Tom Harper

Cadw Pethau’n Syml: Paratoi Ar Gyfer Viva Llwyddiannus

Viva blog
PHD student tom harper

Yn y blog hwn, mae Tom Harper o Brifysgol Sheffield Hallam, yn rhannu ei gyngor ar sut i baratoi ar gyfer arholiad viva llwyddiannus.


Helo, fy enw i yw Tom ac yn ddiweddar mi basiais fy viva PhD ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, a dyma gipolwg ar sut nes i baratoi ar gyfer fy viva yn llwyddiannus.

Hoffwn amlinellu sut es ati i baratoi ar gyfer viva a rhannu rhywfaint o’r cyngor gwerthfawr a gefais ar fy siwrnai i basio.

Cadw pethau’n syml

Hoffwn rannu fframwaith byr a ddefnyddiais i strwythuro paratoadau viva fy hun a fydd yn eich helpu chi, gobeithio. Fy nod ar y cyfan oedd cadw popeth mor syml â phosibl ac fe greodd hyn dri phwynt ffocws: Y Tri Mawr, Penawdau, ac Y Sgwrs. Defnyddiais bob un o’r tri hyn i symleiddio fy agwedd at yr asesiad a gobeithio y gallant eich helpu chi hefyd. Beth am i ni roi cychwyn arni?

Dwi’n meddwl bod symlrwydd yn bwysig a’r prif reswm am hynny yw dim ond hyn a hyn y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer eich viva. Does dim syniad gennych pa gwestiynau y byddwch yn eu cael ac ym mha drefn y byddant yn dod. Does gennych ddim ffordd o ragweld yr hyn y bydd eich arholwyr yn ei ystyried yn ddiddorol nac yn werth archwilio ymhellach.

Wrth wynebu’r fath ansicrwydd, beth allwch chi ei wneud? Dwi’n cadw pethau’n syml.

FY NOD AR Y CYFAN OEDD CADW POPETH MOR SYML Â PHOSIBL AC FE GREODD HYN DRI PHWYNT FFOCWS: Y TRI MAWR, PENAWDAU, AC Y SGWRS.

Tom Harper

Y Tri Mawr

Roedd cyfleu ateb clir ac eglur i’r cwestiynau mawr yn fy viva yn gymaint anoddach nag yr oeddwn i’n meddwl. Awgrymodd fy ngoruchwylwyr i mi ganolbwyntio fy egni ar ddatblygu ymatebion cryf i’r Tri Mawr – Dadl, Cyfraniad a Methodoleg. I mi, roedd y tri term hynny’n dal hanfod yr hyn y bydd fy arholwyr yn debygol o ofyn i mi neu o leiaf yr hyn y byddent yn ei ddefnyddio fel mannau cychwyn (a dwi’n meddwl mai dyna oedd yr achos). Ar ôl ymchwilio, ysgrifennu, a darllen eich thesis bydd gennych syniad da o beth i’w wneud o’r tri pwynt hynny, felly rhowch gynnig ar fynegi hynny.

Roedd y viva ffug yn le gwych i brofi’r syniadau hyn oherwydd ei fod yn gyfle diogel i fod yn anghywir. Yn fy viva ffug sylweddolais fy mod yn ansicr ynghylch ble i ddechrau fy nhrafodaeth am fy nghyfraniad. Roeddwn yn deall beth roedd fy thesis yn ei gynnig, ond sut ydw i’n cyfleu hynny? Ble ydw i’n dechrau? Roedd y viva ffug a’r drafodaeth ddilynol yn amhrisiadwy yn hyn o beth. Roedd yr hyn a drafodwyd gennym yn datblygu dywediadau cofiadwy a manwl gywir a oedd yn cipio fy neges craidd. Felly, datblygais benawdau.

Penawdau

Clir ac eglur. Cofiadwy a manwl gywir. Y nod oedd symlrwydd ac effeithlonrwydd. Daeth fy Mhenawdau yn lyfr chwarae o ddywediadau roeddwn wedi’u llunio i fapio fy ymatebion i’r tri mawr. Roedd y cyfan wedi’u clymu i mewn i un gwestiwn mawr – Y Tri Mawr – dechreuais yn fawr ac yn eang, a’u gwneud yn fwy penodol yn raddol. O thesis i bennod, pennod i is-bennod. Y penawdau hyn oedd y rhan fwyaf o’m gwaith ysgrifennu nodiadau trwy gydol fy mharatoad. Gweithiodd hyn i mi i’r dim oherwydd fe alluogodd i mi gadw pethau’n syml hyd at y manylion lleiaf. Pwrpas y penawdau oedd fy nghadw mor gofiadwy a manwl gywir a phosibl heb y pwysau ar y meddwl.

