Romesh Dodangoda 

Cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd a enwebwyd ar gyfer Grammy

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Romesh, grammy-nominated producer, stands proudly in front of a mixing board in a music studio

Anrhydedd i mi yw cymeradwy’r radd hon gyda Gwobr Rhagoriaeth Graddedigion Romesh Dodangoda.


Mae PDC yn falch o fod â phartneriaeth mewn diwydiant gyda’r cynhyrchydd, y peiriannydd a’r cymysgydd sydd wedi ei enwebu ar gyfer gwobrau’r Grammy, Romesh Dodangoda, sy’n dod â’i brofiad sylweddol i fyfyrwyr Cerddoriaeth. 

Mae’r BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhaglen ymarferol ac yn brofiad dysgu llwybr carlam, sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr at gyfleusterau stiwdio arloesol PDC ac amgylchedd dysgu cydweithredol. Fe'i cynlluniwyd i feithrin sgiliau'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr mewn diwydiannau creadigol fel cerddoriaeth, ffilm, teledu, a sain ar gyfer gemau. 

Bydd Romesh, sydd wedi gweithio gyda llu o artistiaid gan gynnwys Motorhead, Bring Me The Horizon a Funeral for a Friend, yn dod â'i wybodaeth arbenigol i'r cwrs newydd drwy gyfres o friffiau pwrpasol, dosbarthiadau meistr a Gwobr Rhagoriaeth Graddedigion Romesh Dodangoda, a fydd bob blwyddyn yn dathlu gwaith prosiect lefel 6. Bydd y wobr yn gydnabyddiaeth bwysig o’r gwaith, a hefyd yn cynnig interniaeth gyda Stiwdio Recordio Long Wave Romesh lle mae llawer o ddarnau poblogaidd wedi cael eu recordio.   

Dywedodd Romesh Dodangoda: "Mae’r cwrs BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhaglen gyffrous newydd a ddatblygwyd gan PDC i ddarparu profiad dysgu llwybr carlam i fyd proffesiynol cynhyrchu cerddoriaeth greadigol. Rwyf wedi curadu cyfres o ddosbarthiadau meistr gyda thîm y cwrs a fydd yn datblygu'r sgiliau perthnasol sydd eu hangen yn y diwydiant heddiw ac mae'n anrhydedd cael cefnogi’r radd hon gyda Gwobr Rhagoriaeth Graddedigion Romesh Dodangoda." 

Dywedodd Lucy Squire, Rheolwr Academaidd Cerddoriaeth a Sain: "Bydd y bartneriaeth rhwng yr Ysgol a Romesh Dodangoda a’r Wobr i Raddedigion yn darparu arbenigedd arloesol yn ogystal â chyfleoedd i feithrin cydweithio proffesiynol o fewn rhaglen y Radd Cynhyrchu Cerddoriaeth newydd. Ein gallu i ddarparu addysg alwedigaethol ragorol yw'r hyn sy'n gosod PDC ar wahân yn y farchnad." 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.