Gwaith Cymdeithasol ac Addysg Ymarfer
Mae'r dyfarniad ‘Gwaith Cymdeithasol ac Addysg Ymarfer' ar gyfer ymarferwyr sydd â diddordeb mewn bod yn Addysgwr Ymarfer (newid mewn 'teitl' yng Nghymru o 'asesydd' i 'addysgwr' ers 2020).
Mae rôl yr Addysgwr Ymarfer yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar leoliad gwaith, ar lefel 5 (blwyddyn 2) a lefel 6 (blwyddyn 3).
Mae gan Addysgwyr Ymarfer rôl hanfodol i'w chwarae yn natblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol. Ymhellach, mae Addysgwyr Ymarfer yn cyfrannu at ddysgu a datblygu, myfyrio a thwf myfyrwyr ar leoliad gwaith.
Mae gan y 'Dyfarniad Gwaith Cymdeithasol ac Addysg Ymarfer' enw da proffesiynol cryf a phartneriaeth agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cynnig y dyfarniad ar lefel 6 a lefel 7 (Meistr).
Gwybodaeth Allweddol
Adran: Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg
Hyd y Cwrs: Chwe diwrnod o sesiynau wyneb yn wyneb ar y campws.
Cost y Cwrs: £745 fesul ymgeisydd
E-bost: [email protected]
Mwy am y Cwrs
Bydd y modiwl yn galluogi gweithwyr cymdeithasol cymwys i ddadansoddi a gwerthuso eu gallu i asesu, goruchwylio ac addysgu myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ymarferol.
Byddwch yn:
- Myfyrio ar egwyddorion a gwerthoedd gwaith cymdeithasol i wella datblygiad myfyrwyr.
- Cael eu haddysgu i asesu a goruchwylio myfyrwyr gwaith cymdeithasol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau proffesiynol gan gyfeirio at ymchwil gyfredol.
- Cael eich arsylwi gan Oruchwyliwr Ymarfer cymwys ar ddau achlysur tra'n goruchwylio myfyriwr gwaith cymdeithasol.
- Dangos eu gallu i integreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol trwy gydol y broses o oruchwylio ac asesu myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o ddysgu oedolion a'r defnydd o theori mewn ymarfer yn cael eu haddysgu a'u dadansoddi drwy gydol y modiwl.
Bydd tystiolaeth o'r Cod Ymarfer Proffesiynol a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a ragnodir gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn cael eu hintegreiddio drwy gydol addysg ymarfer, asesu a goruchwylio myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Bydd y sgiliau a'r wybodaeth a enillir yn drosglwyddadwy i leoliadau gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol mwy amrywiol. Bydd safbwyntiau unigolion, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu hymgorffori gan yr ymgeisydd.
Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith grŵp, arsylwadau uniongyrchol, goruchwyliaeth, Blackboard (Uni Learn), dysgu cyfunol a chwarae rôl.
Gofynion Asesu:
Asesiad Ffurfiannol
2 arsylwad uniongyrchol o oruchwyliaeth yr ymgeisydd o'r myfyriwr; adborth ysgrifenedig a llafar gan y Goruchwyliwr a nodiadau ysgrifenedig (a ddarperir gan y Goruchwyliwr Practis) o 3 sesiwn goruchwylio gyda Goruchwyliwr.
Asesiad Crynodol
Bydd yr ymgeisydd yn llunio portffolio o dystiolaeth a fydd yn dangos ei ddatblygiad fel Addysgwr Ymarfer i gynnwys tystiolaeth o Safon 1, 2 a 6 NOS (2017).
Aseiniad adfyfyriol beirniadol ar brofiad yr ymgeisydd o fod yn Addysgwr Ymarfer i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. (4000 o eiriau)
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cynnig y dyfarniad ar lefel 6 a lefel 7 (Meistr). Y dyfarniad yw 30 Credyd Academaidd. Addysgir y modiwl ar y campws dros 6 diwrnod fel a ganlyn:
- Diwrnod 1 Cyflwyniad i fodiwl a 'rôl' yr Addysgwr Ymarfer
- Diwrnod 2 Sgiliau goruchwylio, adborth a gwytnwch
- Diwrnod 3 Dulliau asesu
- Diwrnod 4 Cymhwyso theori a gwybodaeth i ymarfer
- Diwrnod 5 Rheoli anawsterau
- Diwrnod 6 Cynllunio ac adroddiad terfynol
Mae pob diwrnod fel arfer o 10:00 i 16:00.
- Dwy flynedd o brofiad ar ôl cofrestru fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig.
- Wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.