Y Sgwrs

Sgwrs yw eich viva. Ydy, mae’n asesiad ond peidiwch â gadael i hynny dynnu eich sylw o ba gyhyr rydych chi’n ei weithio. Rydych chi a chriw o bobl yn dod at eich gilydd i drafod eich prosiect. Dyna sut y gwelais y fformat viva beth bynnag. Er fy mod wedi ymarfer y dull sgwrsio hwn o’r blaen ar gyfer cyfweliadau, fe weithiodd i’r dim i fy viva, fodd bynnag, roedd angen i mi ei ail-fframio ychydig. Awgrymwyd i mi fy mod yn ystyried pob cwestiwn y mae fy arholwr yn ei ofyn fel mynegiant o chwilfrydedd ac nid ffordd o farnu. Fel hyn maent yn gofyn am fanylion mwy diddorol ac nid yn chwilio am gamgymeriad. Sgwrs yw hi, nid holiad. Er mwyn ymarfer gweithio’r cyhyr sgwrsio hwnnw, dwi’n awgrymu siarad â ffrind neu aelod o’r teulu trwy eich Tri Mawr, profwch y penawdau hynny rydych chi’n eu datblygu a gweld a ydyn nhw’n ddigon clir ac eglur fel bod person lleyg yn deall eich neges. Allwch chi ei gadw’n syml?

"Dwi’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol gweld y viva fel rhywbeth llawer mwy nag asesiad. Ceisiwch ei weld fel sgwrs rhwng partïon â diddordeb, rhwydweithio ac ymgysylltu’n feirniadol ag ymchwil newydd i gael dealltwriaeth well o ddiddordeb a rennir."

Y Rhan Dechnegol

O ran sut olwg oedd ar fy llif gwaith, roeddwn yn ceisio osgoi unrhyw beth a oedd yn tynnu fy sylw ac yn gwastraffu fy ymdrechion. Darllenais fy thesis drwyddo i gyd. Cymerais ran mewn viva ffug gyda fy nhîm goruchwylio. Siaradais â myfyrwyr eraill ac academyddion y tu allan i Hallam am gyngor yn ogystal â theulu a ffrindiau a oedd yn awyddus i gefnogi fy mharatoad. Es ati i ymarfer yr hyn rydw i wedi’i amlinellu uchod. Mi es i’r afael â’r Tri Mawr, manylais ac ail-weithiais ar benawdau, a manteisiais ar bob cyfle i gael sgwrs am fy thesis mewn unrhyw fodd. Nes i ddim treulio oriau yn y llyfrgell, nes i ddim darllen fy thesis sawl gwaith, nes i ddim ysgrifennu tudalennau a thudalennau o nodiadau.

Ar y cyfan, nes i geisio cadw popeth yn syml.

Crynhoi Meddyliau

Meddyliais y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’n fyr yr hyn yr oeddwn ei eisiau o’r viva ar wahân i basio. Roeddwn yn ei weld fel cyfle gwych i ofyn beth fyddai fy thesis ei angen neu’n elwa ohono i’w gyhoeddi. A fyddai’n llyfr da neu a yw’n fwy addas i’w rannu’n nifer o erthyglau? A yw fy fframwaith ym Mhennod Un yn ymateb i’r bwlch yn y llenyddiaeth a nodais yn fy nghyflwyniad? Ymhellach, roedd yn gyfle gwych i rwydweithio â’m harholwyr, ac roedd un ohonynt yn rhywun a oedd wedi llywio fy nealltwriaeth o’r ddisgyblaeth.

Dwi’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol gweld y viva fel rhywbeth llawer mwy nag asesiad. Ceisiwch ei weld fel sgwrs rhwng partïon â diddordeb, rhwydweithio ac ymgysylltu’n feirniadol ag ymchwil newydd i gael dealltwriaeth well o ddiddordeb a rennir.

Mae eich viva yn asesiad, ond rwy’n erfyn arnoch i’w fwynhau cymaint ag y gallwch oherwydd mi wnes i yn bendant, a rhoddodd bersbectif hollol newydd i mi ar fy ymchwil a’r sawl yn fy maes.