Uned Llywodraethu
Mae'r Uned Llywodraethu yn darparu cefnogaeth i lywodraethiant a rheolaeth y Brifysgol trwy weinyddiaeth y Bwrdd Llywodraethwyr a'r Bwrdd Academaidd a'u pwyllgorau priodol.
Arweinir yr Uned Llywodraethu gan Ysgrifennydd y Brifysgol a'r Clerc i'r Llywodraethwyr William Callaway ac mae'r uned yn gweithio'n agos gyda'r Is-ganghellor a'r Weithrediaeth.
Mae'r Uned Llywodraethu hefyd yn gyfrifol am y meysydd canlynol:
Ceir gwybodaeth am Bwyllgorau Bwrdd y Llywodraethwyr, Aelodaeth a Chylch Gorchwyl ar y gwefannau canlynol:
- Bwrdd Academaidd
- Pwyllgor Sicrhau Ansawdd
- Pwyllgor Gwella Dysgu ac Addysgu
- Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi
Dyddiadau tymhorau
Ar gyfer dyddiad tymor y Brifysgol, gweler y dudalen dyddiadau tymhorau.
Amserlen Pwyllgorau
Mae amserlen y Bwrdd Academaidd a'i Bwyllgorau 2025/26 ar gael yma.
Mae Cynllun Dyfarniadau er Anrhydedd y Brifysgol yn dathlu cyraeddiadau arwyddocaol unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig yn eu maes/meysydd o ddewis-weithgaredd, ac sydd â chysylltiad â threftadaeth a chenhadaeth y Brifysgol.
Bob blwyddyn, gwahoddir staff i gyflwyno enwebiadau am Ddoethuriaethau a Chymrodoriaethau er Anrhydedd i'w dyfarnu yn Seremonïau Graddio'r Brifysgol. Caiff yr enwebiadau eu hystyried gan y Pwyllgor Cyflwyniadau sy’n cwrdd unwaith y flwyddyn. Caiff y Pwyllgor ei gadeirio gan yr Is-ganghellor ac mae ganddo gynrychiolwyr staff a Llywodraethwyr.
Mae'r Uned Llywodraethu yn gyfrifol am gydlyno a rheoli rhaglen archwiliad mewnol y Brifysgol.
Unwaith y flwyddyn, bydd y Brifysgol yn cytuno ar raglen o archwiliadau mewnol sy'n darparu adolygiad annibynnol o wahanol feysydd o fusnes ar draws y Brifysgol. Caiff y meysydd hyn eu halinio i gofrestr risg y Brifysgol gan gyfrannu at reolaeth risg y Brifysgol.
Mae'r archwiliadau'n hwyluso adnabod risgiau a chyfleoedd ac yn ceisio sicrwydd bod y sefydliad yn gweithredu'n effeithiol. Bob blwyddyn, cynhelir adolygiad dilynol i werthuso datblygiadau a roddwyd ar waith yn dilyn yr archwiliad.
Caiff adroddiadau'r Archwiliadau eu cyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i'w hadolygu a'u cyflwyno i Fwrdd y Llywodraethwyr.
Cysylltwch â Ni
Cyfeiriwch ymholiadau at:
Darllenir y negeseuon a anfonir at y cyfrif hwn bob dydd a chânt eu hanfon ymlaen at y bobl briodol. Mae staff yr Uned yn gweithio rhan amser, felly mae hyn yn sicrhau y byddwn yn ymateb i'ch cais cyn gynted â phosib.