Sam Kwan

Diogel, cefnogol ac ysbrydoledig - fy mlwyddyn gyntaf yn astudio Celf Gêm ym MhDC

Animeiddio a Gemau
Sam Kwan smiling off camera

"Mae'r modelu 3D wedi bod fy hoff ran o'r cwrs hyd yn hyn... Rwy'n teimlo taw y canlyniad terfynol fydd yn debygol o fod y rhan orau."


Yn wreiddiol, roeddwn i'n mynd i astudio pwnc mwy 'traddodiadol' fel y gyfraith, ond yna yn y coleg penderfynais fy mod i wir eisiau mynd i'r diwydiant celf. Rydw i wedi mwynhau chwarae gemau fideo ers tro, felly penderfynais beth am astudio pwnc yr wyf yn ei hoffi mewn gwirionedd? Fy hoff gemau yw Overwatch a Genshin Impact – gemau gyda mecanwaith, anturiaethau person cyntaf a thrydydd person a brwydrau.

Bywyd ym MhDC 

Dewisais astudio ym MhDC oherwydd mai dyma'r brifysgol orau y gallwn ddod o hyd iddi yn lleol. Doeddwn i ddim eisiau bod yn rhy bell i ffwrdd o gartref ac mae'r adolygiadau myfyrwyr yma yn dda iawn. Cefais adolygiad portffolio gyda Gina arweinydd y cwrs, a oedd yn anhygoel. Dywedodd bod fy ngwaith yn wych - roeddwn i'n hapus dros ben gyda hynny! Fe wnes i hefyd sesiwn flasu - sesiwn arlunio gyda Gina a'r grŵp cyfan a oedd yn ddiddorol. 

Roedd mynychu'r diwrnod hwnnw yn gwneud i mi deimlo'n fwy hyderus ac roedd yr athrawon yn neis iawn - roedd hynny'n bendant yn rhywbeth wnaeth werthu y cwrs i mi. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

RWYF HEFYD WEDI GWEITHIO GYDA MYFYRWYR ERAILL AR Y CWRS SYDD WEDI BOD YN BROFIAD GWERTH CHWEIL IAWN. MAE PAWB YN FY NGRŴP WEDI BOD YN NEIS IAWN AC RYDYN NI'N HELPU EIN GILYDD.

Sam Kwan

Myfyriwr Celf Gêm

Gwneud ffrindiau a dysgu sgiliau newydd 

Mae'r amgylchedd ym MhDC wedi bod yn wych. A dweud y gwir, roeddwn i'n eithaf nerfus i gwrdd â phobl newydd ac i fod mewn amgylchedd newydd, felly roeddwn i'n eithaf falch o ddod o hyd i bobl y gallwn siarad â nhw'n gyfforddus. Mae'r llyfrgell, yr athrawon a'r gefnogaeth rydw i wedi bod yn ei gael wedi bod yn wych hefyd. 

Rwyf hefyd wedi gweithio gyda myfyrwyr eraill ar y cwrs sydd wedi bod yn brofiad gwerth chweil iawn. Mae pawb yn fy ngrŵp wedi bod yn neis iawn ac rydyn ni'n helpu ein gilydd. 

Y modelu 3D yw fy hoff ran o'r cwrs hyd yn hyn. Rydyn ni'n dod at ddiwedd yr uned honno nawr ac rwy'n teimlo taw y canlyniad terfynol fydd y rhan orau. 

Rydym hefyd wedi cael y cyfle i brofi'r ddinas, cerdded i lefydd fel Bae Caerdydd a gwneud darluniau persbectif o adeiladau. 

Er mai dyma'r flwyddyn gyntaf, rwy'n gobeithio ceisio dod o hyd i brofiad gwaith neu brentisiaeth rhwng Mai a Medi, felly rwy'n meddwl gofyn i'n nhiwtoriaid os oes unrhyw gyfleoedd dros yr haf.

Fy nghyngor i bobl sy'n meddwl am astudio'r cwrs hwn yw: os ydych chi'n hoffi gemau, ewch amdani! Ac os nad ydych chi'n ei hoffi, gallwch chi bob amser gyfnewid cyrsiau oherwydd bod tebygrwydd â phynciau celf eraill fel Darlunio ac Animeiddio. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?

Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.