Mae’n bwysig stopio a myfyrio ar ba mor bell rydych chi wedi dod
Mae Gabrielle Hale yn fyfyriwr PhD Seicoleg yn PDC. Siaradodd â ni am ei hymchwil, ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau astudio doethuriaeth.
Straeon Myfyrwyr Ysgol i Raddedigion
Mae ei hymchwil yn edrych ar rôl clybiau pêl-droed proffesiynol wrth wella iechyd meddwl a lles seicolegol plant a phobl ifanc.
Mae treulio amser ym myd natur yn helpu i ddiffodd popeth ar ôl diwrnod hir o weithio ar fy PhD. Penwythnos nesaf, dw i’n dringo’r Wyddfa gyda’r nos i godi arian i’r elusennau Mind a CLIC Sargent.
Mae gallu mynd ar deithiau cerdded yn ystod y pandemig wedi gwneud i mi werthfawrogi pa mor lwcus yr ydym i fyw yn Ne Cymru a chael golygfeydd mor brydferth a mannau gwyrdd ar garreg ein drws.
Fel rhan o’m hymchwil PhD, fe wnes i gyfweld â phobl ifanc ledled y DU yn ddiweddar i ddarganfod sut mae gweithgareddau clybiau pêl-droed proffesiynol wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles.
Roedd y cyfyngiadau clo yn anodd i bawb, ond roedd yn agoriad llygad clywed sut yr effeithiodd cau parciau, cyfleusterau hamdden a rhoi’r gorau i weithgareddau’r ymddiriedolaeth bêl-droed hyn yn ystod pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd mwy trefol a heb fynediad i fannau gwyrdd neu erddi.
Mae wedi rhoi mwy o ystyr i’m PhD, sy’n gobeithio datblygu ymyriad sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n defnyddio atyniad ysbrydoledig clybiau pêl-droed proffesiynol i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan eu haddysgu ar yr un pryd am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i gynnal iechyd meddwl.
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mawr mewn iechyd meddwl a dyna pam y penderfynais astudio gradd Seicoleg yn PDC ac yna gradd Meistr mewn Seicoleg Glinigol. Rwyf wedi gweithio fel gweithiwr cymorth gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl a/neu anableddau dysgu, ac ar hyn o bryd rwy’n jyglo fy PhD ochr yn ochr ag addysgu ar gyfer PDC a’r Brifysgol Agored felly rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwneud amser ar gyfer fy lles meddwl fy hun.
Mae PhD yn brofiad gwerth chweil ond heriol. Mae yna lawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar hyd y ffordd: gall yr uchafbwyntiau fod mor syml â derbyn adborth da, gorffen casglu data ar gyfer astudiaeth, neu deimlo bod eich sgiliau cyfweld yn datblygu. Gall yr isafbwyntiau gynnwys teimladau o syndrom dynwaredwr, rhwystredigaeth am beidio â bodloni terfynau amser yr ydych wedi'u gosod i chi'ch hun neu gael papur wedi'i wrthod.
Mae cael cefnogaeth gan eich tîm goruchwylio a myfyrwyr PhD eraill yn hanfodol i gynnal eich cynnydd a'ch gwydnwch meddwl. Gall perthnasoedd da gyda myfyrwyr PhD eraill eich helpu i ymdopi â'r heriau oherwydd gallwch warantu bod myfyriwr PhD arall wedi mynd trwy (neu'n mynd trwy) yr hyn rydych chi'n ei brofi. Mae'n bwysig bwrw’ch bol a sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Mae hefyd yn bwysig stopio a myfyrio yn rheolaidd ar ba mor bell rydych chi wedi dod. Weithiau gall deimlo fel eich bod wedi aros yn eich unfan ond wrth edrych yn ôl rydych chi'n sylweddoli'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Mae’r sgiliau a’r profiad rydw i wedi’u hennill ers dechrau fy PhD wedi bod yn wych, ac mae hynny’n deimlad gwych!