Aboobakar Shahjahan

Mae fy nghariad at awyrennau wedi troi'n yrfa lwyddiannus

Peirianneg

Fe wnaeth labordai â chyfarpar da gyda chyfleusterau i gynnal prawf ar aerodynameg, dynameg hylif, dynameg strwythurol, fy helpu i adeiladu sylfaen beirianneg gref.


Symud oddi cartref i astudio yn PDC 

Mae Aboobakar Shahjahan o Kumily yn India wedi graddio gyda gradd BEng Peirianneg Awyrenegol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae bellach yn gweithio fel Uwch Gydlynydd Atgyweirio Cydrannau i Emirates. 

"Fe es i ar awyren am y tro cyntaf pan oeddwn i'n 21 oed. Fel llawer o blant eraill, roeddwn i wedi fy nghyfareddu gan ruthr awyren wrth iddi esgyn drwy'r awyr. Wnes i erioed golli'r cariad hwnnw at awyrennau ac wrth i mi dyfu'n hŷn, roedd gen i’r un faint o ddiddordeb yn yr agwedd beirianyddol ar awyrennau." 

Erbyn i mi gwblhau fy addysg, roeddwn i'n siŵr ble roeddwn i eisiau bod. Mae gweithio gydag awyrennau yn wefreiddiol ac yn gyfrifoldeb mawr. Fel mae’r hen jôc yn ei ddweud: Efallai bod llawfeddyg yn gyfrifol am un bywyd ar y tro pan fydd o dan ei gyllell, ond mae cannoedd o fywydau'n dibynnu ar allu peirianwyr awyrenegol yn ystod taith hedfan! 

Dewisais astudio dramor a chael gradd mewn Peirianneg Awyrenegol o Brifysgol ym Mhrydain.” 

Dewch o hyd i'ch cwrs

FE WNAETH YR EFELYCHYDD HEDFAN HELPU I EFELYCHU AMODAU TAITH HEDFAN AC ASTUDIO SUT MAE DYLUNIAD AWYRENNAU YN CAEL EFFAITH YN YSTOD EI THAITH.

Aboobakar Shahjahan

Graddedig Peirianneg Awyrenegol

Gwneud y gorau o gyfleusterau o safon diwydiant a chroesawu cyfleoedd 

Trwy gydol fy astudiaethau, cefais fudd o PDC yn rhedeg cyrsiau cydamserol mewn Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau a Pheirianneg Awyrenegol ar yr un campws yn Nhrefforest. Fe wnaeth labordai â chyfarpar da gyda chyfleusterau i gynnal prawf ar aerodynameg, dynameg hylif, dynameg strwythurol, fy helpu i adeiladu sylfaen beirianneg gref. 

Mae meddalwedd cyfrifiadurol safonol y diwydiant fel ANSYS a PHOENICS a meddalwedd dylunio fel AUTOCAD a SolidWorks wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach. 

Fe wnaeth yr efelychydd hedfan fy helpu i efelychu amodau taith hedfan ac astudio sut mae dyluniad awyrennau yn cael effaith yn ystod ei thaith. Ar ben hynny, roedd y llyfrgell yn llawn llyfrau ac erthyglau ar ddylunio a chynnal a chadw awyrennau. 

Cefais leoliad gyda GE Aviation Wales fel Intern Gweithrediadau. Roedd y lleoliad yn rhan o'r rhaglen ryngosod mewn Peirianneg Awyrenegol ym Mhrifysgol De Cymru. Gweithiais yn y llinell datgymalu a chydosod injans awyrennau masnachol GP7200, gan reoli gweithrediadau dyddiol y siop. Roedd yn brofiad anhygoel, yn dysgu sut mae miloedd o rannau yn dod at ei gilydd i ffurfio injan awyren. 

Roedd bod yn fyfyriwr rhyngwladol mewn gwlad a oedd yn llai cyfarwydd yn cyflwyno heriau cyffrous. Mae cymuned y myfyrwyr yn PDC yn amlddiwylliannol, sy'n golygu fy mod wedi cymysgu â phobl sy'n dod o wahanol rannau o'r byd. Mae Cymru ei hun yn wlad i gael ei harchwilio oherwydd ei diwylliant, ei thraddodiad a’i thirwedd hardd. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Peirianneg?

Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.