Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau
Cymeradwy gan y diwydiant. Parod ar gyfer gyrfa. Yr unig radd yn y DU lle mae eich hangar, trwydded a dyfodol yn cychwyn gyda'i gilydd.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
H402
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Enillwch eich gradd anrhydedd a thrwydded EASA Rhan-66 B1.1. Rydym wedi’n hachredu gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ac rydym yn Ddarparwr Hyfforddiant Cymeradwy gan Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hud teithio awyr wedi swyno pobl ers dros 120 mlynedd. Os ydych chi'n cael eich swyno gan sut mae pethau'n gweithio ac yn hoffi baeddu'ch dwylo i ddarganfod, gallai cynnal a chadw awyrennau fod ar eich cyfer chi. Byddwch chi'n barod i weithio'n galed am dair blynedd, gan wybod bod pob diwrnod yn eich dwyn yn agosach at eich swydd ddelfrydol.
Achrediadau
Rydym wedi’n hachredu gan yr Awdurdod Hedfan Sifil ac rydym yn Ddarparwr Hyfforddiant Cymeradwy gan Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn dysgu'r hanfodion yn y lle cyntaf, gyda modiwlau mathemateg, ffiseg, mecaneg ac electroneg.
Yna byddwn yn dechrau cymhwyso'r hyn a ddysgwyd i awyrofod ac awyrennau masnachol.
Byddwch yn dod i ddeall yr aerodynameg a'r ffiseg sy'n gysylltiedig â hedfan a'r mecanweithiau rheoli a ddefnyddir i gynnal uchder, cyflymder a chyfeiriad.
Dysgwch hanfodion peirianneg Drydanol ac Electronig yn barod ar gyfer systemau afioneg mwy cymhleth.
Datblygwch ddealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r deunyddiau a'r gofynion caledwedd ar gyfer dylunio awyrennau, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw.
Dysgwch y sgiliau meddal sydd eu hangen ar beirianwyr, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, cynllunio datblygiad proffesiynol a dadansoddi beirniadol.
Astudiwch egwyddorion mathemategol a datblygwch y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i gymhwyso datrysiadau mathemategol i broblemau peirianneg awyrennau.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cymhwyso'ch gwybodaeth drwy gyfres o heriau ymarferol.
Byddwch yn cael amser yn ein hawyrendy, gan weithio ar awyrennau go iawn, meistroli'r fecaneg ac yn dod i ddeall sut gall ffactorau dynol wneud gwahaniaeth.
Meistrolwch yr hyn sydd angen i chi ei wybod er mwyn cyflawni tasgau cynnal a chadw awyrennau a gwaith papur deddfwriaethol.
Dysgwch am synwyryddion awyrennau a'u profion gweithredu a sut i'w rhyngwynebu i system ddigidol.
Datblygwch wybodaeth a dewch i ddeall am heriau'r cwmnïau hedfan wrth gynnal a chadw a gweithredu awyrennau mewn amgylchedd masnachol cystadleuol.
Defnyddiwch astudiaethau achos i ddeall sut mae Ffactorau Dynol yn dylanwadu ar y prosesau a'r gweithdrefnau a oedd yn arferion safonol ar un tro ac yn eu newid.
Datblygwch wybodaeth fanwl am yr agweddau damcaniaethol ar adeiladu, rheoli, gweithredu, cynnal a chadw a storio propelorau.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwn yn rhoi'r cyfan at ei gilydd. Byddwch yn dysgu am systemau awyrennau a'r lefelau uchaf mewn diogelwch awyrennau.
Byddwn yn edrych ar dechnolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg ac yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn addas i'r dyfodol. Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiect grŵp a phrosiect unigol er mwyn profi eich sgiliau.
Parhewch i ddatblygu sgiliau peirianneg cynnal a chadw drwy ymchwilio i systemau gyriant, eu heffaith ar yr amgylchedd a datrysiadau cynaliadwy amgen.
Rhowch eich sgiliau a'ch gwybodaeth at ei gilydd i adolygu gwaith cynnal a chadw awyrennau.
Byddwch yn dod i ddeall deddfwriaeth y sector hedfan a'r deddfau yn ymwneud â chynnal a chadw awyrennau a sut maent yn diffinio eich disgwyliadau a'ch cyfrifoldebau.
Byddwch yn dod i ddeall sut mae sefydliad MRO RHAN-145 yn gweithio, gan gynnwys Ffactorau Dynol, Diogelwch Tanciau Tanwydd a Systemau Rhyng-gysylltedd Weirio Trydanol.
Cewch gipolwg ar weithio mewn sefydliad MRO Rhan-145 rheoleiddiedig drwy baratoi a chynnal gweithgareddau cynnal a chadw.
