Roedd pob modiwl yn cysylltu theori yn uniongyrchol ag arferion gwaith y diwydiant, gan fy helpu i ddeall yr hyn ro’n i'n ei ddysgu, ac hefyd sut y byddai'n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Dewis y cwrs cywir gyda chyfeiriad clir
Des i i Brifysgol De Cymru i astudio MSc mewn Electroneg a Thechnoleg Gwybodaeth ar ôl cwblhau fy ngradd baglor mewn peirianneg electroneg yn India. Ar ôl cael saib o’r byd addysg, ro’n i’n gwybod yn iawn beth o’n i am ei astudio ac roedd hyn ym mlaen fy meddwl wrth ymchwilio i’r opsiynau o ran cyrsiau oedd yn cyd-fynd â fy nodau gyrfa.
Pan wnes i ymchwilio i wahanol brifysgolion, roedd PDC yn arbennig o atyniadol oherwydd y cwricwlwm. Roedd cynnwys y cwrs yn cyd-fynd yn union â'r hyn ro’n i eisiau ei ddysgu, ac fe wnes i ddod o hyd iddo trwy Google a LinkedIn wrth ymchwilio. Rhoddodd yr eglurder a'r aliniad hwnnw yr hyder i fi ddewis PDC ar gyfer fy astudio ôl-raddedig.
Dewch o hyd i'ch cwrsMeithrin hyder trwy ddysgu ymarferol
Un o agweddau mwyaf gwerthfawr y cwrs oedd y ffocws cryf ar ddysgu ymarferol. Roedd pob modiwl yn cysylltu theori yn uniongyrchol ag arferion gwaith y diwydiant, gan fy helpu i ddeall yr hyn ro’n i'n ei ddysgu, ac hefyd sut y byddai'n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Gwnaeth cael mynediad at fyrddau rhaglenadwy am y semester cyfan ganiatáu i fi ymarfer yn annibynnol ac adeiladu fy hyder, yn enwedig mewn rhaglennu.
Mae'r gefnogaeth ges i yn PDC hefyd wedi bod yn rhan enfawr yn fy mhrofiad. Roedd y darlithwyr yn hynod gefnogol ac hygyrch, ac ro’n nhw bob amser yn barod i gynnig arweiniad pan fyddai angen help arna i. Fe wnaeth eu hanogaeth, eu hamynedd, a'u hadborth adeiladol fy helpu i oresgyn heriau a thyfu, yn academaidd ac yn bersonol. Yn ystod fy MSc, fe ges i rôl tiwtora rhan amser trwy blatfform gyrfaoedd PDC, ac ar ôl graddio ges i gynnig PhD wedi'i ariannu'n llawn yn y brifysgol. Dwi bellach yn dilyn gyrfa yn y byd academaidd ac ymchwil, gyda ffocws ar fentora a chefnogi myfyrwyr.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Peirianneg?
Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.