Cyfansoddiad ac Aelodaeth

3 i 9 aelod (ac eithrio staff a myfyrwyr-lywodraethwyr), gan gynnwys: - hyd at 6 aelod annibynnol neu gyd-etholedig o'r Bwrdd, gyda 2 ohonynt yn aelodau annibynnol ac un yn Gadeirydd - hyd at 3 aelod cyd-etholedig o'r Pwyllgor.

Aelodaeth 

  • David Francis (Cadeirydd)
  • Richard Lloyd-Owen (Cadeirydd y Bwrdd ex officio)
  • Dr James Gravelle (Is-Ganghellor Dros Dro)
  • Michael Stevens
  • Irfan Fahim (Llywydd Undeb y Myfyrwyr)
  • Geraint Evans (Staff Academaidd)
  • Ian Morgan (Cyfetholedig)
  • Helen Thomas (Cyfetholedig)
  • Swydd wag (Cyfetholedig)

Cworwm

O leiaf 3 aelod, gan gynnwys dau aelod lleyg a'r Is-Ganghellor neu aelodau eraill o'r Weithrediaeth.

Presenoldeb mewn cyfarfodydd

Gellir hefyd gofyn i'r Prif Swyddog Cyllid a swyddogion perthnasol y Brifysgol a'r colegau i fynychu fel bo'n briodol.

Amlder cyfarfodydd

Dim llai na tair gwaith y flwyddyn.

Dyletswyddau

Dyletswyddau'r Pwyllgor tuag at y Brifysgol a'i is-gyrff yw:

  1. ystyried a chynghori'r Bwrdd ar strategaethau ariannol hir dymor
  2. cymeradwyo'r Rheoliadau Ariannol gan gynnwys unrhyw bolisïau cyd-gysylltiedig (bob tair blynedd yn ffurfiol neu pan gaiff newidiadau sylweddol eu gwneud)
  3. adolygu a chymeradwyo yswiriant a threfniadau bancio'r Brifysgol (i'w hystyried bob pum mlynedd neu pan gaiff newidiadau sylweddol eu gwneud)
  4. adolygu ac argymell cyllidebau refeniw a chyfalaf blynyddol a rhagolygon mwy hir dymor i'r Bwrdd
  5. derbyn adroddiadau rheolaidd ar berfformiad ariannol (refeniw a chyfalaf) a'r sefyllfa ariannol a monitro'r adroddiadau hyn yn erbyn y gyllideb
  6. datblygu a chynnal Polisi Trysorfa a Buddsoddiad priodol. Monitro lefelau a gofynion benthyca, hylifedd a'r buddsoddiad o gronfeydd gormodedd yn unol â'r polisi hwnnw ac adrodd i'r Bwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn
  7. derbyn adroddiadau a chyfrifon rheolaidd ar weithrediad unrhyw is-gwmni masnachol
  8. cymeradwyo cyllideb Undeb y Myfyrwyr ar gyfer bob blwyddyn ymlaen llaw a monitro ei wariant trwy dderbyn adroddiadau ar y ffurf a nodir yn y Cod Ymarfer ar Weithrediad Undeb y Myfyrwyr
  9. cymeradwyo neu argymell cynigion gwariant, cytundebau a cheisiadau grant yn unol â Rheoliadau Ariannol
  10. argymell Rhaglen Ystadau blynyddol gan gynnwys gwaith cynnal a chadw adeiladau a phrosiectau adeiladu am gymeradwyaeth gan y Bwrdd
  11. adolygu'r Strategaeth TGCh a'r Strategaeth Ystadau gan gynnwys monitro agweddau ariannol gweithgareddau TGCh ac Ystadau rhoi prosiectau mawr ar waith
  12. gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar gaffaeliad, gwerthiant neu brydlesi arfaethedig eiddo a thir
  13. ystyried unrhyw drafodion arwyddocaol eraill a gwneud argymhellion i'r Bwrdd
  14. adolygu agweddau ariannol gweithgarwch ymchwil
  15. adolygu'r risgiau strategol sy'n effeithio ar y Brifysgol ar gyfer yr ardaloedd hynny a ddaw o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor ac unrhyw risgiau penodol a chaiff eu haseinio iddo gan y Bwrdd
  16. cynghori'r Bwrdd ar unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Bwrdd.
  17. ystyried, mewn perthynas â'r Pwyllgor Archwilio, datganiadau ariannol cyfunol blynyddol y Brifysgol a'i is-gyrff, wedi'u paratoi a'u harchwilio yn unol ag Atodlen 7 o'r Ddeddf Diwygio Addysg ym mhresenoldeb archwilwyr allanol a sicrhau bod;
  • polisïau cyfrifeg addas yn cael eu dethol ac yn cael eu defnyddio'n gyson;
    • y dulliau ac egwyddorion mewn perthynas â'r Datganiad o Arferion a Argymhellir: Cyfrifeg ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn cael eu dilyn;
    • penderfyniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog yn cael eu gwneud;
    • safonau cyfrifeg perthnasol i'r DU wedi cael eu dilyn, yn amodol ar unrhyw ddeunydd ymadael a ddatgelir ac a esbonnir yn y datganiadau ariannol;
    • datganiadau ariannol yn cael eu paratoi ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn anaddas rhagdybio y bydd y Brifysgol yn parhau i weithredu.

Gweithdrefnau adrodd

Bydd cofnodion (neu adroddiad) cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau'n cael eu cylchredeg i holl aelodau Bwrdd y Llywodraethwyr ac i archwilwyr allanol.

Trefniadau clercio

Y Clerc i'r Pwyllgor fydd y Clerc i Fwrdd y Llywodraethwyr (neu unigolyn annibynnol arall priodol a gymeradwyir gan y Cadeirydd).

Adroddiad Blynyddol

lawrlwytho adroddiad blynyddol