Mae gradd rheoli iechyd a gofal cymdeithasol yn ddewis gwerth chweil i unrhyw un sy'n dymuno bod yn rheolwr neu'n arweinydd ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn y dyfodol.
Mae'r radd rheoli iechyd, lles a gofal cymdeithasol hon yn darparu sylfaen ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, o weithio gydag unigolion i reoli pobl. Byddwch yn ennill dealltwriaeth gadarn o'r wybodaeth, y sgiliau a'r egwyddorion a fydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol o'ch dewis.
Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar daith unigolyn trwy'r llwybr iechyd a gofal cymdeithasol, gan ystyried arweinyddiaeth, rheolaeth, polisi, materion cyfoes ac arfer sy'n dylanwadu ar eu profiadau. Yn y flwyddyn olaf, gallwch ddewis modiwlau i helpu i deilwra'r radd i fodloni'ch dyheadau gyrfa.
Mae mynd allan o'r ystafell ddosbarth ac i'r gweithle yn rhan allweddol o'ch dysgu. Mae cyfleoedd seiliedig ar waith yn ystod y cwrs, sy'n eich helpu i ddatblygu darlun clir o'r gyrfaoedd gwahanol sy'n agored i chi.
2024 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L510 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Glyn-taf | A | |
Rhan amser | 6 mlynedd | Medi | Glyn-taf | A | ||
2025 | Cod UCAS | Modd Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
L510 | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Glyn-taf | A | |
Rhan amser | 6 mlynedd | Medi | Glyn-taf | A |

Mae Campws Pontypridd yn cynnwys dau safle: Trefforest a Glyn-taf. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd â'r awyrgylch cymunedol, yn ogystal â byw ac astudio yn yr un lle. Mae'n dawelach na'r dinasoedd, gyda mannau agored gwyrdd a golygfeydd ar draws y cwm.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.