Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
Mae'r Rhaglen Gadarnhau yn rhaglen a reoleiddir yn broffesiynol ac mae'n rhan o’r fframwaith Y Tair Blynedd Gyntaf o Ymarfer ar gyfer pob gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Mae'r canllawiau ar gyfer y cyfnod hwn wedi'u hamlinellu yn nogfen Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) (2019) o’r enw 'Y tair blynedd gyntaf o ymarfer Fframwaith ar gyfer sefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso'.
Mae'r Rhaglen Gadarnhau wedi'i hanelu at weithwyr cymdeithasol cofrestredig sydd newydd gymhwyso ac mae'n rhaid ei chynnal yn ystod tair blynedd gyntaf eu cofrestriad, wrth iddynt ymarfer fel gweithiwr cymdeithasol. Mae'r rolau hyn yn cynnwys cyflawni tasgau gwaith cymdeithasol sy'n defnyddio’r wybodaeth a'r sgiliau sydd wedi’u cynnwys yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Fel arfer, cynhelir y Rhaglen Gadarnhau yn ail neu drydedd flwyddyn unigolyn o ymarfer gwaith cymdeithasol, cyn i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso adnewyddu eu cofrestriad. Bydd hyn yn adeiladu ac yn ategu datblygiad gweithwyr cymdeithasol yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer. Gall gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso gofrestru ar y rhaglen unwaith y bydd eu rheolwr neu gyflogwr yn hapus eu bod wedi cwblhau eu blwyddyn gyntaf o ymarfer a/neu sefydlu yn llwyddiannus a’u bod yn barod i symud ymlaen i'r Rhaglen Gadarnhau (GCC, 2023).
Mae'r Rhaglen yn adeiladu ar y dysgu a wneir o fewn y rhaglen gymhwyso ac yn canolbwyntio ar ymgorffori gwybodaeth a sgiliau proffesiynol craidd o fewn ymarfer. Nod y Rhaglen yw cefnogi gweithwyr cymdeithasol wrth iddynt bontio o fod yn ymarferydd graddedig i ymarferydd cymwys (GCC, 2023).
Mae'r Rhaglen Gadarnhau yn sefydlu diwylliant â disgwyliad o ddysgu a datblygu gydol gyrfa ar gyfer y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd, wrth iddynt drosglwyddo o fod yn fyfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwybodaeth a sgiliau proffesiynol craidd yn ymarferol ac ymgymryd â gwaith mwy cymhleth mewn meysydd arbenigol. Mae'r Rhaglen Gadarnhau yn hwyluso dysgu a datblygu yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn (GCC, 2023).
Mae'r rhaglen yn adlewyrchu ymchwil, deddfwriaeth a pholisi cyfredol ac yn ymgorffori'r cyd-destun yng Nghymru sy'n cynnwys iaith, diwylliant, daearyddiaeth a deddfwriaeth Cymru. Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (2017) a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (2012) perthnasol yn sail i'r dysgu. Amlygir cyd-destun rhyngbroffesiynol ymarfer Gwaith Cymdeithasol. Mae safbwyntiau unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr yn gyffredin drwy gydol y broses o reoli, darparu a datblygu'r modiwl.
Gwybodaeth Allweddol am y Cwrs
Campws: Trefforest
Hyd y Cwrs: Tri diwrnod a hanner a addysgir
Cost y Cwrs: £550
Dyddiadau Dechrau: Mae'r carfannau nesaf yn dechrau ym mis Tachwedd 24 a mis Ionawr 2025
Ar gyfer dyddiadau dechrau’r cyrsiau ac unrhyw ymholiadau, cysylltwch â [email protected] (Arweinydd y Modiwl).
Mwy am y cwrs
Mae'r Rhaglen Gadarnhau yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, gyda phwyslais arbennig ar y trydydd maes:
- Cymhwyso dadansoddiad mewn asesiad i lywio ymyriadau.
- Gweithio ar y cyd ag unigolion sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Ymyrryd a chymhwyso barn broffesiynol mewn sefyllfaoedd cynyddol gymhleth.
Mae rhaglen y modiwl yn denu 30 credyd ar Lefel 6.
