Daniel Morgan

Mae fy ngradd Ceiropracteg wedi creu opsiynau di-ri o ran gyrfa

Ceiropracteg
Chiropractic student treating a patient in a training room

Mae Ceiropracteg yn yrfa sy'n cynnig posibiliadau di-ri, waeth ym mha faes bynnag mae eich diddordeb - pediatreg ac obstetreg, chwaraeon elit, neu hyd yn oed rheoli poen cronig efallai.


Y cyfnod yn fyfyriwr Ceiropracteg PDC

Graddiodd Daniel Morgan, o Borth Talbot, gyda Gradd Meistr mewn Ceiropracteg, ac mae’n gweithio gydag athletwyr elit, ac mewn clinigau preifat ym Mhort Talbot ac Abertawe. 

Mae hefyd yn cyfrannu at brosiectau ymchwil sydd dan ofal Sefydliad Ceiropracteg Cymru a'r Uned Ymchwil Technoleg a Diagnosteg Clinigol. 

"Roedd fy mhrofiadau gyda Gradd Ceiropracteg Prifysgol De Cymru yn gwbl gadarnhaol. Fe wnes i fwynhau fy mhrofiadau, a chwrdd â ffrindiau fydd yn ffrindiau am byth.  

Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf i oedd parodrwydd y staff i fynd yr ail filltir i helpu eu myfyrwyr. Roedd y darlithwyr bob amser yn hapus i helpu ac yn ymateb yn gyflym i e-byst ac ymholiadau. Ro’n nhw’n angerddol, yn brydlon ac yn benderfynol o gael y gorau ohonon ni. 

Roedd y lleoliadau clinigol yn werthfawr iawn. Roedd y lleoliad yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr yn hynod ddiddorol. Aethon ni gydag un o brif lawfeddygon orthopedig cluniau a thraed y wlad ar ei rowndiau, gweld llawdriniaeth yn cael ei gwneud, a thrafod cluniau newydd, llawdriniaeth ac esblygiad yr offer llawfeddygol. 

Roedd labordy’r celain hefyd yn brofiad na fyddaf i byth yn ei anghofio, am y rhesymau cywir i gyd! Roedd yn gyfle gwych i ddelweddu ac ymdeimlo ag anatomeg ddynol yn ei ffurf fwyaf pur. Gofynnwyd cwestiynau i ni am wahanol rannau'r corff, gan gynnwys y breichiau a’r coesau, yn ogystal â'r pen a'r gwddf - dysgu ymarferol ar ei orau. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

ROEDD LABORDY’R CELAIN HEFYD YN BROFIAD NA FYDDAF I BYTH YN EI ANGHOFIO, AM Y RHESYMAU CYWIR I GYD! ROEDD YN GYFLE GWYCH I DDELWEDDU AC YMDEIMLO AG ANATOMEG DDYNOL YN EI FFURF FWYAF PUR.

Daniel Morgan

Graddedig Ceiropracteg

Datblygu ymchwil a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd 

Gwnaeth y cwrs Ceiropracteg hefyd danio fy niddordeb mewn ymchwil. Do’n i erioed wedi rhagweld y byddwn i’n gwneud ymchwil, ond pan gododd y cyfle ym mlwyddyn tri, gwnes i ei fwynhau’n fawr. 

Oherwydd hyn rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr â gweithwyr elit proffesiynol yng Nghlwb Pêl-droed Academi Dinas Abertawe a mynd yn fy mlaen i wneud MSc Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Rwyf hefyd yng nghanol cwblhau'r cymhwyster Ymarferydd Ceiropracteg Ardystiedig Chwaraeon Rhyngwladol (ICCSP).

Mae Ceiropracteg yn yrfa sy'n cynnig posibiliadau di-ri, waeth ym mha faes bynnag mae eich diddordeb - pediatreg ac obstetreg, chwaraeon elit, neu hyd yn oed rheoli poen cronig efallai - mae gan Ceiropracteg ffyrdd i helpu a thrin pobl ag ystod eang o broblemau. 

Fel ceiropractydd, y peth mwyaf braf yw gweld cleifion yn ymateb i ofal. Does dim teimlad gwell na gwella problemau hirdymor neu fyrdymor pobl a gweld yr effaith mae'n ei chael ar eu bywyd."

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Ceiropracteg?

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.