Gwneud Cwyn Ynghylch y Gymraeg

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r Safonau Gymraeg perthnasol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a weithredir gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo nad yw’r Brifysgol wedi cydymffurfio â’r Safonau Gymraeg a rhestrir yn ein hysbysiad cydymffurfio, gallwch wneud cwyn. Mae’r weithdrefn isod yn amlinellu’r broses gwyno a ddilynir gan yr Uned Gymraeg o fewn y Brifysgol. Rydym yn cymryd pryderon, sylwadau a chwynion o ddifri a byddwn yn sicrhau bod y mater yn cael ei drin yn y modd priodol.

Diffiniad o gŵyn

Gallwch wneud cwyn neu sylw ar unrhyw un o'r safonau isod: 

  • Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
  • Safonau Llunio Polisi neu
  • Safonau Gweithredu

I weld yr holl safonau rydym wedi ymrwymo at gweler ein Hysbysiad Cydymffurfio.  

Cam 1: Datrys y gŵyn yn anffurfiol

Gallwch gwyno ar lafar neu’n ysgrifenedig drwy gysylltu â’r Uned Gymraeg (ceir manylion cyswllt isod). Byddwn yn cydnabod derbyn y gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi sut ydym am ymdrin â’r mater. Fel arfer, byddwn yn cysylltu â’r person neu’r adran dan sylw ac yn ceisio datrys y mater cyn gynted â phosibl. Os yw’n fater syml i’w gywiro a’ch bod yn fodlon gyda’r ymateb neu’r penderfyniad ynglŷn â sut i weithredu, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Cam 2: Ymchwilio i’r gŵyn yn ffurfiol

Os nad ydych yn fodlon bod y mater wedi ei ddatrys, gallwch wneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig i'r Uned Gymraeg. Gall hyn olygu y bydd yn rhaid i ni drafod y mater mewn cyfarfod a gwneud ymchwiliad trylwyr. Ymdrechwn i ddatrys y sefyllfa o fewn 25 diwrnod gwaith, a byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig am y canlyniad. Cewch eich diweddaru’n rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau neu os bydd angen rhagor o amser i gynnal ymchwiliad pellach. Bydd angen cymaint o dystiolaeth â phosibl er mwyn cynnal ymchwiliad llawn e.e. ffeiliau, nodiadau, gohebiaeth, a chofnod o sgyrsiau.

Yn ystod yr ymchwiliad i gŵyn, bydd yr Uned Gymraeg yn ceisio sefydlu a ddilynwyd y gweithdrefnau. Os ydym yn casglu nad yw’r Brifysgol wedi cydymffurfio â’r Safonau’n ddigonol, byddwn yn cynnig ymddiheuriad a chymerir camau i osgoi ailadrodd yr un gwall yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adolygu, neu wella ein gweithdrefnau a'n polisïau presennol, a darparu hyfforddiant ychwanegol i gydweithwyr ar sut i weithredu safon penodol. Rhoddir cyfle i chi ymateb i’r sylwadau a sicrhau eich bod yn fodlon gyda’r canlyniad cyn cau’r achos.

Cam 3: Cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg

Os ydych yn teimlo nad yw’r gŵyn wedi ei datrys yn foddhaol neu os ydych yn anfodlon â’r canlyniad, gallwch apelio’n erbyn y penderfyniad drwy drosglwyddo’r gŵyn i Gomisiynydd y Gymraeg. Byddant wedyn yn cynnal ymchwiliad pellach mewn cydweithrediad â’r Brifysgol, a gall hyn ymestyn dros gyfnod estynedig. Mae dolen isod ar gyfer eu gwefan.

Ffurflen Gwyno Comisiynydd y Gymraeg

Sut i wneud cwyn

Gallwch anfon e-bost, llenwi ein ffurflen gwyno neu siarad dros y ffôn drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Os hoffech y wybodaeth hon mewn fformat wahanol (Braille, clip sain neu brint bras), rhowch wybod i ni. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg. Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl er mwyn ein cynorthwyo i ddelio â’ch cwyn yn effeithiol. Ceisiwch wneud y gŵyn mor fuan â phosibl yn dilyn y digwyddiad er mwyn ein galluogi i ddelio â’r mater yn y dull mwyaf effeithiol. 

Ffurflen gwyno

E-bostiwch: [email protected] 
Ysgrifennwch atom: Uned Gymraeg, Prifysgol De Cymru, Swyddfa Weithredol, Trefforest, Pontypridd, CF37 1DL
Rhifau ffôn: Sara Maynard- Swyddog Iaith Gymraeg: 01443 482017