Celf a Dylunio
Darganfyddwch ein digwyddiadau allgymorth ac ar y campws sy'n canolbwyntio ar Gelf a Dylunio, gan gwmpasu ystod o gyrsiau cyffrous fel Darlunio, Dylunio Graffeg, Dylunio Mewnol a Dylunio Setiau Teledu a Ffilm. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr a mewnwelediad gwirioneddol i'r posibiliadau creadigol o fewn pob cwrs, gan eu helpu i archwilio eu talentau a'u hopsiynau gyrfa ym myd bywiog dylunio.
Digwyddiadau ar y Campws
Archwiliwch ein digwyddiadau pwnc-benodol ar y campws ar gyfer Celf a Dylunio.
Diwrnod Blasu: Expo Gyrfaoedd Creadigol
Rhowch gyfle i’ch myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfa creadigol yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n ansicr o’u camau nesaf neu sydd eisiau dysgu mwy am gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol.
Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn ein campws Caerdydd creadigol yn cynnig cyfle ysbrydoledig i fyfyrwyr archwilio Cyfathrebu Graffig, Darlunio, Dylunio Mewnol, a Dylunio Setiau Teledu a Ffilm.
Mynd i'r afael â: Marchnata a Hysbysebu
Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol i Marchnata a Hysbysebu i fyfyrwyr.
Diwrnod Blasu: Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig: Cefnogi lles trwy greadigrwydd
Mae’r Diwrnod Blasu hwn yn cynnig cyfle unigryw i’ch myfyrwyr archwilio sut y gellir defnyddio creadigrwydd i gefnogi iechyd, lles a datblygiad personol.
Sgyrsiau a Gweithdai Allgymorth
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau ar friff dylunio. Bydd hyn yn herio eu sgiliau cyfathrebu gweledol a datrys problemau. Mae'r gweithdy hwn yn annog myfyrwyr i ymchwilio i broblem gyfathrebu sy'n bodoli eisoes a chynnig syniadau, cysyniadau dylunio ac atebion arloesol.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio eich sgiliau celf er budd lles eraill? Os ydych chi'n angerddol am gelfyddydau mynegiannol ac yn credu ym mhotensial arferion creadigol i wella lles, mae'r radd unigryw mewn Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn rhoi'r cyfle i ddatblygu eich ymarfer yn y dyfodol mewn lleoliadau cymunedol ac addysgol.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn celfyddyd gain, dylunio, crefft neu ymgysylltu cymunedol creadigol, mae'r radd BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau creadigol. Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran gweithlu'r celfyddydau creadigol a therapiwtig, a fydd yn rhoi platfform rhagorol i chi ennill profiad o weithio'n greadigol gydag eraill. Mae gan y radd hon dair maes astudio penodol - ymarfer celf, lleoliad ymarfer proffesiynol a mewnbwn damcaniaethol. Byddwch yn cael eich annog i wneud cysylltiadau ystyrlon rhwng pob pwnc craidd i ddod yn ymarferydd celfyddydau creadigol.
Gall ein hymarferwyr arbenigol ymweld â'ch ysgol neu goleg i ddweud mwy wrthych!
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau a'r dulliau dylunio allweddol sydd eu hangen i greu ymateb creadigol i brosiect dylunio mewnol.
Byddwch chi'n dysgu sut i fesur a dadansoddi gofod wrth gofnodi eich darganfyddiadau gan ddefnyddio technegau lluniadu amrywiol. Hefyd, fe gewch chi greu eich dyluniad eich hun mewn ymateb i'ch syniadau ar gyfer y defnydd newydd o'r gofod.
Yn ystod y sesiwn byddwch yn creu digonedd o waith darlunio drwy’r gweithdy ymarferol hwn, felly dewch â'ch llyfr braslunio!
Wrth arbrofi gyda deunyddiau, byddwch chi'n creu model o strwythur sydd yn ffordd o gyflwyno’r sgìl hanfodol o ddatblygu unrhyw fath o ddyluniad tri dimensiwn. Drwy chwarae gyda ffurf a chyfansoddiad, byddwch chi'n gallu gweld beth yw'r posibiliadau creadigol ar gyfer creu gwrthrych hardd.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio rôl y Dylunydd Cynhyrchiad a rolau eraill mewn adran gelf broffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn darganfod beth sydd ei angen i sefydlu gyrfa yn y diwydiant, yn darganfod y lleoliadau gwaith amrywiol y mae myfyrwyr wedi'u profi gyda chynyrchiadau fel; Doctor Who, Aladdin Disney, Mission Impossible 6 a Luther, a dysgu mwy am sut mae Prifysgol De Cymru’n creu graddedigion sy'n barod ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Sut i Gysylltu
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! I drefnu sesiwn neu drafod opsiynau wedi'u teilwra, cysylltwch â'n Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth a byddwn mewn cysylltiad.
Cysylltwch â'r tîm