Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau (Rhif 1-93) yn berthnasol i fyfyrwyr a'r cyhoedd. Mae safonau'r Gymraeg ond yn berthnasol i'r graddau y mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan y brifysgol, neu gan ein

  • Derbyn a dethol myfyrwyr
  • Gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff
  • Lles myfyrwyr
  • Cwynion
  • Achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr
  • Gwasanaeth Gyrfaoedd
  • Mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu
  • Seremonïau graddio a gwobrwyo
  • Asesu neu arholi myfyriwr
  • Dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
  • Darlithoedd cyhoeddus
  • Cyfleoedd dysgu (1)
  • Dyrannu tiwtor personol (2)
  • Llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau
  • Galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio
  • Arwyddion ar adeiladau'r corff

(1) Ystyr "cyfleoedd dysgu" yw unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu ar gyfer addysgu neu wella sgiliau aelodau o'r cyhoedd; ond nid yw'n cynnwys a) unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flas neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei ddarparu fel rhan o gwrs; neu b) seminarau na chyflwyniadau llafar sy'n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

(2) "Tiwtor personol" yw aelod o staff a ddyrenir i fyfyriwr a'i brif rôl fel tiwtor personol yw rhoi cymorth i'r myfyriwr hwnnw o ran ei ddysgu neu o ran unrhyw faterion eraill; nid yw dyrannu tiwtor personol i'r myfyriwr yn cynnwys darparu tiwtor academaidd.