Charlotte Brownhill

Mae'r cwrs wedi helpu i gynyddu fy ngwybodaeth ac i gysylltu â diwydiant

Ffilm a'r Cyfryngau
Charlotte smiles for a photo in front of an art exhibition

Erbyn hyn, mae profiad yn hanfodol wrth gystadlu am swyddi - mae'n gwneud i ddarpar gyflogwyr dalu mwy o sylw i chi.


Dysgu ymarferol drwy leoliadau gwaith 

Mae Charlotte Brownhill yn fyfyrwraig BA (Anrh) Y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth yn ei hail flwyddyn. 
 
"Rwyf wir wedi mwynhau'r cwrs. Rwyf wedi dysgu gwahanol ffyrdd o ymchwilio, ac wedi  ennill gwybodaeth newydd am ffilm. Rwyf wedi dod i sylweddoli mor bwysig mae’r cyfryngau cymdeithasol yn newyddiaduraeth y byd digidol sydd ohoni ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli i ysgrifennu blog hyd yn oed! 
 
Yn ystod y misoedd nesaf byddaf yn mynd ar leoliad gwaith gyda Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd drwy Ganolfan Ffilm Cymru y mae gan y Brifysgol berthynas dda â hi. Byddaf yn gweithio gyda'r tîm Marchnata ar eu hymgyrch marchnata sinema. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennu datganiadau i'r wasg. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

RWYF WIR WEDI MWYNHAU'R CWRS. RWYF WEDI DYSGU GWAHANOL FFYRDD O YMCHWILIO, AC WEDI  ENNILL GWYBODAETH NEWYDD AM FFILM.

Charlotte Brownhill

Myfyriwr Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth

Teimladau am y cwrs ac edrych tua'r dyfodol 

Bydd y profiad gwaith yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy astudiaethau ac ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Erbyn hyn, mae profiad yn hanfodol wrth gystadlu am swyddi - mae'n gwneud i ddarpar gyflogwyr dalu mwy o sylw i chi. Mae hefyd yn rhoi hwb i'ch hyder ac yn rhoi ymdeimlad i chi o sut mae cwmnïau’n gweithio yn y byd go iawn. Bydd hefyd yn rhoi profiad o faes y sinema a gofynion cynulleidfaoedd sy'n wych ar gyfer fy astudiaethau y mae prosiectau ymchwil yn rhan ohonyn nhw. 
 
Ar ôl graddio, fy mwriad yw dechrau gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Hoffwn fynd i'r celfyddydau, efallai’n gysylltiedig ag oriel gelf neu sinema."

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Ffilm a'r Cyfryngau?

Mae'r cyfryngau o'n cwmpas, o ffilmiau mawr a darlledu teledu i gyfryngau cymdeithasol a chrewyr cynnwys. Mae'r gweithwyr proffesiynol y tu ôl iddynt yn llunio'r straeon a welwn a sut rydym yn deall y byd.