Mathew Mugwagwa

Ymgysylltu â diwydiant wrth astudio

Peirianneg
A student is standing under the wing of a plane unscrewing some bolts.

Mae darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, fel cynrychiolwyr o Ryanair, a mynediad at gynghorwyr gyrfa, wedi cyfoethogi fy mhrofiad dysgu.


Yn gydymaith perffaith ar fy nhaith at Gynnal a Chadw Awyrennau 

Fel myfyriwr Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau uchelgeisiol yn PDC, roeddwn i'n gwybod fy mod wedi dod o hyd i'm cwrs perffaith ar ôl i adolygiadau gwych fy narlithydd coleg fy arwain at wneud ymchwil ar y Brifysgol. Cadarnhawyd fy mhenderfyniad ar ôl mynychu taith campws haf. Roedd y siediau awyrennau yn anhygoel ac yn ymddangos fel yr amgylchedd gorau i fyfyriwr Cynnal a Chadw Awyrennau ddysgu a llwyddo. 

Wedi fy ysgogi gan ddyhead hirsefydlog i ddod yn Beiriannydd Cynnal a Chadw Awyrennau Trwyddedig, fe wnes i ganfod y llwybr carlam yn PDC, sy’n caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso fel Peiriannydd B1.1 mewn 3 blynedd yn lle’r 5 arferol, yn gyfle rhy dda i’w golli. Rwy'n mwynhau gweithio gyda fy nwylo a datrys problemau heriol, gyda fy ngwaith ymarferol yn yr efelychydd Boeing 747 yn sefyll allan fel uchafbwynt fy nghwrs. 

Mae'r cwricwlwm cynhwysfawr wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o systemau awyrennau cymhleth, gan fy ngwneud yn fwy cyflogadwy. Mae'n rhaid i mi ganmol fy narlithwyr a thechnegwyr am eu rhagoriaeth addysgu, yn enwedig yn ystod y modiwl 'Systemau Offeryniaeth Awyrennau'. Mae’r ffordd mae’r modiwl yn cael ei ddysgu yn agoriad llygad i sut mae systemau amrywiol yn rhyngweithio â’i gilydd i wneud i awyren hedfan. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

FE WNES I GANFOD Y LLWYBR CYFLYM YN PDC, SY'N CANIATÁU I FYFYRWYR GYMHWYSO FEL PEIRIANNYDD B1.1 O FEWN 3 BLYNEDD YN LLE'R 5 ARFEROL, YN GYFLE RHY DDA I’W GOLLI.

Mathew Mugwagwa

Myfyriwr Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau

Meithrin cysylltiadau yn y Brifysgol

Mae fy nghwrs wedi cynnig cyfleoedd gwych i mi ymgysylltu â diwydiant. Mae darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, fel cynrychiolwyr o Ryanair, a mynediad at gynghorwyr gyrfa, wedi cyfoethogi fy mhrofiad dysgu. Mae teithiau maes, fel ymweliad ag amgueddfa’r Awyrlu, wedi ehangu fy safbwynt i ar esblygiad y diwydiant hedfan.  

Cafodd fy sgiliau ymarferol eu hogi gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a meddalwedd PDC, i gyd wedi'u hanelu at fy siapio i fod yn beiriannydd awyrennau llwyddiannus. I'r rhai sy'n ystyried llwybr tebyg, fy nghyngor i yw, hyd yn oed os oes gennych y sbarc neu'r teimlad lleiaf y gallech weld eich hun yn gweithio ar awyrennau ac yn ei fwynhau, yna ewch amdani. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Peirianneg?

Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.