James O’Neill

Gweithio ar un o'r gwyliau cerddoriaeth rhyngwladol mwyaf llwyddiannus

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Music graduate, James, looks directly at camera whilst having his photo taken against a white wooden wall

Mae’r cwrs wedi rhoi cipolwg i mi ar y diwydiant na fyddwn i erioed wedi’i gael fel rhywun o’r cymoedd sy’n dyheu am fod yn seren roc.


Gwneud y gorau o gyfleoedd

Mae James O’Neill, a raddiodd mewn Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol, eisoes yn gweithio ar Ŵyl Jazz Aberhonddu – un o’r gwyliau cerddoriaeth rhyngwladol mwyaf llwyddiannus a gynhelir yng Nghymru. 

Llwyddodd James, sy’n hanu o Bont-y-pŵl ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, i gael interniaeth gyda’r ŵyl pan oedd ar fin gorffen ei astudiaethau. 

Yn gynharach y flwyddyn honno, roedd yn rhan o’r tîm trefnu ar gyfer Gŵyl Immersed!, digwyddiad blynyddol PDC a gynhelir gan fyfyrwyr Cerddoriaeth. Cynhaliwyd yr ŵyl fel profiad amlgyfrwng ar-lein, gan arddangos talent leol a chodi arian i’r Teenage Cancer Trust ar yr un pryd. 

Yn dilyn llwyddiant Immersed!, neidiodd James at y cyfle i helpu curaduron Gŵyl Jazz Aberhonddu gyda’r digwyddiad. 

Ers dechrau yn y swydd, mae wedi cael profiad yn y maes cyfathrebu ac yn asesu galluoedd technolegol lleoliadau o ystyried y cyfyngiadau presennol, a bydd hefyd yn ymwneud ag ochr gynhyrchu’r digwyddiad, gan gynnwys perfformiadau byw, rheolaeth dechnegol ac ôl-gynhyrchu. 

“Mae bod yn rhan o’r Ŵyl wedi bod yn brofiad gwych, gan ei fod yn ddigwyddiad mor enwog,” meddai James, sydd hefyd yn perfformio fel cerddor yn ei amser hamdden. 

“Mae’r cwrs gradd wedi rhoi cipolwg i mi ar y diwydiant na fyddwn i erioed wedi’i gael fel rhywun o’r cymoedd sy’n dyheu am fod yn seren roc. Rwyf wedi dysgu llawer am wahanol feysydd o gyfraith cerddoriaeth; sut i ddatblygu gyrfa portffolio gynaliadwy, a llu o sgiliau gwahanol sy’n berthnasol i wahanol sectorau o’r diwydiant - o berfformio i gynhyrchu, cyfansoddi caneuon i fusnes, rheoli digwyddiadau, a phopeth yn y canol.” 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

MAE’R CWRS YN CYNNIG CYMYSGEDD GWYCH O GYFLEOEDD DYSGU A MODIWLAU AMRYWIOL, AC MAE CYFLEUSTERAU PDC YN NEWYDD SBON AC YN CYD-FYND Â’R HYN SY’N SAFONOL YN Y DIWYDIANT.

James O’Neill

Graddedig Cerddoriaeth

Dewis astudio Cerddoriaeth yn PDC 

Dywedodd James mai PDC oedd y dewis amlwg iddo ar gyfer astudio Cerddoriaeth: “Mae’r cwrs yn cynnig cymysgedd gwych o gyfleoedd dysgu a modiwlau amrywiol, ac mae cyfleusterau PDC yn newydd sbon ac yn cyd-fynd â’r hyn sy’n safonol yn y diwydiant. Roedd hefyd yn golygu y byddai gennyf gysylltiadau â lleoliadau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ac rwyf wrth fy modd â’r ddinas gyfan, felly manteisiais ar y cyfle i symud yma. 

“Pan oeddwn i’n astudio TGAU, doeddwn i ddim yn gallu penderfynu rhwng Cerddoriaeth a Mathemateg. Er bod Mathemateg yn dod yn naturiol i mi, roeddwn yn gwybod o oedran ifanc fy mod eisiau bod yn athro, felly gradd oedd cam naturiol nesaf. Yna, pan oeddwn i’n gweithio tuag at fy Lefel A Mathemateg, sylweddolais fod gen i lawer mwy o ddiddordeb mewn Cerddoriaeth na Mathemateg, ac mai’r rheswm bod theori Cerddoriaeth o ddiddordeb i mi oedd oherwydd ei fod mor fathemategol— rwy’n dda am gysylltu’r ddau beth.” 

Ar hyn o bryd mae James yn gweithio ar brosiectau cerddorol amrywiol ac yn cymryd blwyddyn i ffwrdd o astudio i ganolbwyntio ar ei yrfa yn y byd Cerddoriaeth. Yna mae'n gobeithio gwneud cais am TAR i wireddu ei freuddwyd o ddod yn athro. 

O ran cyngor i ddarpar gerddorion, dywedodd: “Gwnewch ymdrech i ddod i adnabod pobl - ewch i gigs, siaradwch â phobl, gwnewch gysylltiadau, a gwnewch eich hun yn ddefnyddiol. Mae'n un peth i fod yn gwrtais a chymwynasgar, ond os ydych chi'n berson hanfodol a bod pobl yn eich cofio chi, fe ddônt yn ôl eto. Gofynnwch i bobl a oes angen unrhyw help arnyn nhw, dysgwch gan y rhai sydd â mwy o brofiad na chi, ac, yn bwysicaf oll, peidiwch byth â thybio eich bod chi'n gwybod mwy na neb arall. Gallwch ddysgu drwy’r amser - boed hynny'n ddarganfod sut i wneud rhywbeth neu sut i beidio â gwneud rhywbeth. Dylech barhau i ddysgu gan bawb y gallwch, a dylech weithio'n galed.” 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.