymchwil a gymerodd ran yn Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol eleni, gan ddathlu ymchwil arloesol sy'n digwydd ar draws y Brifysgol.


Yn ystod y digwyddiad deuddydd, a gynhaliwyd gan yr Ysgol i Raddedigion ar Gampws Trefforest, rhannodd myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig gyda'i gilydd, a staff PDC, y gwaith ymchwil effeithiol y maent yn ei wneud mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.

Rhannodd myfyrwyr eu hymchwil trwy gyflwyniadau llafar, cyflwyniadau Traethawd Ymchwil Tri Munud (3MT®), yn ogystal â delweddau o'u hymchwil - gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r tri chategori.

Enillwyr y cyflwyniad llafar

Safle Cyntaf
Darshanika Arambegedara (Grŵp Ymchwil ac Arloesi'r Ddaear, Ecoleg a'r Amgylchedd) Effeithiau Gweddillion Treuliad Anaerobig, Bio-wrtaith a Gwrteithiau Cemegol ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd: treial tŷ gwydr gyda letys.

Mae ymchwil Darshanika yn edrych ar sut mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (canlyniad i ficro-organebau fel bacteria’n esblygu ac yn dod i wrthsefyll gwrthfiotigau) yn effeithio ar yr amgylchedd; yn enwedig y pridd a sut y gall gwrteithiau gwahanol gael effaith.

Dywedodd Darshanika: “Roedd y cyflwyniad llafar yn Arddangosfa Ymchwil PDC 2025 yn gyfle gwych i roi gwybod i'm cyd-staff a myfyrwyr PDC beth yw pwrpas fy ymchwil. Fe wnes i fwynhau'n fawr ac roedd ennill y wobr yn goron ar y cyfan! Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd sydd gennyf, ac i'm goruchwylwyr anhygoel, Sky a Sandra.”

Ail Safle
Yasmeen Multani (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Addysgeg) Y Tu Hwnt i Ddiffygion: Archwilio Chwarae Plant Awtistig Trwy Straeon Bywiog.

Trydydd safle
Lisa Harwood (LSE) (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles) Effaith ioga ar gydbwysedd sefydlog a deinamig mewn oedolion ag anableddau dysgu: Astudiaeth mewn 3 Canolfan Ddydd yn Rhondda Cynon Taf.

Gair o glod
Diana Fologea (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Troseddeg, Plismona a Diogelwch) Dulliau Teulu Cyfan wrth Ymdrin â Cham-drin Domestig: Mewnwelediadau Cynnar o'r Broses a Gwerthusiad Canlyniad y Rhaglen Ysbrydoli Teuluoedd.

MAE’R ŴYL YN ATGOF PWYSIG O LED Y GWAITH YMCHWIL DYLANWADOL SY’N DIGWYDD LEDLED Y BRIFYSGOL, AC MAE’N WYCH CLYWED GAN FYFYRWYR SY’N GWTHIO FFINIAU AC YN DOD O HYD I ATEBION I BROBLEMAU’R BYD GO IAWN

Yr Athro Martin Steggall

Is-ganghellor Cynorthwyol dros Ymchwil ac Arloesedd

ROEDD Y CYFLWYNIAD LLAFAR YN ARDDANGOSFA YMCHWIL PDC 2025 YN GYFLE GWYCH I ROI GWYBOD I'M CYD-STAFF A MYFYRWYR PDC BETH YW PWRPAS FY YMCHWIL.

Darshanika Arambegedara

Enillwyr y Delweddau Ymchwil

Safle Cyntaf
Nilufa Rupa (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Peirianneg) Adenydd clyfar wedi'u hysbrydoli gan fioleg.

Mae ymchwil Rupa yn creu adain glyfar wedi'i hysbrydoli gan fioleg ar gyfer dronau gan ddefnyddio deunyddiau datblygedig a system reoli ddeallus. Y nod yw dylunio system reoli sy'n seiliedig ar ddysgu peirianyddol sy'n gadael i dronau 'deimlo' eu hamgylchedd trwy synwyryddion ac addasu onglau eu hadenydd mewn amser real.

Dywedodd Rupa: “Mwynheais fod yn rhan o'r arddangosfa - roedd yn anhygoel gweld ystod mor eang o syniadau. A dweud y gwir, eisiau cyfranogi a rhannu fy ngwaith oeddwn i, felly roedd ennill yn syndod llwyr. Rwyf ar ben fy nigon ac yn ddiolchgar iawn.”

