Os ydych wedi astudio cwrs o'r blaen nad yw'n cael ei ariannu gan y GIG, ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl i gael cymorth Bwrsariaeth y GIG a benthyciad cynhaliaeth cyfradd ostyngol  gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.  

Fodd bynnag, os ydych wedi dechrau neu gwblhau unrhyw gwrs a ariennir gan y GIG o'r blaen, gallai hyn effeithio ar eich cyllid. Cysylltwch â Dyfarniadau Myfyrwyr GIG i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Sylwch, os oes gennych radd anrhydedd eisoes, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y amser llawn pecyn cyllido safonol ar gyfer gradd gofal iechyd os gwnewch gais i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am reolau astudio blaenorol ar ein tudalen Astudiaethau Blaenorol neu Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.

Os ydych yn astudio cwrs rhan-amser, gallwch dderbyn cyllid rhan-amser gan fod pynciau sy'n gysylltiedig â meddygaeth yn bynciau wedi’u heithrio 

Efallai y bydd gan rai myfyrwyr hawl i fudd-daliadau'r wladwriaeth neu gredydau treth wrth astudio.  Gweler ein tudalen Myfyrwyr a Budd-daliadau am ragor o wybodaeth.