Ella Mugford

Cymuned gefnogol ym maes Gwyddor Fiofeddygol

Gwyddoniaeth
A biological science student wearing a white lab coat, smiling at the camera in a bright, modern laboratory filled with scientific equipment and models.

Mae’r cyfleusterau yn PDC yn rhagorol. O’r argraffydd biolegol 3D yn y labordai i’r modelau anatomegol manwl.


Profiad myfyrwyr cefnogol a diddorol yn PDC

Mae astudio Gwyddor Biofeddygol ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn brofiad anhygoel, yn enwedig oherwydd yr amgylchedd clos a chefnogol. Ymhlith uchafbwyntiau’r cwrs mae’r modiwlau ymarferol, fel patholeg gellog, anatomeg a fferylliaeth. Mae’r modiwlau hyn yn cydblethu, gan roi cyfle i ni weithio mewn timau i ddadansoddi astudiaethau achos ac adnabod sefyllfaoedd cleifion. Mae’n ddull gysgu deinamig ac ymarferol sydd wir wedi atgyfnerthu fy nealltwriaeth o systemau cymhleth y corff a’r afiechydon sy’n effeithio arnynt.  

Mae’r cyfleusterau yn PDC o’r radd flaenaf. O’r argraffydd biolegol 3D yn y labordai i fodelau anatomegol manwl, mae digon o adnoddau i gefnogi ein hastudiaethau. Mae’r offer hyn yn gwneud dysgu’n fwy rhyngweithiol a diddorol, gan ein galluogi i weld cysyniadau mewn ffordd na all llyfr testun na ffynhonnell ar-lein ei gyfateb. Mae’r labordai wedi’u cyfarparu’n dda, ac mae’r darlithwyr yn mynd gam ymhellach i sicrhau ein bod ni’n cael y gorau ohonyn nhw. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE’R DARLITHWYR YN EIN HADNABOD WRTH ENW AC YN WASTAD YN BAROD I ATEB CWESTIYNAU NEU GYNNIG CYMORTH.

Ella Mugford

Myfyriwr Gwyddor Fiofeddygol

testimony-cutout-ella-mugford.png

Wedi’i pharatoi ar gyfer dyfodol ym maes ymchwil

Mae’r cysylltiadau personol yn PDC wedi bod yn drobwynt go iawn. Mae’r darlithwyr yn ein hadnabod wrth enw ac yn barod bob amser i ateb cwestiynau neu gynnig cymorth, sy’n creu ymdeimlad o berthyn. Mae’r dosbarthiadau llai yn golygu nad wyf erioed wedi teimlo’n anweladwy, ac mae’r ymdeimlad o gymuned yn ymestyn y tu hwnt i’r academaidd, gyda digon o gymdeithasau, digwyddiadau a chyfleoedd i gwrdd â phobl.

Wrth edrych ymlaen, rwy’n gyffrous am gyfleoedd fel prosiect ymchwil ar sail Niwrowyddoniaeth ar gyfer fy nhraethawd hir, ac efallai dilyn gradd Meistr neu PhD. Mae fy amser yn PDC wedi fy mharatoi gyda’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gymryd y cam nesaf. 

Ymchwil flaenllaw yn y byd gan PDC

Diddordeb mewn Gwyddoniaeth?

Archwiliwch ein hystod amrywiol o raddau gwyddoniaeth o Wyddorau Biolegol a Fforensig i Wyddorau Fferyllol, a chymerwch eich cam cyntaf tuag at yrfa mewn Meddygaeth gyda’n cwrs Gwyddorau Meddygol arloesol.