Peirianneg Drydanol ac Electronig
Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Electroneg. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â NiManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
HQ00
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
H601
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Wrth i'r diwydiant electroneg barhau i dyfu ledled y byd, mae'r galw am raddedigion peirianneg drydanol ac electronig yn uchel. Mae BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig yn cynnig cydbwysedd iach rhwng theori ac ymarfer, gyda'r nod o gynhyrchu graddedigion sy'n gallu chwarae rolau blaenllaw mewn diwydiant.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr trydanol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y mae'r byd yn gweithio, dyma'r cwrs i chi.
Bod yn barod ar gyfer y diwydiant
- Wedi'i gynllunio i fodloni gofynion canlyniadau dysgu fersiwn 4 Achrediad Rhaglenni Addysg Uwch Cyngor Peirianneg y DU.
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Dylunio Electronig
- Peiriannydd Electroneg a Chyfathrebu
- Peiriannydd Systemau Pŵer
- Peiriannydd Ffonau Symudol a Chyfathrebu
Sgiliau a addysgir
- Dylunio Electronig
- Optoelectroneg a Systemau
- Dylunio systemau pŵer
- Systemau rhwydwaith diwifr
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae blynyddoedd un a dau yn darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd olaf y cwrs peirianneg drydanol. Mae'r meysydd astudio’n cynnwys electroneg analog a digidol, systemau sydd wedi’u hymwreiddio, mathemateg, pŵer, peiriannau a rheolaeth, a signalau a chyfathrebu digidol. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymdrin â dylunio electroneg, dylunio system reoli, electroneg pŵer a gyriannau, telathrebu a dylunio systemau wedi’u hymwreiddio. Byddwch yn cyflawni prosiect ymarferol mawr hefyd.
Mae blynyddoedd un a dau yn darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd olaf y cwrs peirianneg drydanol. Mae'r meysydd astudio’n cynnwys electroneg analog a digidol, systemau sydd wedi’u hymwreiddio, mathemateg, pŵer, peiriannau a rheolaeth, a signalau a chyfathrebu digidol. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymdrin â dylunio electroneg, dylunio system reoli, electroneg pŵer a gyriannau, telathrebu a dylunio systemau wedi’u hymwreiddio. Byddwch yn cyflawni prosiect ymarferol mawr hefyd.
- Mathemateg i Beirianwyr - 20 credyd
- Egwyddorion Trydanol - 20 credyd
- Cymwysiadau Peirianneg - 20 credyd
- Cyflwyniad i raglennu C a Systemau wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd
- Electroneg Analog a Digidol 1- 20 credyd
- Diogelwch Iechyd a Datblygiad Proffesiynol - 20 credyd
- Cyfathrebu Analog a Digidol - 20 credyd
- Pŵer, Peiriannau a Dyfeisiau Electronig Pŵer - 20 credyd
- Egwyddorion Trydanol a Dulliau Dadansoddol - 20 credyd
- Ffurfweddu a Rhaglennu Systemau wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd
- Electroneg Analog a Digidol 2- 20 credyd
- Prosiect Grŵp a Rheoli i Beirianwyr - 20 credyd
- Peirianneg Cyfathrebu a Chymhwyso - 20 credyd
- Dylunio System Reoli - 20 credyd (Dewisol)
- Electroneg a Gyriannau Pŵer - 20 credyd
- Systemau Uwch wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd (Dewisol)
- Dylunio Electroneg - 20 credyd
- Prosiect Singleton a Rheoli Prosiectau (40)
- Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth - 120 credyd
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai sy'n cynnwys modelu systemau ymarferol ac efelychiadau gan ddefnyddio cyfleusterau caledwedd a meddalwedd o'r radd flaenaf. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil dan oruchwyliaeth hefyd a gefnogir gan fynediad llawn at gyfleusterau ar-lein a llyfrgell o'r radd flaenaf.
Mae'r llwybr llawn amser yn cael ei gyflwyno mewn tri bloc mawr. Cwblheir chwe modiwl a addysgir yn ystod dau floc addysgu sy'n cynnwys 12 awr gyswllt yr wythnos ac yna prosiect ymchwil mawr 16 wythnos o hyd. Hyd y cwrs yw tua 14 mis.
Staff addysgu
Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, yn sgil gweithio mewn diwydiant neu gyda diwydiant, cynnal gwaith ymchwil, cyflwyno mewn cynadleddau, cyhoeddi eu gwaith, a llywio eich astudiaethau gyda'r ddealltwriaeth ddiweddaraf.
Lleoliadau
Rydym yn eich annog i ennill profiad yn y gweithle fel rhan o'ch gradd mewn peirianneg. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau blwyddyn o hyd gyda chwmnïau amrywiol, gan gynnwys Tata Steel, 3M, Renesas, Airbus UK, Renishaw, GlaxoSmithKline, Panasonic, Bosch, ac IBM.
Cyfleusterau
Mae ein llyfrgell Prifysgol o'r radd flaenaf yn darparu mynediad i gyhoeddiadau byd-eang o bwys. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys labordy rhwydweithio Academi Cisco, labordy Cyfathrebu Di-wifr gyda siambr ddiadlais 1-65 GHz, gorsaf gyfathrebu lloeren, a labordy efelychu Systemau Cyfathrebu gyda'r feddalwedd ddiweddaraf fel MATLAB.
Mae'r labordy Calypto, a noddir gan Calypto Design Systems Inc, yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch electronig cyflym, cost-effeithiol gyda grant meddalwedd gwerth £1.9m, sy'n unigryw i brifysgolion dethol ledled y byd.
Mae gan ein labordy Systemau Gwreiddio, a gynlluniwyd gyda gwerthwyr microreolwyr blaenllaw, 32 o gyfrifiaduron datblygedig gyda'r offer dylunio electronig diweddaraf, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gweithio gyda thechnolegau blaengar.
Hyb Arloesi yn PDC
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 112 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBC i gynnwys Mathemateg a phwnc rhifog fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Ddaearyddiaeth
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BB Lefel A i gynnwys Mathemateg a phwnc rhifog fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Daearyddiaeth
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg a Pheirianneg neu Wyddoniaeth
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Mathemateg / Gwyddoniaeth a chael o leiaf 112 pwynt tariff UCAS
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£9,250
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Buddsoddwch yn eich dyfodol
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.