Darperir y Rhaglen Gadarnhau mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a 10 Awdurdod Lleol a fydd yn cynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Mynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae hyn yn sicrhau bod y modiwl yn berthnasol i anghenion a gofynion y gweithlu. Y Sefydliad Addysg Uwch (SAU) fydd y corff dyfarnu. Caiff y Rhaglen ei dilysu gan y ddau sefydliad addysg uwch a’i chymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru o dan Reolau Cymeradwyo ac Archwilio Cyrsiau Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwyso (Cymru) 2019
Fel ymgeisydd ar gyfer y Rhaglen Gadarnhau, byddwch yn cael eich paru ag Asesydd Ymarfer Gadarnhau gan eich Awdurdod Lleol a fydd yn eich asesu a'ch cefnogi drwy gydol eich taith ddysgu.
Sefydlu
Nod y diwrnod cyflwyno yw darparu amlinelliad o'r diwrnodau a addysgir a'r deilliannau dysgu. Rhoddir trosolwg o'r broses asesu gan gynnwys y gofynion ar gyfer yr aseiniad academaidd a'r portffolio.
Diwrnod 1: Asesu a Dadansoddi o fewn Ymarfer
Nod y diwrnod cyntaf fydd ystyried asesu, asesu risg a rheoli risg a gweithio gyda chymhlethdod. Bydd yn archwilio sut mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud synnwyr o wybodaeth a gyflwynir yn ystod asesiad, gan wneud cysylltiadau rhwng gwerthoedd, theori, deddfwriaeth ac ymarfer. Bydd ystyriaeth o ddadansoddiad a chwilfrydedd proffesiynol, a sut y gall y rhain lywio arferion da o ran asesiadau a gwneud penderfyniadau.
Deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â diwrnod 1:
- 1.1 Deall sut mae fframweithiau deddfwriaethol, safbwyntiau damcaniaethol, safonau a chanllawiau yn cael eu defnyddio i lywio ymarfer asesu.
- 3 Medru cofnodi gwybodaeth asesu i lywio penderfyniadau.
- 4 Medru llunio barn broffesiynol yn seiliedig ar wybodaeth asesu.
- 2. Medru llywio eich rôl fel gweithiwr cymdeithasol mewn sefyllfaoedd sy'n gynyddol gymhleth.
- 6. Medru cyfrannu at brosesau cyfreithiol o fewn cylch gwaith cymdeithasol proffesiynol.
- 7. Medru arddangos atebolrwydd proffesiynol mewn sefyllfaoedd cynyddol gymhleth.
Diwrnod 2: Cyd-destun Cymdeithasol Gwaith Cymdeithasol Fframweithiau Cyfreithiol a Pholisi Cymdeithasol
Nod yr ail ddiwrnod fydd rhoi trosolwg o gyd-destun gwaith cymdeithasol yng Nghymru, ac ystyried dylanwadau polisi a deddfwriaeth a sut mae hyn yn llywio ymarfer yng Nghymru. Bydd yn archwilio dulliau gwaith cymdeithasol a fydd yn hyrwyddo cydweithio er mwyn gwella lles unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr. Bydd hefyd yn ystyried sut y gall arferion gwaith cymdeithasol yng Nghymru gael eu dylanwadu gan faterion a safbwyntiau byd-eang.
Deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â diwrnod 2:
- 2 Medru defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau a dinasyddion i gynnal ystod o asesiadau i hyrwyddo a chefnogi lles.
- 1 Medru cyfathrebu'n effeithiol â phobl sydd angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr
- 2 Medru gweithio mewn partneriaeth ag unigolion a gweithwyr proffesiynol eraill
- 1. Deall y berthynas rhwng polisi cymdeithasol, fframweithiau deddfwriaethol a chanllawiau gyda darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Diwrnod 3: Myfyrio Beirniadol yn Ymarferol
Nodau'r trydydd diwrnod yw ystyried y gwahanol lefelau myfyrio y gellir eu defnyddio'n ymarferol. Bydd yn ystyried sut mae sgiliau myfyrio beirniadol a meddwl yn feirniadol yn cynorthwyo ymarferwyr i reoli cymhlethdod, ac yn galluogi gweithwyr cymdeithasol i werthuso eu dadansoddiadau a'u penderfyniadau eu hunain yn feirniadol o fewn asesiadau gwaith cymdeithasol. Darperir crynhoad o'r gofynion asesu hefyd.
Deilliannau dysgu sy'n gysylltiedig â diwrnod 3
- 5 Medru defnyddio sgiliau myfyrio beirniadol i werthuso dadansoddiadau eich hun mewn asesiadau gwaith cymdeithasol.
- 3 Myfyrio'n feirniadol ar waith cydweithredol eich hun.
Mae'r Rhaglen Gadarnhau ym Met Caerdydd yn cael ei haddysgu wyneb yn wyneb ar Gampws Llandaf ac mae'n cynnwys tri diwrnod a hanner a addysgir. Mae tair carfan ar gyfer y rhaglen hon fesul blwyddyn.
Mae'r Rhaglen Gadarnhau yn defnyddio dull dysgu cyfunol gan gynnwys diwrnodau a addysgir mewn prifysgol, cyfleoedd hyfforddiant seiliedig ar waith, cyfleoedd i arsylwi ymarfer yn uniongyrchol ac astudio a myfyrio hunangyfeiriedig.
Addysgir y Rhaglen gan ddefnyddio myrdd o strategaethau a dulliau addysgu a dysgu, i gynorthwyo a chefnogi dysgu'r gymuned amrywiol o fyfyrwyr sy'n oedolion, megis darlithoedd, ymarferion, astudiaethau achos, fideos, trafodaethau, ac ymarferion rhyngweithiol i hyrwyddo dysgu ymgeiswyr eu hunain.
Mae dwy ran i asesiad y modiwl hwn: asesiad crynodol academaidd (3,000 o eiriau) a phortffolio o dystiolaeth. Mae'r portffolio yn cynnwys un arsylwad uniongyrchol gydag unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr (ac adborth o'r gwaith uniongyrchol hwn), un ymarfer grŵp â chyfoedion, a phedair set o gofnodion goruchwylio. Rhaid pasio dwy elfen yr asesiad er mwyn i’r modiwl 30 credyd gael ei ddyfarnu.
Y meini prawf ar gyfer derbyn ymgeisydd i’r rhaglen yw bod yr ymgeisydd:
- yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a’i fod ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru, neu gofrestr Gwaith Cymdeithasol Lloegr, neu Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban neu Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, (ac yna mae'n ofynnol iddo aros ar y Gofrestr er mwyn ennill dyfarniad).
- yn ymarfer ar hyn o bryd, (a/neu gall gael mynediad at gyfleoedd dysgu ymarfer i ddiwallu anghenion dysgu ac asesu'r modiwlau astudio arfaethedig). Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn cael ei ddangos gan gefnogaeth cyflogwr a/neu reolwr llinell.
- fel arfer yn cael ei enwebu a'i gefnogi gan asiantaethau sy'n ei gyflogi, y mae'n rhaid iddynt roi cadarnhad ysgrifenedig y bydd ymgeiswyr yn cael eu rhyddhau i fynychu'r cwrs, ac y byddant yn cael cymorth digonol ar gyfer y modiwl(au) a astudir, e.e. asesydd ar gyfer unrhyw sylwadau uniongyrchol sy'n ofynnol.
- cyflwyno cais drwy ffurflenni cais y Brifysgol briodol a dod drwy'r Awdurdod Lleol perthnasol.
- wedi cwblhau'r gofynion Blwyddyn Gyntaf mewn Ymarfer ar adeg ymgeisio, sy'n cynnwys yr hyfforddiant gorfodol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol.
- Dylai pob cais gan ymgeiswyr annibynnol ddod drwy'r asiantaeth ategol, sy'n tueddu i fod Adran Hyfforddiant eich Awdurdod Lleol agosaf. Cysylltwch ag Adran Hyfforddiant eich Awdurdod Lleol agosaf i gael rhagor o wybodaeth ar sut i wneud cais am y Rhaglen Gadarnhau ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
- Bydd ymgeiswyr wedi cwblhau'r Flwyddyn Gyntaf o Ymarfer ar adeg ymgeisio.
Os hoffech wneud cais am y Rhaglen Gadarnhau ym Mhrifysgol De Cymru, yna cysylltwch â Thîm/Rheolwr Datblygu'r Gweithlu eich Asiantaeth yn gyntaf (neu Adran Hyfforddiant eich Awdurdod Lleol agosaf os nad ydych yn gweithio i gyngor lleol).
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth am y cwrs yn PDC, cysylltwch â [email protected] (Arweinydd y Modiwl).
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych os oes gennych unrhyw ymholiadau, ac i’ch cefnogi chi gyda’ch datblygiad proffesiynol.