Datblygwch gynllun prosiect i adolygu problem peirianneg awyrennau a gwnewch waith ymchwil manwl mewn cynnal a chadw awyrennau neu ddylunio datrysiad peirianneg.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac asesu
Mae hwn yn gwrs dwys ar amser sy'n gwneud y mwyaf o'ch oriau astudio bob wythnos. Gallwch ddisgwyl treulio rhyw 27 awr yr wythnos rhwng pob ystafell ddosbarth a chyfleuster ymarferol. Rydym yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr eich bod yn cwblhau eich cwrs yn barod i ddechrau gweithio yn y diwydiant, felly byddwn yn addysgu yn gyntaf ac yna'n dangos, gan roi'r cyfle i chi gael profiad ymarferol gydag awyren yn ein hawyrendy.
Byddwch yn dysgu'r union weithdrefnau a ddefnyddir yn y diwydiant ac yn cwblhau'r cwrs gyda'r holl wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd yn syth i weithio ar awyren. Byddwn yn asesu eich cynnydd drwy aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth parhaus, gwaith ymarferol ac arholiadau.
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cymysgedd o theori a gwaith ymarferol sy’n adlewyrchu anghenion diwydiant y byd go iawn. Mae hyn yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a phrofion dosbarth rheolaidd, yn ogystal ag arholiadau ffurfiol i brofi eich dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg a systemau hedfan.
Mae gwaith ymarferol yn rhan allweddol o'ch asesiadau. Byddwch yn cwblhau tasgau ymarferol mewn gweithdai a’r awyrendy i ddangos eich sgiliau technegol.
Byddwch hefyd yn cwblhau prosiectau grŵp ac unigol, lle byddwch chi'n defnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i ddatrys problemau peirianneg go iawn. Bydd y prosiectau hyn yn eich helpu i adeiladu eich sgiliau datrys problemau a phroffesiynol a'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel peiriannydd cynnal a chadw awyrennau.
Mae ein cydberthnasau agos â diwydiant yn ein helpu i wneud yn siŵr eich bod yn cael pob cyfle i ddysgu a phrofi bywyd wrth weithio. Mae'r cwrs yn cynnwys modiwl cyflogadwyedd yn eich trydedd flwyddyn pan gewch eich annog i gysylltu â'r diwydiant i ddysgu mwy am yr hyn y maent yn chwilio amdano gan ddarpar gyflogeion. Rydym yn mynd ar daith flynyddol i Ryanair ac yn gweithio gyda Virgin Atlantic er mwyn mynd â chi allan o gampws y brifysgol ac i mewn i'r gweithle.
Daw llawer o'n myfyrwyr yma am ein cyfleusterau, sydd ymhlith rhai o'r goreuon yn y byd. Os byddwch am gadw awyrennau'n ddiogel, credwn fod angen i chi ddysgu ar awyren go iawn. Mae ein hawyrendy'n cynnwys BAE Jetstream er mwyn cynnig amgylchedd cynnal a chadw efelychiadol. Mae gennym hefyd ddynwaredwr hedfan Boeing 747, cefn corff A320, tri gweithdy metelau dalen, gweithdy cyfansoddion, ystafell afioneg a llu o beiriannu i ddysgu arnynt.
Bydd tasgau'n cael eu pennu i chi sy'n cynnwys tynnu a newid gêrs glanio a thynnu ac ailosod propelor. Byddwch yn dysgu beth mae'n ei gymryd mewn amser go iawn gan ddefnyddio offer go iawn eich crefft.
Arweinydd y Cwrs
Gary Dornan
Mae gan Gary dros 14 mlynedd o brofiad dysgu ac mae'n canolbwyntio ar ddysgu ymarferol sy'n seiliedig ar efelychu ym maes cynnal a chadw awyrennau, gan helpu myfyrwyr i feithrin hyder, sgiliau arwain a pharodrwydd ar gyfer y byd go iawn. Cyn troi at ddysgu, bu'n gweithio ym maes peirianneg awyrennau yn Bombardier, gan gyfrannu at raglenni mawr gyda Boeing, Airbus a Rolls-Royce. Mae'n cynnal cysylltiadau agos â'r diwydiant er mwyn sicrhau bod y cwrs yn gyfredol ac i gefnogi cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae dull dysgu Gary yn cyfuno gwybodaeth dechnegol gadarn â phwyslais ar gyfathrebu, gwaith tîm a phroffesiynoldeb, gan eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes hedfan.
Oes gennych chi gwestiynau am y cwrs, y dull dysgu neu a yw'n addas i chi? Cysylltwch â Gary yn uniongyrchol drwy e-bost.
Gofynion mynediad
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys Mathemateg neu bwnc rhifol
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC ar gyfer Lefel A i gynnwys Mathemateg neu bwnc rhifyddol.
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg.
Mynediad i AU:
Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Mathemateg/Gwyddoniaeth a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
P
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion