Shaun Burns

Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb fy ngradd

Peirianneg
Shaun poses for a photo in his workplace. He is wearing a green zip-up coat.

Penderfyniad gorau fy ngyrfa oedd yr un gwnes i wrth ddewis gwneud gradd brifysgol.


Gyrfa ym maes Peirianneg yn fy ysbrydoli i ddilyn cwrs gradd 

Graddiodd Shaun Burns gyda BEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ac mae bellach yn Beiriannydd Dylunio Electronig ac yn Arweinydd Tîm Peirianneg gyda Fike UK yng Nghwmbrân.  

Rwy'n gweithio gyda thîm o 12 o beirianyddion. O fewn y tîm, fi sy’n gyfrifol am ddyluniadau electronig llawn cynnyrch newydd ac am unrhyw newidiadau electronig i gynnyrch sydd eisoes ar y farchnad. Mae hyn yn cynnwys dylunio cylchedau (digidol ac analog), cipio sgematig, efelychiadau, cynlluniau Byrddau Cylched Printiedig, a chynhyrchu data gweithgynhyrchu. Rwy'n gweithio'n agos gyda rhaglenwyr a pheirianwyr mecanyddol i ddatblygu cynnyrch newydd ac i ddatrys problemau, ac rwyf hefyd yn gyfrifol am gynnal profion ar gynnyrch prototeip. 

Pan nad ydw i'n gwneud yr uchod, rwy'n gweithio ar ddatblygu syniadau arloesol newydd. 

Rwyf wrth fy modd yn datrys problemau’n llwyddiannus, yn enwedig pan fo’r broses o’u datrys wedi bod yn hir o ran ymchwilio, datblygu a phrofi! Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweithio gyda thîm o beirianyddion aml-sgil sy’n cydweithio'n agos i ddylunio cynnyrch newydd yn llwyddiannus. Mae'n broffesiwn da i fod ynddo. Mae'r diwydiant electronig/peirianegol yn newid yn gyson ac yn gyflym oherwydd gofynion technolegol. Mae yna hefyd gydbwysedd braf rhwng gweithio dan bwysau a gweithio mwy hamddenol. 

Penderfyniad gorau fy ngyrfa oedd yr un gwnes i wrth ddewis gwneud gradd brifysgol. Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb fy ngradd. 

Y PETH MWYAF GWERTHFAWR YW MOR AMRYWIOL OEDD CYNNWYS Y CWRS, SY'N RHOI CYFLE I CHI FYND YN EICH BLAEN I LAWER O SWYDDI GWAHANOL YN Y DIWYDIANT PEIRIANNEG.

Shaun Burns

Graddedig Peirianneg Trydanol ac Electronig

Dewis astudio Peirianneg Drydanol 

Ges i sgwrs gyda Debra Meaden (un o fuddsoddwyr Dragons Den) oedd yn ymweld â'r cwmni lle ro’n i'n gweithio. Rwy'n cofio dweud wrthi fy mod i'n ystyried gwneud gradd beirianneg, ac wedi bod yn meddwl amdano ers sawl blwyddyn, ond heb yr i gychwyn arni. Roedd hi'n wir yn gadarnhaol am yr hyn ro’n i eisiau ei gyflawni a dywedodd wrtha i i fynd amdani, a dyna wnes i! 

Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb fy nghymhwyster ac mae'n cynyddu eich hyder o’r cychwyn cyntaf. 

Y peth mwyaf gwerthfawr yw pa mor amrywiol mae’r cwrs, sy'n rhoi cyfle i chi fynd yn eich blaen i lawer o swyddi gwahanol yn y diwydiant peirianneg. Hefyd, mae dysgu delio â'r llwyth gwaith sydd gyda chi wrth wneud gradd mewn radd peirianneg yn addysg werthfawr. Mae'n eich gwthio chi, ac mae'n anodd ar adegau, ond mae’r teimlad o lwyddiant wrth gwblhau yn brofiad gwych.

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Peirianneg?

Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.