Manon Van der Haegen

Gwnaeth fy mhrofiad fel dawnswraig fy arwain at Geiropracteg

Ceiropracteg
Students surrounding a Chiropractic table.

Mae'r dull ymarferol, gyda’r myfyrwyr wrth ei galon, wedi bod yn anhygoel.


Dewis astudio Ceiropracteg yn PDC

Fel dawnswraig broffesiynol, roeddwn yn dibynnu'n drwm ar ofal ceiropracteg i aros ar fy ngorau, felly roedd symud i'r maes hwn yn teimlo fel dewis naturiol i fi. Pan ddechreuais chwilio am brifysgolion, daeth PDC i’r brig yn syth. Hyd yn oed yn ystod y diwrnodau agored ar-lein—a gynhaliwyd yn rhithwir yn sgil Covid—roeddwn i'n gallu synhwyro'r awyrgylch cynnes a chroesawgar. Roedd amgylchedd y campws yn apelio ataf hefyd; mae'n gymuned fywiog, gyda myfyrwyr yn ffocws iddo, gyda phopeth o lyfrgell a ffreutur i dafarn a chlwb nos, cartref oddi cartref go iawn. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

DIOLCH I ADDYSGU A CHYFLEUSTERAU EITHRIADOL PDC, RWY'N TEIMLO'N GWBL BAROD I LWYDDO YN YR YRFA WERTH CHWEIL HON.

Manon Vanderhaegen

Myfyriwr Ceiropracteg

Fy mhrofiad fel myfyriwr ac edrych tua’r dyfodol 

Mae cwrs Ceiropracteg PDC wedi rhagori ar fy holl ddisgwyliadau. Mae'r dull ymarferol, gyda’r  myfyrwyr wrth ei galon, wedi bod yn anhygoel, gyda modiwlau'n trafod y cyfan, o anatomeg i adsefydlu a fferylliaeth. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn defnyddio’r cyfleusterau mwyaf cyfoes, fel y bwrdd anatomeg, sy'n ein galluogi i ddelweddu'r corff dynol mewn manylder anhygoel. Mae sesiynau ymarferol ar feinciau ceiropracteg o'r radd flaenaf wedi rhoi hyder i fi i fod yn barod ar gyfer ymarfer clinigol. Wrth i fi symud yn fy mlaen i'r flwyddyn olaf, rwy'n teimlo’n arbennig o gyffrous am y cyfle i weithio'n uniongyrchol gyda chleifion dan fentoriaeth agos yng nghlinig dechnolegol gyfoes newydd PDC. 

Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae arwain y Gymdeithas Ceiropracteg wedi fy ngalluogi i wahodd gweithwyr proffesiynol y diwydiant i rannu mewnwelediadau ar feysydd arbenigol fel chwaraeon a ceiropracteg pediatrig, gan gyfoethogi fy mhrofiad ymhellach.  

Fy nod yn y pen draw yw agor fy nghlinig fy hun, ond yn gyntaf, byddaf yn gweithio i bractis sefydledig i ennill profiad. Diolch i addysgu a chyfleusterau eithriadol PDC, rwy'n teimlo'n gwbl barod i lwyddo yn yr yrfa werth chweil hon. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Ceiropracteg?

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Ceiropracteg sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i rôl yn y diwydiant a bodloni gofynion cofrestru'r DU i ymarfer.