Mae System Parcio Ceir Adnabod Plât Rhifau yn Awtomatig (ANPR) ar waith ym meysydd parcio Heol Llanilltud a meysydd parcio Glyn-taf Uchaf a Glyn-taf Isaf.

Nid oes angen i chi dynnu tocyn neu ddangos eich cardiau mynediad i fynd i mewn neu wrth adael y meysydd parcio hyn. Mae system parcio heb docyn sy’n defnyddio’r dechnoleg ANPR ddiweddaraf ar waith yn y maes parcio.

Wrth i chi yrru i mewn i’r maes parcio, bydd yr offer ANPR yn cofnodi eich rhif cofrestru. Ar eich ffordd yn ôl i’ch cerbyd, ewch i un o’r gorsafoedd talu a theipiwch eich rhif cofrestru. Codir tâl arnoch yn awtomatig ar sail nifer yr oriau rydych wedi parcio yn y maes parcio.

Bydd staff a myfyrwyr sy’n talu am barcio drwy’r gyflogres neu drwy’r siop ar-lein yn gallu gadael heb unrhyw dâl ychwanegol. Fel arall, gallwch dalu yn un o’r gorsafoedd talu yn y maes parcio. Byddwch yn gallu talu naill ai drwy gerdyn credyd, debyd, digyswllt neu drwy arian parod.  Gallwch hefyd osgoi’r ciwiau a thalu drwy’r ap Glide. 

Wrth adael, bydd yr offer ANPR yn adnabod eich plât rhif ac, os ydych wedi talu, bydd y rhwystr yn codi’n awtomatig. Os nad ydych wedi talu, ni fydd modd i chi adael y maes parcio.

Bydd angen i ddeiliaid trwydded staff a myfyrwyr sicrhau bod manylion eu cerbydau yn gyfredol er mwyn osgoi unrhyw gostau parcio. Gall myfyrwyr a staff gofrestru hyd at ddau gerbyd. I ddiweddaru eich manylion, ebostiwch: Canolfan Rheoli Diogelwch

Ap Parcio Glide:

Parcio’n hawdd - mae Glide yn system newydd sy'n defnyddio ap i dalu am barcio ym maes parcio Heol Llanilltud a meysydd parcio Glyn-taf Uchaf a Glyn-taf Isaf. Caiff Glide ei ddarparu gan Newpark Solutions i gael ei ddefnyddio yn ein meysydd parcio.

Ap talu ffôn clyfar newydd sbon Newpark yw Glide, sy'n galluogi cwsmeriaid i dalu'n syml ac yn hawdd drwy eu ffôn clyfar. Mae Glide yn gynnyrch mantais ychwanegol a fydd yn lleihau ciwiau mewn gorsafoedd talu ac yn darparu dewis modern yn lle dulliau talu traddodiadol.

  • Naill ai nodwch eich rhif cofrestru a dewis Pay Now neu greu cyfrif - dilynwch yr awgrymiadau gan Glide
  • Unwaith y byddwch wedi talu, mae ‘cyfnod gras’ o ddeg munud i chi adael y maes parcio

Dyma’r prif fanteision i chi:

  • Chi sy'n dewis defnyddio’r ap ai peidio
  • Does dim angen i chi gario arian parod
  • Mae mor gyflym - agorwch eich ap Glide a thal

I gael gwybod mwy dilynwch Glide ar Twitter @GlideParking

Edrychwch ar ap Glide (dolen allanol) i weld beth sydd ganddo i’w gynnig.