Waseem Akram

Dilyn gyrfa ryngwladol drwy Beirianneg Fecanyddol

Peirianneg
A smartly dressed student using a piece of mechanical engineering equipment in a USW engineering workshop at the Treforest campus

Mae’r ddealltwriaeth gynhwysfawr rwyf wedi’i hennill o bynciau craidd peirianneg fecanyddol wedi cynyddu fy hyder yn sylweddol yn fy nghyflogadwyedd.


Pam dewisais PDC am fy ngradd meistr 

Dechreuodd fy nhaith i PDC wrth imi geisio  am brofiad astudio dramor, er mwyn ehangu fy safbwynt. Wedi ysgogi gan fy awydd am drochi diwylliannol a gwybodaeth. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y syniad o astudio yng Nghymru, a gyda’i gyfuniad o leoliad a strwythur y cwrs, darganfyddai mai Prifysgol De Cymru oedd y brifysgol berffaith i mi. 

Cefais werth mawr yn yr holl fodiwlau rwyf wedi’u hastudio, yn enwedig y modiwl ar systemau Gwresogi Diwydiannol. Helpodd y cwrs hwn i freinio fy sgiliau cyfrifiannell trwy Excel Solver, sgil rwy’n hyderus y bydd yn hanfodol yn fy ngyrfa. Mae’r ddealltwriaeth gynhwysfawr rwyf wedi’i hennill o bynciau mecanyddol craidd wedi cynyddu fy hyder yn sylweddol yn fy nghyflogadwyedd.

Dewch o hyd i'ch cwrs

YN PDC RWYF WEDI YMGYSYLLTU Â’R DIWYDIANT TRWY DEITHIAU MAES, MEGIS ARCHWILIAD O GEIR CHWARAEON YM MIRMINGHAM.

Waseem Akram

Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol

Sgiliau ymarferol ac amgylchedd cefnogol

Yn PDC rwyf wedi ymgysylltu a’r diwydiant trwy deithiau maes, megis archwiliad o geir chwaraeon ym Mirmingham, gan ychwanegu dyfnder ymarferol at fy nysgu. Rwyf hefyd wedi meistroli meddalwedd fel ANSYS a chodio Matlab, sy’n cael eu hystyried yn bwysig yn fy maes, gan ddangos perthnasoedd diwydiannol y Cwricwlwm. 

Drwy gydol fy nhaith academaidd, rwyf wir wedi gwerthfawrogi’r cymorth oedd ar gael yn PDC, yn enwedig yn ystod Ramadan. Mae’r cyfeillgarwch ymhlith fy ffrindiau yn yr adran hefyd wedi fy nghefnogi’n fawr yn ystod cyfnodau anodd. Yn gyffredinol, mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol De Cymru wedi gadel argraff ddofn arnaf, ac rwy’n credu’n sicr mai PDC yw’r gorau! 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Peirianneg?

Lluniwch y dyfodol gyda Pheirianneg yn PDC, gan ddatblygu atebion arloesol mewn seilwaith cynaliadwy, ynni adnewyddadwy, systemau awyrofod, ac awtomeiddio deallus.