Seren Nelson

Fy ngyrfa ddelfrydol yn y Cyfryngau Chwaraeon

Ffilm a'r Cyfryngau
Sports Journalism student, Seren, poses for a photo with a laptop in front of her. She is sat in a room overlooking the football pitch

Mae lleoliadau chwaraeon a stadiwms Caerdydd i gyd gerllaw, sy’n ei gwneud hi'n hawdd cael profiadau gwych yn y byd go iawn.


Gwneud y naid i newyddiaduraeth yn PDC 

Doedd mynd i’r brifysgol ddim yn rhan o fy nghynllun yn wreiddiol, ond pan ddes i ar draws cwrs Newyddiaduraeth Chwaraeon yn PDC, roedd yn teimlo fel petai’n gweddu’n berffaith i fi. Rwyf wedi dwlu ar chwaraeon ers pan o’n i'n blentyn, ac roedd gan aelodau o fy nheulu gefndir ar gampysau Caerdydd a Phontypridd PDC. Dyma ddod i sylweddoli mai dyma’r lle perffaith i ddechrau fy nhaith yrfa. 

Mae astudio yma wedi dod â chyfleoedd anhygoel, o adrodd ar gemau’r Chwe Gwlad yn safle’r wasg gyda Rygbi Cymru i weithio gyda chriw rygbi cadair olwyn Tîm GB. Mae lleoliadau chwaraeon a stadiwms Caerdydd i gyd gerllaw, sy’n ei gwneud hi'n hawdd cael profiadau gwych yn y byd go iawn a dod â fy astudiaethau yn fyw. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

RWY'N DYSGU MEWN FFORDD GWBL YMARFEROL GYDA CHAMERÂU, YN CYNHYRCHU PODLEDIADAU WYTHNOSOL, A THREFNU DIGWYDDIADAU MEDDIANNU’R LLWYFANNAU CYMDEITHASOL.

Seren Nelson

Myfyriwr Newyddiaduraeth Chwaraeon

Profiad ymarferol ac uchelgeisiau mawr 

Mae fy nghefndir mewn teledu a ffilm yn y coleg wedi rhoi sylfaen gadarn i mi, ond mae bod yma wedi mynd â fy sgiliau i lefel gwbl newydd. Rwy'n dysgu mewn ffordd gwbl ymarferol gyda chamerâu, yn cynhyrchu podlediadau wythnosol, a threfnu digwyddiadau meddiannu’r llwyfannau cymdeithasol, sydd wedi fy helpu i fagu hyder o flaen a’r tu ôl i'r camera. 

Ar ben hynny, rwyf wedi datblygu sgiliau gydag Adobe Premiere Pro ac Audition, offer oedd yn codi ofn arna i gynt ond sy’n gwbl gyfarwydd a chyfforddus i’w defnyddio erbyn hyn i greu cynnwys o ansawdd proffesiynol. Byddwn i wrth fy modd yn dechrau fy ngyrfa yn y cyfryngau rygbi, yn adrodd ar y diweddaraf ac yn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer timau. Fy mreuddwyd yn y pen draw yw gweithio ym maes Formula One, lle gallaf gyfuno fy angerdd dros  chwaraeon a fy nghariad at deithio, ac adrodd ar ddigwyddiadau ledled y byd. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Ffilm a'r Cyfryngau?

Mae'r cyfryngau o'n cwmpas, o ffilmiau mawr a darlledu teledu i gyfryngau cymdeithasol a chrewyr cynnwys. Mae'r gweithwyr proffesiynol y tu ôl iddynt yn llunio'r straeon a welwn a sut rydym yn deall y byd.