Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Dysgwch sut i gyrchu gwybodaeth yn annibynnol er mwyn asesu'n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sport/msc-sports-and-exercise-medicine.jpg)
Mae’r cwrs dwy flynedd MSc Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, sy’n cael ei addysgu ar-lein, wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amgylchedd clinig chwaraeon ac fe’i cyflwynir gan dîm arloesol a phrofiadol sydd ag enw da sefydledig yn rhyngwladol ym maes meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno gyda’r nod o hybu a gwella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol myfyrwyr er mwyn bodloni gofynion eu swyddi.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Sgiliau a addysgir
- Asesu
- Gwerthuso
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff hwn â ffocws clinigol wedi'i ddylunio i wella sgiliau a gwybodaeth broffesiynol myfyrwyr ym maes meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Mae'r cwricwlwm yn seiliedig ar y cwricwlwm hyfforddiant arbenigol a ddatblygwyd gan Gyfadran Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Coleg Brenhinol y Meddygon.
- Anatomeg, Ffisioleg a Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Ymarfer Corff a Chwaraeon mewn Perthynas â Chlefydau Cronig a Phoblogaethau
- Atal Anafiadau, Adsefydlu a Dychwelyd i Ymarfer Corff
- Anafiadau Chwaraeon Cyffredin ac Ymchwiliadau
- Rheoli a Chynllunio Proses Adsefydlu yn sgil Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Y Tîm Amlddisgyblaethol ym maes Ymarfer Corff a Chwaraeon
- Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
- Prosiect Proffesiynol (10,800 o eiriau)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Gofynion Ychwanegol:
Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Croesewir ceisiadau rhyngwladol:
Rydym yn croesawu ceisiadau rhyngwladol sydd â chymwysterau cyfwerth â’n gofynion mynediad. Am ragor o fanylion yn ymwneud â'ch gwlad breswyl edrychwch ar ein tudalennau gwlad penodol.
Gofynion iaith Saesneg
Mae hyfedredd yn yr Iaith Saesneg hefyd yn hanfodol i gwblhau ein cyrsiau. Os NAD Saesneg yw eich iaith gyntaf, gofynnwn am brawf cymhwysedd yn ystod y broses ymgeisio. Rydym yn gallu derbyn sgôr gyffredinol IELTS o 6.0 (gydag isafswm o 5.5 ar gyfer pob band) neu gymhwyster cyfatebol.
Gellir dod o hyd i gywerthoedd ar ein tudalennau gwlad.
Os ydych wedi astudio trwy gyfrwng y Saesneg o'r blaen efallai na fydd angen IELTS, ewch i'n tudalen gwlad-benodol am ragor o fanylion. Os nad yw eich tudalennau Saesneg yn cael sylw, cysylltwch â ni.
Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf mynediad Saesneg, ewch i'n tudalennau cyrsiau Cyn-Sesiynol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Bydd eich dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i hysgogi gan eich tiwtor yn seiliedig ar sefyllfaoedd achos clinigol.
Byddwch yn ymgymryd â chyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio arfer myfyriol i’ch helpu i ystyried sut y gellir trosi’r hyn rydych yn ei ddysgu ar y cwrs i’ch gwaith ac arfer bob dydd.
Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn ystod yr wyth wythnos gyntaf. Bydd myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).
Unwaith y bydd y cynnig wedi'i gymeradwyo, mae'r prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun wedyn yn cael ei gwblhau drwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein gan y tiwtor.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sport/course-strength-and-conditioning-33872.jpg)
Staff addysgu
Cyfarwyddwr y cwrs yw Dr Gareth Jones.
Ar ôl ennill MSc mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff aeth Dr Jones ymlaen i fod yn arholwr DipSEM. Mae wedi mynychu pedair cystadleuaeth Gemau'r Gymanwlad, y ddwy olaf fel Prif Swyddog Meddygol ac wedi bod yn Feddyg Diwrnod Gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015.
Bydd gennych gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o gymorth i lywio ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a chyrraedd y terfynau amser.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sport/bsc-sport-and-exercise-therapy.png)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna