Gwerth Profiad Gofal
Rydym yn cydnabod gwerth profiad gofal. Gall fod yn sylfaen gref i'ch llwyddiant ar ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'ch helpu i ffynnu yn eich gyrfa ddewisol.
Gofal Iechyd Cyngor CaisMae Gwerth Profiad Gofal yn rhoi’r cyfle i gael profiad gofal, yn cynnig cymorth i’ch helpu i wneud i’ch profiadau presennol neu newydd gyfrif yn eich cais Prifysgol, a symud ymlaen ar eich taith i ddod yn weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol cymwys.
Rydym wedi sefydlu partneriaethau gyda darparwyr gofal cymdeithasol blaenllaw ar draws De Cymru i alluogi darpar fyfyrwyr i gael y buddion canlynol:
Cefnogaeth i gael profiadau cyflogedig o ddarparu gofal
Mynediad i ystod o adnoddau cefnogi i wella eich profiad gofal
Cyngor ac arweiniad arbenigol gan staff cymwys yn y proffesiwn
Help i ddeall sut i fyfyrio ar eich profiadau yn eich cais prifysgol
Cyfle am gyflogaeth barhaus yn ystod eich cwrs a thu hwnt.
Sut mae hyn yn gweithio?
Mae profiad gofal presennol yn cyfeirio at y rhai sydd eisoes wedi cael profiad mewn rôl ofalu. Gallai hyn fod trwy wirfoddoli, lleoliadau gwaith, gofalu am rywun yn eich bywyd personol neu gyfuniad o'r rhain. Pan fyddwn yn dweud ‘profiad’ rydym yn golygu’r cyfle i ddarparu gwahanol fathau o ofal, i wahanol fathau o bobl. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu mewnwelediad i ‘ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’.
Defnyddio profiad i gryfhau eich cais:
Pan fyddwch chi'n gwneud cais i'ch cwrs dewisol, mae'n bwysig eich bod chi'n darparu gwybodaeth o ansawdd da, ynghyd ag enghreifftiau ategol, o sut rydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad yn eich datganiad personol, gan nodi'r sgiliau, ymddygiad, rhinweddau a gwerthoedd perthnasol a ddangoswyd gennych yn eich rôl gofalu. Bydd hyn yn helpu i gryfhau eich cais, gan ei wneud y gorau y gall fod.
Er mwyn eich helpu i gyflawni hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn ein canllawiau tri cham ar gyfer ysgrifennu eich datganiad personol:
1. Cyfeiriwch at a disgrifiwch y gweithgaredd neu'r profiad.
Beth wnaethoch chi, ei gyflawni neu ei brofi?
2. Eglurwch sut roedd hyn o fudd i chi.
Pa sgiliau wnaethoch chi eu datblygu? Beth ddysgoch chi?
3. Sut mae hyn yn berthnasol i'r cwrs yr ydych yn gwneud cais amdano?
Sut y gellir cymhwyso hyn i'ch dewis broffesiwn gofal iechyd?
Mae hefyd yn bwysig meddwl am y berthynas rhwng eich sgiliau a’ch profiadau ac adlewyrchu gwerthoedd craidd y GIG. Gall eich profiad o ofal fod yn ffynhonnell wych o fewnwelediad i'ch gwerthoedd a sut rydych chi wedi'u harddangos.
I'r rhai heb unrhyw brofiad gofal, gallwn eich cefnogi i sicrhau gwaith cyflogedig o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithio ym maes gofal yn brofiad hynod werth chweil a bydd yn rhoi’r blaen i chi ar eich taith yn y brifysgol. Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau sy’n cynnig ystod o gyfleoedd sydd wedi’u teilwra’n arbennig i fyfyrwyr, sy’n golygu y gallwch weithio’n hyblyg o amgylch eich astudiaethau ac ymrwymiadau eraill tra’n cael eich mentora a’ch cefnogi gan weithwyr proffesiynol.
Sefydliadau Partner:
- Mae My Care Mae Home yn asiantaeth gofal cartref sy'n darparu gofal yn y gymuned. Fel rhan o'r fenter Gwerth Profiad Gofal, maent yn cynnig gwaith cyflogedig fel Gweithiwr Cefnogi Cymunedol. Gallwch weithio'n hyblyg o amgylch eich ymrwymiadau tra'n cael eich mentora a'ch cefnogi gan weithwyr proffesiynol i gael profiad gwerthfawr o ofal uniongyrchol.
- Wedi'i sefydlu yn 2001, mae Radis yn ddarparwr gofal cymdeithasol a chymorth yn y gymuned, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Prifysgol De Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda Radis i gwblhau trefniadau a chyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr gael profiad gofal.
- Mae Shaw Healthcare yn darparu sbectrwm eang o ofal sy'n amrywio o ofal preswyl yr henoed a dementia i arbenigeddau gofal cymhleth fel Iechyd Meddwl ac Anafiadau Caffaeledig i'r Ymennydd. Mae Prifysgol De Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda Radis i gwblhau trefniadau a chyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr gael profiad gofal.
Gall gweithwyr gofal gael eu lleoli mewn gwahanol leoliadau gan gynnwys cartrefi gofal, cartrefi unigolion eu hunain ac allan yn y gymuned. Efallai y byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl gan gynnwys oedolion â chyflyrau iechyd meddwl, dibyniaeth ar sylweddau ac alcohol, anableddau corfforol, anableddau dysgu a'r henoed.
Yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, mae angen i chi fod:
- Wedi'ch ysgogi i helpu eraill
- Yn gallu cymryd cyfrifoldeb
- Yn weithiwr tîm
- Yn dda am wrando
- Yn cyfathrebwr da
- Yn gallu dal ati i ddysgu
- Yn meddu ar agwedd gadarnhaol
- Yn ddibynadwy
Mae dilyn cyfle i weithio ym maes gofal nid yn unig yn gwella'r sgiliau hyn, ond hefyd yn cyfrannu at ddatblygu eich hyder fel ymgeisydd, myfyriwr ac ymarferwr.