Diben Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu’r arfer o fod yn agored ac yn atebol ledled y sector cyhoeddus. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i unigolion ofyn am wybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol sicrhau bod y wybodaeth ar gael, oni bai bod eithriadau ar waith.

Dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Brifysgol gynhyrchu a chynnal Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r wybodaeth sydd ar gael fel mater o drefn. Gellir dod o hyd i lawer o'r wybodaeth hon ar wefan y Brifysgol.

Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch anfon eich cais yn ysgrifenedig at:

Y Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth,
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL

Neu drwy e-bost i: [email protected]

Cwynion yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth

Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaeth o safon uchel i bawb y mae'n delio â nhw. Weithiau, fodd bynnag, am amryw o resymau, nid yw hyn yn digwydd ac nid yw'r Brifysgol yn cyrraedd y nodau mae’n eu gosod iddi ei hun. Os bydd hyn yn digwydd hoffai'r Brifysgol glywed gennych er mwyn iddi roi camau gweithredu ar waith i unioni'r sefyllfa.

Y Cynllun Cyhoeddi

Mae'n bwysig bod cynllun cyhoeddi'r Brifysgol yn diwallu'ch anghenion. Os ydych yn ei chael hi'n anodd deall y cynllun, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynghylch sut gellid gwella'r cynllun. Gallwch gyflwyno unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y cynllun trwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod neu anfon e-bost atom i [email protected].

Delio â Cheisiadau

Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych rai hawliau i adolygu penderfyniad gan y Brifysgol yn ymwneud â chais am wybodaeth os ydych chi'n anfodlon â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais. Gellir gweithredu’r hawliau hyn drwy ddwy broses adolygu. Yn gyntaf, drwy ddefnyddio'r weithdrefn gwynion y mae manylion amdani isod; yn ail trwy wneud cais yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Sylwer: Cyn apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth dylid cwblhau gweithdrefn gwynion fewnol y Brifysgol.

Cam 1: Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon gyda gwasanaeth rwyf wedi ei dderbyn?

Os ydych am wneud cwyn, ysgrifennwch at y Brifysgol i’r cyfeiriad isod:

Eloise Rosser,

Swyddog Diogelu Data a Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth,

Prifysgol De Cymru,

Pontypridd,

CF37 1DL

e-bost: [email protected]

Os na ellir datrys eich problem yn syth bydd y swyddog â chyfrifoldeb yn rhoi gwybod i chi faint o amser y gallwch ddisgwyl aros. Nod y Brifysgol yw ymateb i'ch cwyn a darparu ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw'ch cwyn yn un ddyrys, efallai y bydd angen mwy o amser i ymchwilio. Os bydd hyn yn wir, cewch esboniad yn nodi pam a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.

Cam 2: Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon â chanlyniad Cam 1?

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb i gŵyn gallwch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i'r mater yn ôl ei ddisgresiwn ei hun:

FOI Compliance Team (complaints)
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

e-bost: [email protected]
ffôn: 01625 545700
ffacs: 01625 545510