Liuh Min Wong
Fe wnaeth y sgiliau cynhyrchu a ddysgais fy ngalluogi i archwilio fy nghreadigrwydd
Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Fe wnaeth yr anogaeth gan y darlithwyr ar y cwrs roi hwb i fy hyder a chaniatáu i mi fynegi fy meddyliau a’m syniadau.
Datblygu sgiliau a magu hyder
Cyflwynwyd y wobr am y Cyfansoddwr Gorau yng ngwobrau It’s My Shout a Universal Music i Liuh Min Wong, myfyriwr graddedig MSc mewn Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth sy’n gweithio o dan yr enw Min.
Roedd yna gyfnod byr pan oeddwn i’n brin o hyder a doeddwn i ddim yn meddwl bod fy ngherddoriaeth yn ddigon da, felly roedd ennill y wobr cyfansoddwr gorau yn deimlad gwych.
Roedd y sgiliau cynhyrchu a ddysgais yn ystod y cwrs wedi fy ngalluogi i archwilio ac ehangu fy nghreadigrwydd.
Er enghraifft, rydw i wedi dysgu bod yn fwy arbrofol wrth ddylunio patsh cerddoriaeth drwy ddefnyddio gwahanol ategion. Ar y llaw arall, mae sain trochi - a elwir hefyd yn sain 360 - wedi agor byd hollol newydd i mi.
Roedd gallu arbrofi o fewn maes sain 360 yn rhoi cyfle i mi chwarae gyda sain a chreadigrwydd.
Fe wnaeth astudio ar gyfer yr MSc mewn Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth hefyd fy nghyflwyno i fyd sain gemau.
Drwy ddod i adnabod y datblygwyr gemau talentog a oedd yn dilyn y cwrs meistr Menter Gemau, cefais y cyfle i mi gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer gemau amrywiol.
Ynghyd â fy mhartner ysgrifennu cerddoriaeth, Hui, bûm yn cydweithio â Mochi Mode Ltd ar y gêm Moo Moo Move, a ryddhawyd ym mis Hydref 2019.
Dewch o hyd i'ch cwrsMyfyrio ar y cwrs a bywyd fel myfyriwr
Ar y cyfan, mae astudio yn PDC wedi bod yn agoriad llygad.
Fe wnes i ddod i PDC o Asia, sy'n lle eithaf ceidwadol - hyd yn oed o ran cerddoriaeth!
Fe wnaeth yr anogaeth gan y darlithwyr ar y cwrs roi hwb i fy hyder a chaniatáu i mi fynegi fy meddyliau a’m syniadau.
Mae’r darlithwyr yn feddwl agored ac yn gefnogol iawn, sy'n rhywbeth yr oeddwn i'n ei hoffi’n fawr am fy amser yn PDC.
Er mwyn llwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth, mae angen i chi weithio'n galed, aros yn ddiymhongar, a mabwysiadu agwedd dda.
Mae’n bwysig gwrando ar adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, a dysgu ohono.
Rhaid i chi barhau i ddysgu. Mae technoleg yn symud yn gyflym, ac felly hefyd y diwydiant cerddoriaeth.
O ran y dyfodol, rwy'n gobeithio ysgrifennu cerddoriaeth newydd sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl ledled y byd.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.