Ail Safle
Emma Reardon (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles) Gweld pethau'n wahanol.

Trydydd Safle
Ainasia Mbowe (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Busnes) Dyfodol ariannol yn y fantol?

Gair o glod
Will Raymond (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Chwaraeon ac Ymarfer Corff) Y Genhedlaeth Nesaf: Proffilio Corfforol Ysgolion URC.


Enillwyr Traethawd Ymchwil Tri Munud (3MT®) 

Safle Cyntaf
Keren Hap Puch Missibi (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Iechyd, Gofal a Lles) Gwerthusiad realistig o Brofiadau Ymwelwyr Iechyd gan Ddefnyddio Adnodd ac Offeryn Asesu Gwydnwch Teuluoedd yng Nghymru.

Mae ymchwil Keren yn gwerthuso FRAIT, a ddefnyddir gan ymwelwyr iechyd yng Nghymru i asesu gallu teuluoedd i adfer o argyfwng (gwydnwch teuluol) a darparu cefnogaeth lle bo angen, gyda'r nod o nodi'r egwyddorion sy'n arwain y FRAIT fel y gellid datblygu’r offeryn i gyd-destunau eraill.

Dywedodd Keren: “Roedd ennill y wobr gyntaf yn y traethawd ymchwil tri munud yn rhyfeddol ac yn eithaf annisgwyl. Dyma oedd y tro cyntaf i mi wneud rhywbeth fel hyn, felly roeddwn i ychydig yn nerfus ar adegau. Roedd y cyflwyniadau eraill yn ddiddorol ac wedi'u gwneud yn dda, ond rwy'n hapus fy mod i wedi ennill. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy helpu, wedi rhoi adborth i mi ac sydd wedi fy annog. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y llwyfan i rannu fy ymchwil.”

Ail Safle
Jodie Trotman (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Seicoleg Gymhwysol) Addysg Uwch mewn Colegau (CBHE): Yn Agor Cyfleoedd?

Trydydd Safle
Lara Cusack (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Polisi Cymdeithasol) O Bolisi i Realiti: Beth Sy'n Digwydd ar ôl Gosod?

Gair o glod
Nilufa Rupa (Grŵp Ymchwil ac Arloesi Peirianneg) Trawsnewid Adain Addasol gyda Rheolaeth Ddeallus ar gyfer Cerbydau Awyr Di-griw

MAE’R ŴYL YN ATGOF PWYSIG O LED Y GWAITH YMCHWIL DYLANWADOL SY’N DIGWYDD LEDLED Y BRIFYSGOL, AC MAE’N WYCH CLYWED GAN FYFYRWYR SY’N GWTHIO FFINIAU AC YN DOD O HYD I ATEBION I BROBLEMAU’R BYD GO IAWN

Yr Athro Martin Steggall

Is-ganghellor Cynorthwyol dros Ymchwil ac Arloesedd

ROEDD Y CYFLWYNIAD LLAFAR YN ARDDANGOSFA YMCHWIL PDC 2025 YN GYFLE GWYCH I ROI GWYBOD I'M CYD-STAFF A MYFYRWYR PDC BETH YW PWRPAS FY YMCHWIL.

Darshanika Arambegedara

Dywedodd Elaine Huntley, Rheolwr yr Ysgol i Raddedigion: “Mae’n wych gweld cymaint o waith bob blwyddyn ac mae’r myfyrwyr mor gefnogol ac yn annog ei gilydd. Mae’r gwobrau’n hwyl, ond y gwir bwrpas yw magu hyder a phrofiad wrth gyfleu eu hymchwil, sy’n sgil bwysig iawn. Roedd y barbeciw yn wych hefyd!”

Yr Athro Martin Steggall, Is-ganghellor Cynorthwyol dros Ymchwil ac Arloesedd, dywedodd: “Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran yng Ngŵyl Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig eleni. Mae’r Ŵyl yn atgof pwysig o led y gwaith ymchwil dylanwadol sy’n digwydd ledled y Brifysgol, ac mae’n wych clywed gan fyfyrwyr sy’n gwthio ffiniau ac yn dod o hyd i atebion i broblemau’r byd go iawn. Diolch i bawb a drefnodd, a fynychodd, ac a gyfrannodd at wneud yr Ŵyl yn llwyddiant ysgubol unwaith eto.”

I gael mwy o wybodaeth am raddau ymchwil ôl-raddedig yn PDC, ewch i dudalennau gwe’r Ysgol i Raddedigion.