Cyrsiau Blasu Byr

Cyrsiau Blasu Heddlua

Meddwl am yrfa yn yr heddlu ond yn ansicr pa lwybr i'w ddilyn? Dysgwch am rôl yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol, a’r mathau o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i’r proffesiwn.

Gweld Cyrsiau Cyrsiau Blasu Byr
Police in uniform walking through the University's Hydra Simulation Centre.

Mae darlithwyr yn defnyddio cymysgedd o diwtorialau fideo a thasgau rhyngweithiol wrth iddynt roi cipolwg ar yr hyn y gallech fod yn ei astudio ar un o’n graddau plismona yn ogystal â’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o yrfa yn ymladd trosedd – boed hynny fel swyddog heddlu, PCSO neu dadansoddwr heddlu.

Profwch yr hyn sydd gan PDC i'w gynnig

Mae’r cyrsiau blasu heddlua, sy’n amrywio o ran hyd o 30 munud i fwy nag awr, yn ffordd wych o brofi’r hyn sydd gan Brifysgol De Cymru i’w gynnig tra’n cael syniad ai dyma’r lle iawn i chi. Gallwch chi stopio, ailddechrau ac ailchwarae'r cyrsiau ar-lein unrhyw bryd ar ôl i chi ddechrau.

Dod o hyd i gwrs blasu byr

Cyrsiau Blasu Heddlua

Police officer wearing a high-vis and walkie talkie
An image of a door that is ajar
Two student police officers taking part in a mock police station interview with a suspect