Bwrsariaeth Offer Cwrs 2026/27
Fel myfyriwr BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig, byddwch yn derbyn taleb gwerth £100 i brynu cyflenwadau celf gan Dryaeducation (cwmni cyflenwadau celf arbenigol) pan fyddwch yn cofrestru, i'ch cefnogi gyda chostau'r cwrs.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
I fod yn gymwys, mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Wedi ymrestru ar gyfer blwyddyn 1 neu flwyddyn 0 BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn dechrau ym mis Medi 2026.
Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, does dim angen unrhyw gamau pellach, a byddwch yn cael yr eitemau yn awtomatig.
Bydd myfyrwyr cymwys yn derbyn taleb gwerth £100 i brynu cyflenwadau celf gan Dryad Education (cwmni cyflenwadau celf arbenigol).
Na fyddwch, dim ond ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau y mae'r fwrsariaeth ar gael.
Gallwch.
Os byddwch yn gadael cyn i chi dderbyn dyfais storio ddigidol yn y tymor cyntaf, ni fyddwch yn gymwys i'w derbyn.
Os byddwch yn gadael ar ôl i chi dderbyn eich taleb, mae gennych hawl i'w chadw.
Yn anffodus, os bydd eich eitemau'n torri neu'n mynd yn ddiffygiol, ni fydd gennych hawl i dderbyn taleb newydd gan PDC. Bydd angen i chi gysylltu â Dryad Education yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw eitemau diffygiol - Contact Us - We would love to talk | Dryad Education.
Trwy gytuno i delerau ac amodau'r fwrsariaeth, rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â Chod Ymddygiad Myfyrwyr y Brifysgol ac ni fydd unrhyw gamddefnydd o'r offer - Ymddygiad Myfyrwyr | Prifysgol De Cymru.
Gallwch. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gymwys i dderbyn dyfais. Gallwch fod yn dawel eich meddwl nad yw derbyn y cymorth hwn yn cael ei ystyried yn 'arian cyhoeddus' ac felly ni fydd yn effeithio ar unrhyw geisiadau fisa y gallech eu gwneud yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch [email protected].
Cysylltwch â [email protected].