Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn helpu i gynnal uniondeb safonau academaidd y Brifysgol, ac mae’n gyfrifol am reoli’r agweddau gweinyddol ar amser myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.

O ddatblygiad proffesiynol a Rhwydwaith Cyfnewid PDC i wasanaethau cefnogi digwyddiadau a cynadledda, mae yna nifer o ffyrdd y gall eich sefydliad weithio gyda PDC.

Mae’r Ganolfan ar gyfer Gwella Dysgu ac Addysgu (CELT) yn helpu i gefnogi, datblygu a chydnabod cydweithwyr a myfyrwyr fel datblygwyr, ymarferwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr addysgol.

Mae’r Gaplaniaeth yn wasanaeth agored a chynhwysol, sy’n cynnig cymorth cyfrinachol heb feirniadaeth i gefnogi cydweithwyr a myfyrwyr waeth beth fo’u ffydd, diwylliant, rhywedd, neu gyfeiriadedd rhywiol. 

Yr adran Cyfathrebu, Materion Cyhoeddus a Pholisi sy’n cyfleu gweledigaeth, amcanion a llwyddiannau’r Brifysgol, gan wella ein henw da, a hwyluso ymagwedd strategol tuag at weithgareddau ymgysylltu.

Mae'r adran Ystadau a Chyfleusterau yn gofalu am ystâd gyfan PDC, gan gynnwys cyfleustodau, glanhau, diogelwch, parcio, cynnal a chadw, cynaladwyedd a phrosiectau adeiladu mawr.

Y Tîm Gweithredol sy’n gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol PDC, yn ogystal â sicrhau arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol mewn perthynas â’r holl weithgareddau academaidd a chymorth.

Yr Adran Gyllid sy’n rheoli holl weithgareddau ariannol y Brifysgol, gan gynnwys cyfrifon, caffael, yswiriant, y gyflogres, a systemau cyllid ac adrodd.