Myfyrwyr LHDTC+
Rydym yn croesawu pob myfyriwr yn PDC, beth bynnag yw eu hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac mae’n bwysig i ni bod holl aelodau ein prifysgol yn gallu mynegi eu hunain yn ddilys tra’n teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Bywyd Myfyrwyr/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/campaigns/lgbqt-history-month/LGBT-friends-by--FG-Trade-on-Getty.jpg)
P’un a ydych chi’n dechrau archwilio’ch hunaniaeth neu os ydych chi wedi bod allan ac yn falch ers blynyddoedd, mae gennym ni amrywiaeth o gefnogaeth ac adnoddau ar gael.
HYRWYDDWR AMRYWIAETH STONEWALL
Mae PDC wedi bod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ers 2016 ac mae ein holl leoliadau yn croesawu'r gymuned LHDTC+. Mae un o’n campysau yng Nghaerdydd – dinas sy’n adnabyddus am ei golygfa a’i chymuned LHDTC+ anhygoel.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth A Chynhwysiant yn PDCBeth mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i mi
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/campaigns/idahobit/about-us-idahobit.jpg)
Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia
Sefydlwyd y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia yn 2004 i dynnu sylw at y trais a gwahaniaethu a brofir gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, rhyngryw a phawb sydd â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd a nodweddion rhyw amrywiol.